9/10/2025
Mae Tîm Adsefydlu Ysbyty Maelor Wrecsam wedi cael eu cydnabod am eu gwaith arloesol ym maes gofal canser, gan ennill Gwobr Ymchwil, Trawsnewid, Gwella ac Arloesi yn seremoni Gwobrau Cyrhaeddiad Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr eleni.
Dros bum mlynedd yn ôl, cafodd yr Anesthetydd Ymgynghorol Dr Neil Agnew weledigaeth am wasanaeth a allai wella canlyniadau cleifion canser yn sylweddol trwy fynd i'r afael ag anghenion corfforol a seicolegol unigolion sy'n aros am lawdriniaeth fawr. Yn sgil ei weledigaeth, sefydlwyd Uned Adsefydlu Arbenigol yn Wrecsam, sef gwasanaeth trawsnewidiol sy'n paratoi cleifion at lawdriniaeth trwy raglen ymarfer corff a lles bwrpasol dan oruchwyliaeth sy'n para pedair wythnos..
Dan arweinyddiaeth Dr Agnew, mae'r Tîm Rhagsefydlu wedi llwyddo i sicrhau bod 90% o'r cyfranogwyr yn cydymffurfio â gofynion y rhaglen, ac mae hynny wedi cyflawni gwelliannau sylweddol o ran adferiad cleifion. Mae'r gwaith wedi sicrhau gostyngiad o 2 neu 3 diwrnod yn y cyfnodau a dreulir yn yr ysbyty ar ôl llawdriniaeth, mae nifer y cymhlethdodau llawfeddygol wedi'u haneru, ac mae 65% o gleifion yn parhau ag arferion ffordd iach o fyw ar ôl eu llawdriniaeth. Mae'r canlyniadau hyn yn gwella adferiad cleifion ac maent hefyd yn lleihau beichiau gofal iechyd hirdymor.
Mae dull Dr Agnew yn enghraifft o gydweithio ac arloesi, gan ymgysylltu â defnyddwyr gwasanaethau, teuluoedd, gweithwyr proffesiynol gofal iechyd, ac ASau lleol i sicrhau gwasanaeth cyfannol sy'n canolbwyntio ar gleifion. Mae ei arweinyddiaeth yn ysbrydoli timau amlddisgyblaethol i weithio tuag at gyflawni nod cyffredin, sef gwella canlyniadau llawdriniaethau ac ansawdd bywyd wedi llawdriniaethau.
Dywedodd Dr Andy Campbell, Meddyg Ymgynghorol Gofal Critigol yn Ysbyty Maelor Wrecsam: “Mae Dr Neil Agnew a’r Tîm Rhagsefydlu wedi gosod safon newydd mewn gofal sy’n canolbwyntio ar gleifion. Mae eu dull arloesol o ailsefydlu yn trawsnewid y daith lawfeddygol i gleifion canser, yn gwella canlyniadau, ac yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau cleifion. Mae'r wobr hon yn cydnabod eu hymroddiad, eu gweledigaeth a'u harweinyddiaeth ragorol.”
Centerprise International oedd prif noddwr y Gwobrau Cyrhaeddiad. Ers dros 40 mlynedd, mae Centerprise International yn ymrwymo i gynnig atebion TG arloesol, wedi'u teilwra yn unol â gofynion cwsmeriaid ledled y sectorau cyhoeddus a phreifat.
Dywedodd Jez Nash, Weithredwr Centerprise International, prif noddwr y gwobrau: “Roeddem wrth ein bodd unwaith eto yn cael cyfle i gefnogi’r gwobrau a helpu i gydnabod ymdrechion rhagorol staff y GIG ledled Gogledd Cymru.
“Mae gan Centerprise International bartneriaeth hir a balch â’r GIG yng Nghymru, ac roedd yr enghreifftiau a gafwyd heno o staff yn troedio'r ail filltir i gynorthwyo cleifion a’u cydweithwyr yn ffordd wych o'n hatgoffa am y gwaith arbennig y byddant yn ei gyflawni.
“Llongyfarchiadau eto i bawb a oedd ar y rhestr fer.”