9/10/2025
Mae Rhaglen Interniaethau â Chymorth y Bwrdd Iechyd, sy'n rhan o Dîm Moderneiddio'r Gweithlu yn y Gyfarwyddiaeth Pobl a Datblygu Sefydliadol, wedi cael cydnabyddiaeth am gynnig cyfleoedd sy'n newid bywydau pobl ifanc trwy ennill Gwobr Amrywiaeth, Cydraddoldeb a Chynhwysiant yn seremoni Gwobrau Cyrhaeddiad BIPBC eleni.
Ers 2017, mae'r rhaglen yn cynorthwyo oedolion ifanc sydd ag anableddau dysgu, awtistiaeth ac anableddau eraill i sicrhau cyflogaeth ystyrlon. Yn galonogol iawn, mae 70% o interniaid wedi mynd ati i ganfod cyflogaeth â thâl, naill ai yn y Bwrdd Iechyd neu oddi allan i'r Bwrdd, ac mae hynny'n amlygu dylanwad trawsnewidiol y blaengaredd hwn.
Lansiwyd y rhaglen wreiddiol yn Ysbyty Gwynedd, ac mae wedi'i hehangu i gwmpasu Ysbyty Glan Clwyd a Chymuned Sir y Fflint, a bwriedir ei hymestyn i Ysbyty Maelor Wrecsam yn 2026. Bydd yr interniaid yn cael profiad o ystod eang o rolau, gan gynnwys patholeg, cyfleusterau, ystadau, radioleg, fferylliaeth a wardiau, i'w cynorthwyo â’u datblygiad proffesiynol.
Mae Nel yn enghraifft nodedig o lwyddiant y rhaglen. Dechreuodd gyfranogi yn y rhaglen fel Cynorthwyydd Ward yn Uned Ddydd Alaw, ac yna, fe wnaeth hi gwblhau Prentisiaeth a Rennir â Chymorth, ac mae hi bellach yn cael ei recriwtio i fod yn Gynorthwyydd Gofal Iechyd parhaol. Dywed ei goruchwylwyr ei bod hi'n “eithriadol o fedrus” a'i bod hi'n “hyfryd cael bod o'i chwmpas hi,” gan ddwyn sylw at lwyddiant y rhaglen o ran meithrin doniau ac annibyniaeth.
Mae'r rhaglen hefyd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i'r gofal a gaiff cleifion, yn amrywio o gynnig cymorth tosturiol ar wardiau i ymgysylltu â chleifion yn ystod eu cyfnod yn yr ysbyty. Fe wnaeth un intern blaenorol, sydd bellach yn borthor ysbyty, lwyddo hyd yn oed i ddysgu sut i gyfarch cleifion mewn 17 o ieithoedd brodorol, sy'n dangos dylanwad eang y rhaglen.
Drwy gydweithio, mentora, a ffocws ar degwch, parch, cydraddoldeb, urddas ac annibyniaeth, mae'r Rhaglen Interniaethau â Chymorth yn parhau i gynnig cyfleoedd sy'n newid bywydau oedolion ifanc yn ogystal â chyfoethogi bywydau cleifion a staff y bwrdd iechyd.
Centerprise International oedd prif noddwr y Gwobrau Cyrhaeddiad. Ers dros 40 mlynedd, mae Centerprise International yn ymrwymo i gynnig atebion TG arloesol, wedi'u teilwra yn unol â gofynion cwsmeriaid ledled y sectorau cyhoeddus a phreifat.
Dywedodd Geoff Ryall-Harvey, Cyfarwyddwr Rhanbarthol Gogledd Cymru ar gyfer Llais, a noddodd y wobr hon: “Mae sicrhau ein bod yn cyflawni ein cyfrifoldebau o ran amrywiaeth, cydraddoldeb a chynhwysiant yn gyfrifoldeb hanfodol i ddarparwyr gofal iechyd.
“Roeddwn i’n falch iawn o glywed am ymdrechion y tri thîm ar y rhestr fer i wella mynediad at wasanaethau a chymorth i bobl ledled Gogledd Cymru. Llongyfarchiadau gan bawb yn Llais.”
Dywedodd Jez Nash, Prif Weithredwr Centerprise International, prif noddwr y gwobrau: “Roeddem wrth ein bodd unwaith eto yn cael cyfle i gefnogi’r gwobrau a helpu i gydnabod ymdrechion rhagorol staff y GIG ledled Gogledd Cymru.
“Mae gan Centerprise International bartneriaeth hir a balch â’r GIG yng Nghymru, ac roedd yr enghreifftiau a gafwyd heno o staff yn troedio'r ail filltir i gynorthwyo cleifion a’u cydweithwyr yn ffordd wych o’n hatgoffa am y gwaith arbennig y byddant yn ei gyflawni.
“Llongyfarchiadau eto i bawb a oedd ar y rhestr fer.”