Neidio i'r prif gynnwy

Tîm Gofal Mamolaeth Uwch Ysbyty Glan Clwyd yn ennill gwobr 'Tîm y Flwyddyn'

9/10/2025

Mae tîm Gofal Mamolaeth Uwch Ysbyty Glan Clwyd wedi cael cydnabyddiaeth am eu hymroddiad a'u harloesi eithriadol, gan ennill Gwobr Tîm y Flwyddyn yn seremoni Gwobrau Cyrhaeddiad Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr eleni, a gynhaliwyd yn Venue Cymru. 

Mae'r tîm wedi sefydlu model gofal trawsnewidiol sy’n cynnig cymorth ar lefel uwch gan fydwragedd i ferched sy'n sâl iawn. Mae'r cynllun hwn yn caniatáu i famau y mae arnynt angen gofal Categori Lefel 2 aros yn yr ystafell esgor, gan gadw mamau a babanod gyda'i gilydd a lleihau'r angen am drosglwyddo i'r Uned Gofal Dwys (ICU). 

Trwy wella’r sgiliau sydd gan fydwragedd i gynnig gofal ar y lefel hon, mae'r tîm wedi gwella diogelwch cleifion, lles emosiynol, a phrofiadau cyffredinol o wasanaethau mamolaeth yn sylweddol. Mae manteision allweddol yn cynnwys: 

  • Canfod ac ymyrryd yn gynnar: Hyfforddir bydwragedd i nodi newidiadau cynnil yng nghyflwr mamau beichiog gan ddefnyddio monitro manylach, gan ganiatáu ymateb cyflym i atal cymhlethdodau. 

  • Parhad gofal: Bydd mamau yn aros yn parhau yn yr ystafell esgor, a byddant yn cael gofal gan fydwragedd cyfarwydd sy'n deall eu hanes a'u hanghenion unigol. 

  • Llai o drosglwyddiadau i’r Uned Gofal Dwys: Mae lleiafu nifer y derbyniadau i’r Uned Gofal Dwys yn sicrhau bod adnoddau gofal critigol yn dal i fod ar gael i'r rhai y bydd arnynt eu hangen yn fwy na neb. 

  • Gofal amlddisgyblaethol cydweithredol: Bydd bydwragedd yn cydweithio'n agos ag obstetregwyr, anesthetyddion a meddygon sy’n arbenigo ym maes gofal critigol i gynnig gofal rhagorol di-dor. 

Mae dull y tîm hefyd yn sicrhau effaith seicolegol ddwys, gan alluogi mamau a babanod i  barhau i fod gyda'i gilydd yn ystod digwyddiadau iechyd critigol. Mae’r buddion yn cynnwys llai o bryder a straen, cymorth gwell ynghylch bwydo ar y fron, gofal cryfach sy'n canolbwyntio ar y teulu, a llai o berygl o brofi iselder ôl-enedigol. 

Priodolir llwyddiant y cynllun i ymrwymiad y tîm i gyfranogi mewn gweithgareddau hyfforddiant a datblygiad proffesiynol parhaus. Roedd y rhaglen yn cynnwys sgiliau clinigol uwch, senarios yn efelychu argyfyngau, profiadau dysgu amlddisgyblaethol, a mentora rheolaidd. 

Trwy eu sgiliau, eu parodrwydd i gydweithredu a'u hymrwymiad i sicrhau rhagoriaeth, mae'r tîm wedi gosod meincnod newydd ar gyfer gofal mamolaeth, gan ddangos y gwahaniaeth rhyfeddol y gall grŵp ymroddedig o weithwyr gofal iechyd proffesiynol ei wneud. 

Dywedodd Rhys Edwards, o MPH Construction, noddwr y wobr: "Rydym yn falch iawn o gael noddi gwobr Tîm y Flwyddyn y Bwrdd Iechyd unwaith eto, ac yn falch iawn o gael dathlu llwyddiant eithriadol yn y GIG unwaith yn rhagor. 

"Roedd yn wych cael clywed am ymdrechion ysbrydoledig y tri thîm a oedd ar y rhestr fer am y wobr eleni – llongyfarchiadau enfawr i'r tri." 

Centerprise International oedd prif noddwr y Gwobrau Cyrhaeddiad. Ers dros 40 mlynedd, mae Centerprise International yn ymrwymo i gynnig atebion TG arloesol, wedi'u teilwra yn unol â gofynion cwsmeriaid ledled y sectorau cyhoeddus a phreifat.  

Dywedodd Jez Nash, Prif Weithredwr Centerprise International, prif noddwr y gwobrau: “Roeddem wrth ein bodd unwaith eto yn cael cyfle i gefnogi’r gwobrau a helpu i gydnabod ymdrechion rhagorol staff y GIG ledled Gogledd Cymru. 

“Mae gan Centerprise International bartneriaeth hir a balch â’r GIG yng Nghymru, ac roedd yr enghreifftiau a gafwyd heno o staff yn troedio'r ail filltir i gynorthwyo cleifion a’u cydweithwyr yn ffordd wych o'n hatgoffa am y gwaith arbennig y byddant yn ei gyflawni. 

“Llongyfarchiadau eto i bawb a oedd ar y rhestr fer.”