9/10/2025
Mae Meddyg Ymgynghorol Trawma ac Orthopedig yn Ysbyty Gwynedd wedi cael ei gydnabod am ei gyfraniad rhagorol i ofal cleifion, i addysg ac i waith tîm yng Ngwobrau Cyrhaeddiad Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) eleni.
Cyhoeddwyd mai Mr Haroon Mumtaz, sydd wedi arwain gwaith arloesol mewn trawma ac orthopaedeg, oedd enillydd Gwobr Y Filltir Ychwanegol mewn seremoni a gynhaliwyd yn Venue Cymru.
Mae Mr Mumtaz wedi gosod dros 50 ffêr newydd – sydd yn golygu ei fod ymhlith y tri llawfeddyg mwyaf blaenllaw yn y DU – gyda’r rhagolygon yn awgrymu mai ef fydd yn arwain drwy’r wlad i gyd eleni. Mae ei waith arloesol yn helpu i atal ansymudedd y cymalau ac arthritis, gan drawsnewid bywydau cleifion sy'n dioddef o gyflyrau gwanychol.
Yn ogystal â'i waith llawfeddygol dewisol, mae Mr Mumtaz hefyd wedi sefydlu gwasanaeth traed diabetig yn Ysbyty Gwynedd, sydd wedi cynnig gobaith mawr i gleifion sydd mewn perygl o golli aelodau corfforol.
Mae hefyd yn arbenigo mewn technegau ailadeiladu cymhleth, trawma, a gweithdrefnau i achub aelodau corfforol, ac mae'n arbennig o adnabyddus ledled y rhanbarth am ei arbenigedd mewn trin anafiadau Lisfranc, a welir yn aml mewn cleifion sy’n marchogaeth. Mae ei ymchwil arloesol i ddefnyddio byllt yn rhan ôl y droed i drin toriadau’r ffêr wedi helpu cleifion i adennill symudedd yn llawer cynt, gyda'r dull hwn bellach yn cael ei ddefnyddio gan ganolfannau meddygol blaenllaw ledled y DU.
Yn ogystal â bod yn llawfeddyg uchel ei barch, mae Mr Mumtaz yn brysur yn addysgu a hyfforddi. Mae'n cynnig arweiniad ymarferol i feddygon iau a chofrestryddion, yn y theatr, ac mewn sesiynau addysgu rhithwir ar gyfer hyfforddeion ledled Cymru, Glannau Mersi, a Gogledd Orllewin Lloegr. Mae hefyd yn cyfrannu at gyrsiau addysgu elusennol ym Manceinion, gyda'r elw'n mynd at achosion da.
Mae cydweithwyr yn ei ddisgrifio fel rhywun hawddgar sydd bob amser yn dosturiol ac un sy’n barod i roi cyngor a chefnogaeth, boed hynny’n broffesiynol neu'n bersonol. Yn ei rôl fel Cyfarwyddwr Clinigol Llawfeddygaeth, Anaestheteg a Gofal Critigol, mae wedi meithrin diwylliant o barch, gwaith tîm, a chydweithio, ac yn trefnu cyfleoedd niferus i gryfhau perthnasoedd ymhlith staff.
Mae parodrwydd Mr Mumtaz i rannu ei arbenigedd ledled Gogledd Cymru, boed hynny drwy gynnal sesiynau ymgynghori deuol neu drwy fentora, yn dangos ei haelioni a'i ymroddiad i wella gofal cleifion.
Dywedodd Karen Evans, Rheolwr Cyffredinol y Gyfarwyddiaeth ar gyfer Llawfeddygaeth, Anaestheteg a Gofal Critigol yn Ysbyty Gwynedd: "Mae gofal Mr Mumtaz dros ei gleifion, ei ymrwymiad i rannu gwybodaeth, a'i ymroddiad i gefnogi cydweithwyr yn ei wneud yn unigolyn ysbrydoledig yn ein sefydliad. Mae’r hyn mae’n ei gyflawni a'i arweinyddiaeth yn ymgorffori gwir ystyr 'Gwobr y Filltir Ychwanegol'."
Dywedodd Nick Napier-Andrews, Arweinydd Partneriaeth Strategol ID Medical, noddwr y wobr: “Rydym wrth ein bodd yn cefnogi Gwobrau Cyrhaeddiad y Bwrdd Iechyd unwaith eto.
“Bob blwyddyn rydym yn gweld enghreifftiau rhagorol yn y categori hwn, wrth i staff y GIG fynd y filltir ychwanegol yn eu gwaith, ac yn sicr, dydy eleni ddim wedi bod yn eithriad.
“Llongyfarchiadau mawr i’r tri chystadleuydd a ddaeth i’r brig, ac i Mr Mumtaz wrth gwrs am ennill y wobr.”
Prif noddwr y Gwobrau Cyrhaeddiad oedd Centerprise International. Ers dros 40 mlynedd, mae Centerprise International wedi bod yn darparu datrysiadau TG arloesol, wedi’u teilwra i gwsmeriaid, ar draws y sectorau cyhoeddus a phreifat.
Dywedodd Jez Nash, Prif Swyddog Gweithredol prif noddwr y gwobrau, Centerprise International: “Rydym wrth ein boddau unwaith eto i gefnogi’r gwobrau a helpu i gydnabod ymdrechion rhagorol staff y GIG ar draws Gogledd Cymru.
“Mae Centerprise International yn falch o’r bartneriaeth hir gyda’r GIG yng Nghymru, ac roedd enghreifftiau heno o staff yn mynd y filltir ychwanegol i gefnogi cleifion a’u cydweithwyr yn ffordd wych i’n hatgoffa o’r gwaith arbennig maen nhw’n ei wneud.
“Llongyfarchiadau unwaith eto i bawb ar y rhestr fer.”