9/10/2025
Mae rheolwr 'ysbrydoledig' wedi cael ei hanrhydeddu â Gwobr Arweinyddiaeth yn seremoni Gwobrau Cyrhaeddiad Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr eleni, gan gydnabod ei harweinyddiaeth eithriadol a'i dylanwad trawsnewidiol ar wasanaethau iechyd meddwl pobl hŷn.
Ers ymgymryd â'i rôl reoli gyntaf bron i ddwy flynedd yn ôl, mae Kate Bickerstaff, Rheolwr y Gwasanaeth Cof ar gyfer Conwy a Sir Ddinbych, wedi arwain gwasanaeth sy'n wynebu heriau sylweddol.
Dan arweiniad Kate, mae cleifion a arferai orfod aros oddeutu 12 mis i gael asesiad a diagnosis bellach yn cael eu gweld o fewn 8 wythnos, a bydd bron i 90% yn cael diagnosis o fewn chwe mis. Fe wnaeth hefyd oruchwylio gwaith i weithredu system rheoli cleifion i sicrhau goruchwyliaeth effeithiol a llwybrau gofal symlach ledled y gwasanaeth, gan flaenoriaethu anghenion cleifion a'u teuluoedd.
Yn ôl ei chydweithwyr, mae Kate yn arweinydd trawsnewidiol sy'n cyfuno empathi, cyfathrebu clir, a dull sy'n canolbwyntio ar atebion. Mae hi wedi sefydlu blaengareddau megis cyfarfodydd “Cynllun y Dydd” ddwywaith yr wythnos i sicrhau y caiff timau eu hysbysu a'u cynorthwyo'n briodol, a'u grymuso i gynnig gofal o ansawdd uchel. Drwy wrando ar ei staff a chwalu rhwystrau sy'n atal llwyddiant, mae hi wedi meithrin amgylchedd cydweithredol ac mae timau'n ffynnu a chleifion yn elwa yn sgil hynny.
Mae cyflawniadau Kate yn amlygu dylanwad arweinyddiaeth gref ac empathig wrth drawsnewid gwasanaethau, gwella gofal i gleifion, a chreu diwylliant sy'n rhoi pwyslais ar fod yn gadarnhaol ac yn gydnerth yn y gweithle.
Dywedodd Helen Watkins, Cyfarwyddwr Gweithredol y Gweithlu a Datblygu Sefydliadol yn Addysg a Gwella Iechyd Cymru: “Mae’r pwysau diddiwedd ar ein gwasanaethau a’n cydweithwyr yn dal yn sylweddol iawn. Felly, mae'n hanfodol i ni feithrin amgylchedd gweithle cefnogol ble'r eir ati'n weithredol i hybu lles meddyliol a chorfforol. Mae arweinyddiaeth a diwylliannau tosturiol yn hanfodol o ran creu amgylcheddau o'r fath. Mae'r tri theilyngydd wedi amlygu empathi, a thrwy arweinyddiaeth gyfunol a chynhwysol, maent wedi cydweithio ag eraill i ddylanwadu'n sylweddol.
“Llongyfarchiadau arbennig i Kate am ennill y wobr hon.”
Centerprise International oedd prif noddwr y Gwobrau Cyrhaeddiad. Ers dros 40 mlynedd, mae Centerprise International yn ymrwymo i gynnig atebion TG arloesol, wedi'u teilwra yn unol â gofynion cwsmeriaid ledled y sectorau cyhoeddus a phreifat.
Dywedodd Jez Nash, Prif Weithredwr Centerprise International, prif noddwr y gwobrau: “Roeddem wrth ein bodd unwaith eto yn cael cyfle i gefnogi’r gwobrau a helpu i gydnabod ymdrechion rhagorol staff y GIG ledled Gogledd Cymru.
“Mae gan Centerprise International bartneriaeth hir a balch â’r GIG yng Nghymru, ac roedd yr enghreifftiau a gafwyd heno o staff yn troedio'r ail filltir i gynorthwyo cleifion a’u cydweithwyr yn ffordd wych o'n atgoffa am y gwaith arbennig y byddant yn ei gyflawni.
“Llongyfarchiadau eto i bawb a oedd ar y rhestr fer.”