9/10/2025
Mae Tîm Cymunedol Plant y Bwrdd Iechyd yn ardal y Canol a Thŷ Gobaith wedi cael cydnabyddiaeth am eu gwaith rhagorol ar y cyd, gan dderbyn y Wobr am Bartneriaeth yng Ngwobrau Cyrhaeddiad Staff BIPBC eleni, a gynhaliwyd yn Venue Cymru, Llandudno.
Mae'r bartneriaeth rhwng y tîm a Thŷ Gobaith wedi bod yn rhan annatod o wella gofal a chymorth plant sydd â chyflyrau cymhleth ac sy'n cyfyngu ar fywyd ar draws y gymuned. Trwy gydweithio'n agos - gan rannu gwybodaeth am gleifion, cynnal ymweliadau ar y cyd, a chydlynu gofal yn ystod derbyniadau ysbyty - maent yn sicrhau bod anghenion plant a'u teuluoedd yn cael eu blaenoriaethu trwy gyfathrebu ardderchog a gwaith tîm rhagorol.
Mae'r cydweithio yma'n caniatáu i'r timau roi cymorth cymunedol acíwt pan fydd anghenion gofal yn dwysau, gyda'r nod o sicrhau bod plant yn cael aros gartref ac osgoi derbyniadau i'r ysbyty lle bynnag y bo modd. Trwy ymgysylltu â theuluoedd yn gynnar a chynnig cymorth prydlon, mae'r bartneriaeth wedi lleihau cyfnodau o argyfwng ac wedi sicrhau bod cyfeiriadau hanfodol, cynllunio gofal yn seiliedig ar symptomau yn cael sylw prydlon ac effeithiol.
Mae integreiddio nyrs arbenigol Tŷ Gofal yn nhîm y plant hefyd wedi creu cyfleoedd ar gyfer hyfforddiant gwell, rhannu gwybodaeth, a datblygu sgiliau ar gyfer staff a theuluoedd, yn enwedig ym maes gofal diwedd oes pediatrig. Yn ogystal, mae'r bartneriaeth wedi gwella mynediad at gwnsela, gwaith cymdeithasol, a gwasanaethau cymorth i deuluoedd, gan sicrhau gofal cyfannol ar gyfer plant a'u teuluoedd.
Mae llwyddiant y cydweithio yn ardal y canol y Bwrdd Iechyd wedi bod mor effeithiol nes bod cynlluniau ar y gweill erbyn hyn i ddyblygu'r model yn ardal y gorllewin y Bwrdd Iechyd.
Mae'r Wobr Bartneriaeth yn tynnu sylw at bwysigrwydd cydweithio, gan ddangos pan fydd sefydliadau'n uno gyda phwrpas cyffredin, eu bod yn gallu cyflawni canlyniadau eithriadol ar gyfer y plant a'r teuluoedd y maent yn eu gwasanaethu.
Dywedodd yr Athro Joe Yates, Is-Ganghellor Prifysgol Wrecsam sy'n noddi'r wobr: "Rydym yn falch iawn o barhau â'n partneriaeth gyda gwobrau blynyddol y Bwrdd iechyd, ac mae'n bleser gennym gyflwyno gwobr eleni.
"Gwnaeth pob un o'r tri a gyrhaeddodd y rownd derfynol ddangos ymdrechion rhagorol i gydweithio â'u cydweithwyr ac asiantaethau partner. Llongyfarchiadau i bob un o'r tri a gyrhaeddodd y rownd derfynol am eu hymdrechion, a Thîm Cymunedol y Plant a Thŷ Gobaith yn benodol am eu gwaith ysbrydoledig."
Centerprise International oedd prif noddwr y Gwobrau Cyflawniad. Ers dros 40 mlynedd, mae Centerprise International yn ymrwymo i gynnig atebion TG arloesol, wedi'u teilwra yn unol â gofynion cwsmeriaid ledled y sectorau cyhoeddus a phreifat.
Dywedodd Jez Nash, Prif Weithredwr Centerprise International, prif noddwr y gwobrau: “Roeddem wrth ein bodd unwaith eto yn cael cyfle i gefnogi’r gwobrau a helpu i gydnabod ymdrechion rhagorol staff y GIG ledled Gogledd Cymru.
“Mae gan Centerprise International bartneriaeth hir a balch â’r GIG yng Nghymru, ac roedd yr enghreifftiau a gafwyd heno o staff yn troedio'r ail filltir i gynorthwyo cleifion a’u cydweithwyr yn ffordd wych o'n hatgoffa am y gwaith arbennig y byddant yn ei gyflawni.
"Llongyfarchiadau unwaith eto i bawb a gyrhaeddodd y rhestr fer."