Neidio i'r prif gynnwy

Feirysau'r gaeaf ar gynnydd - cadwch eich dwylo'n lân er mwyn amddiffyn cleifion

24 Hydref 2025

Wrth i'r misoedd oeraf ddod yn nes, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn atgoffa pawb sy'n ymweld ag ysbytai a lleoliadau gofal iechyd am bwysigrwydd syml ond hollbwysig hylendid y dwylo o ran helpu i atal rhag lledaenu heintiau.

Gan fod mwy o feirysau anadlol fel y ffliw a COVID-19 yn cylchredeg ar yr adeg yma o'r flwyddyn, mae cadw ein dwylo'n lân yn un o'r ffyrdd mwyaf hawdd ac effeithiol o amddiffyn ni'n hunain, ein hanwyliaid, a chleifion sy'n agored i niwed.

Mae ymchwil yn dangos bod pobl yn cyffwrdd â'u hwyneb ryw 16 a 23 gwaith bob awr, a hynny'n aml heb sylweddoli eu bod yn gwneud hynny. Mae pob cyffyrddiad yn gyfle i feirysau fynd i mewn i'r corff trwy'r llygaid, y trwyn, neu'r geg - neu i gael eu lledaenu ag eraill trwy gysylltiad ag arwynebau. Mae golchi'r dwylo'n briodol gyda sebon a dŵr cynnes am o leiaf 20 eiliad yn lleihau'r tebygolrwydd o ledaenu germau'n sylweddol a gall leihau'r risg o heintiau anadlol o hyd at 20%.

Mae ymwelwyr yn cael eu hatgoffa i wneud y canlynol:

  • Golchi neu diheintio'r dwylo wrth fynd i mewn i wardiau neu adrannau ysbyty ac wrth adael.
  • Cadw draw os ydych yn teimlo'n sâl, yn enwedig os oes gennych annwyd, y ffliw, neu symptomau stumog.
  • Helpu i amddiffyn cleifion sy'n agored i niwed ac sy'n oedrannus trwy ddilyn arweiniad ar atal heintiau.

Dywedodd Dafydd Williams, Arweinydd Gwasanaeth Clinigol Atal Heintiau ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: "Mae hylendid y dwylo'n un o'r ffyrdd mwyaf syml ac effeithiol o atal heintiau rhag lledaenu. Bob gaeaf, rydym yn gweld cynnydd mewn salwch anadlol, a thrwy gymryd camau bach fel golchi eich dwylo'n rheolaidd, gallwch wneud gwahaniaeth mawr.

"Rydym yn gofyn i bawb wneud eu rhan - peidiwch ag ymweld os ydych yn teimlo'n sâl, defnyddiwch y gorsafoedd diheintio a ddarparwyd, ac osgowch eistedd ar y gwelyau. Mae'n ymwneud â chadw ein cleifion yn ddiogel, yn enwedig y rhai sy'n fwy agored i salwch difrifol."

 

Amddiffynnwch eich hun a'ch teulu rhag salwch y gellir ei atal dros y gaeaf

I gael rhagor o wybodaeth am sut i amddiffyn chi'ch hun ac eraill rhag feirysau'r gaeaf, ewch i'n gwefan