9/10/2025
Mae Tîm Therapi Iaith a Lleferydd wedi cael cydnabyddiaeth am eu hymrwymiad i hyrwyddo'r Gymraeg ym maes gofal iechyd, gan ennill Gwobr y Gymraeg yn seremoni Gwobrau Cyrhaeddiad Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr eleni.
Mae'r tîm, sy'n gwasanaethu Gwynedd ac Ynys Môn, yn ymrwymo i gynorthwyo cleifion a'u teuluoedd i gyflawni eu potensial llawn o ran cyfathrebu a lles. Maent yn cydnabod bod cynnig gwasanaethau trwy gyfrwng yr iaith a ffafrir gan gleifion yn allweddol er mwyn gallu cynnig gofal o ansawdd uchel, gan alluogi unigolion i ddeall eu triniaeth a chyfrannu'n weithredol at eu cynlluniau gofal.
Caiff staff nad ydynt yn siarad Cymraeg fel mamiaith eu hannog a'u cynorthwyo'n weithredol i gyfranogi yng nghyrsiau’r Bwrdd Iechyd i wella eu sgiliau yn y Gymraeg. Mae llawer ohonynt wedi datblygu eu medrau hyd at lefel sy'n eu galluogi i gynnig gwasanaethau'n uniongyrchol drwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae'r tîm hefyd yn cydweithio â Phrifysgol Bangor, ble mae staff yn cwblhau cyrsiau Cymraeg yn y Gweithle i gryfhau eu sgiliau ymhellach. Yn dilyn archwiliad diweddar o safonau’r Gymraeg, mae’r tîm wedi datblygu cynllun gweithredu yn seiliedig ar fframwaith strategol “Mwy na Geiriau…” Llywodraeth Cymru, gan sicrhau y caiff safonau eu bodloni wrth hyrwyddo defnydd beunyddiol o’r Gymraeg yn y gweithle. Bydd y staff yn ymarfer y Gymraeg yn ystod cyfarfodydd, sesiynau goruchwylio a thrafodaethau, gan greu amgylchedd sy'n annog dysgu a hyder heb bwysau.
Dywedodd Carol Owen, Therapydd Iaith a Lleferydd: “Mae gwaith y Tîm Therapi Iaith a Lleferydd y Gorllewin yn dangos sut y gall iaith fod yn rhan hanfodol o ofal sy’n canolbwyntio ar gleifion. Mae eu hymroddiad i gynorthwyo cleifion a theuluoedd trwy gyfrwng y Gymraeg, a'u hymrwymiad i feithrin sgiliau yn y Gymraeg ymhlith staff, yn golygu eu bod yn enillydd haeddiannol iawn Gwobr y Gymraeg.”
Drwy eu harweinyddiaeth, eu harloesedd a'u brwdfrydedd, mae'r tîm yn parhau i osod meincnod ar gyfer gofal cynhwysol a dwyieithog, gan sicrhau y gall cleifion ledled Gwynedd ac Ynys Môn ddefnyddio gwasanaethau trwy gyfrwng yr iaith y maent yn eu ffafrio.
Dywedodd Nigel Lanham, Rheolwr Gweithrediadau SGC Security Services (noddwr y categori) yn Rhanbarth y Gogledd: “Mae’n anrhydedd cael noddi Gwobr y Gymraeg eleni, oherwydd rydym yn cydnabod y gall cael gwasanaethau gofal trwy gyfrwng yr iaith y maent yn eu ffafrio wneud gwahaniaeth hanfodol i bobl.
“Llongyfarchiadau mawr i’r tri enwebai ar y rhestr fer am eu gwaith i sicrhau bod y Gymraeg yn rhan annatod o’r dull o gynnig gwasanaethau’r GIG ledled Gogledd Cymru.”
Centerprise International oedd prif noddwr y Gwobrau Cyrhaeddiad. Ers dros 40 mlynedd, mae Centerprise International yn ymrwymo i gynnig atebion TG arloesol, wedi'u teilwra yn unol â gofynion cwsmeriaid ledled y sectorau cyhoeddus a phreifat.
Dywedodd Jez Nash, Prif Weithredwr Centerprise International, prif noddwr y gwobrau: “Roeddem wrth ein bodd unwaith eto yn cael cyfle i gefnogi’r gwobrau a helpu i gydnabod ymdrechion rhagorol staff y GIG ledled Gogledd Cymru.
“Mae gan Centerprise International bartneriaeth hir a balch â’r GIG yng Nghymru, ac roedd yr enghreifftiau a gafwyd heno o staff yn troedio'r ail filltir i gynorthwyo cleifion a’u cydweithwyr yn ffordd wych o'n hatgoffa am y gwaith arbennig y byddant yn ei gyflawni.
“Llongyfarchiadau eto i bawb a oedd ar y rhestr fer.”