Neidio i'r prif gynnwy

Enwi canolfan hyfforddiant dadebru er cof am feddyg ymgynghorol 'ymroddedig...llawn bywyd'

10.02.2025

Mae canolfan hyfforddiant dadebru, a hyrwyddwyd gan feddyg pediatrig ymgynghorol uchel ei barch wedi cael ei hailenwi'n swyddogol er cof amdano.

Cafodd Dr Nick Nelhans ei ddisgrifio fel “cymeriad llawn bywyd” gan gyn-gydweithwyr mewn seremoni i enwi Uned Hyfforddiant Dadebru Nick Nelhans, yn Ysbyty Glan Clwyd, ddydd Mawrth, Chwefror 4.

Yn feddyg pediatreg ymgynghorol uchel ei barch ers Ebrill 2001, bu Nick yn gweithio yn Ysbyty Maelor Wrecsam. Yr oedd ef a’i wraig Fiona, arbenigwr cyswllt yn y tîm anaestheteg ar yr un safle,  yn eiriolwyr brwd dros hyfforddiant dadebru a bu’n rhan allweddol o sicrhau lle ar gyfer cartref newydd y tîm dadebru.

Talwyd teyrnged i waith Nick a’i etifeddiaeth gan gadeirydd BIPBC, Dyfed Edwards yn yr agoriad swyddogol

“Dylem ni gyd fod yn ddiolchgar am yr hyn a wnaeth Nick” dywedodd Dyfed Edwards “ac rydym yn sefyll yma heddiw oherwydd ei ymdrechion ef. Gallwn weld etifeddiaeth yma ar gyfer staff y dyfodol, un sydd wedi'i sicrhau gan Dr Nelhans. Roedd yn amlwg yn angerddol ac yn awyddus i sicrhau bod y cyfleusterau gorau posibl ar gael ar gyfer y gwasanaeth hwn sy’n achub bywydau.”

Darllenwch fwy: Gwasanaethau Dadebru - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Roedd rheolwr y gwasanaethau dadebru, Sarah Bellis, yn cofio’n annwyl am Nick ar y diwrnod y derbyniodd y gydnabyddiaeth hon wedi iddo farw.  

“Rydym ni gyd yn gweld ei eisiau’n fawr.” meddai. “Rydym yn falch iawn i weld yr uned hyfforddi dadebru hon ar ei thraed  oherwydd bod Nick a’r tîm cyfan wedi gweithio mor galed i’w sicrhau.”

“Bydd yr uned hon o fudd i’n cydweithwyr a’n cleifion oherwydd bydd yn cynnig hyfforddiant ar gyfer cyrsiau dadebru ar bob lefel ar y safle ac yn caniatáu i’r tîm gwasanaethau dadebru fod  ar y safle ac ar gael pan fo’u hangen.”

Disgrifiwyd Nick fel un a roddodd cefnogaeth enfawr i’r gwasanaeth dadebru ac aelodau ei dîm ar ôl dod yn gyfarwyddwr clinigol dros 10 mlynedd yn ôl. Roedd ei arddull addysgu “heb ei ail”, yn hamddenol a chynhwysol ac roedd ganddo ddawn naturiol i wneud i ymgeiswyr deimlo’n gartrefol.

Byddai Nick a'i wraig Fiona yn aml yn cymryd sesiynau hyfforddi dadebru uwch ar gyfer staff. Byddai’n aml yn arwain y sesiynau tra’n gwisgo ei grys-t ‘Bristol stool chart’, neu un o nifer o rai eraill oedd yn dangos yn glir ei hiwmor a’i natur hawddgar. Roedd yn sicr yn gwybod sut i wneud i rywun deimlo’n gartrefol.

Daeth Fiona Nelhans i’r seremoni gyda'u mab Andrew, myfyriwr meddygol a deithiodd i fyny o Brifysgol Abertawe ar gyfer yr achlysur. Roedd hi’n falch iawn y byddai enw ei gŵr bellach yn rhan o’r uned.

Darllenwch fwy: Mae angen gwirfoddolwyr ar dreial symudedd newydd clefyd Parkinson - a allech chi helpu? - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

“Mae’n emosiynol iawn ond mae’n hyfryd dros ben” meddai. “Brwydrodd Nick yn hir ac yn galed i gael uned hyfforddi yma. Mae’n hyfryd bod yma i weld ffrwyth ei ymdrechion a gweld ei etifeddiaeth yn parhau yn y ffordd yma.”

Yn ogystal â’i waith clinigol ym maes pediatreg a’i gefnogaeth a’i arweiniad i’r tîm dadebru, bu Nick hefyd yn gwirfoddoli ar deithiau meddygol elusennol i Affrica, gyda chydweithwyr o bob rhan o’r Bwrdd Iechyd a thu hwnt.

Dywedodd un o’r cydweithwyr hynny, Nicola Tanner, wrth gylchgrawn ‘Royal Colleagues of Surgeons’ Dispatches’ yn 2015 fod eu taith i Ethiopia wedi “adnewyddu ei gwerthfawrogiad o’r GIG”.  “Cynhaliodd Nick Nelhans a Liz Bailey sawl sesiwn Cymorth Bywyd Sylfaenol Pediatrig, gan hyfforddi mwy na 50 o fydwragedd a meddygon.” meddai.

Yn anffodus, aeth Nick yn sâl yn 2020 ac nid oedd hi’n bosibl iddo barhau yn ei rôl fel cyfarwyddwr clinigol. Gwirfoddolodd y meddyg pediatrig ymgynghorol Dr Liz Richards i lenwi'r bwlch bryd hynny a bellach mae wedi cymryd rôl  y cyfarwyddwr clinigol, ac mae'r tîm yn ddiolchgar iawn amdani.

Bu farw Dr Nick Nelhans yn ei gartref ar Hydref 19, 2021. Er nad yw bellach gyda ni, mae ei gyn-gydweithwyr yn dal i deimlo ei bresenoldeb.

“Mae Uned Hyfforddiant Dadebru Nick Nelhans wedi’i henwi er cof am Nick,” meddai Sarah Bellis. “Mae’n deyrnged i’w ymroddiad, ei waith caled a’i gefnogaeth, yn ogystal â’i benderfyniad i sefydlu uned hyfforddi yr oedd ei dirfawr ei angen arnom. Diolch i Nick am bopeth a wnaeth. Byddwn yn ddiolchgar am byth i chi a byddwn yn eich cofio am byth.”

Dilynwch newyddion diweddaraf y Bwrdd Iechyd trwy gofrestru ar gyfer ein rhestr bostio Sign up (es-mail.co.uk)