9/10/2025
Mae Gwyddonydd Gwyddorau Fasgwlaidd dan Hyfforddiant yn Ysbyty Glan Clwyd wedi ennill Gwobr Seren y Dyfodol yn seremoni Gwobrau Cyrhaeddiad BIPBC eleni, gan ddathlu ei hymroddiad, ei pharodrwydd i arloesi a'i hymrwymiad eithriadol i’r gofal a gaiff cleifion.
Fe wnaeth Milly Trigg greu hanes oherwydd hi oedd hyfforddai cyntaf erioed STP (Rhaglen Hyfforddi Gwyddonwyr) y Gwyddorau Fasgwlaidd yng Nghymru, ac fe wnaeth hi sicrhau ei hyfforddeiaeth trwy gystadleuaeth frwd. Caiff ei chyflogi'n amser llawn gan BIPBC a chaiff ei hyfforddeiaeth ei hariannu gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC), ac mae hi eisoes wedi dylanwadu'n nodedig ar waith ei hadran a thu hwnt.
Mae ei brwdfrydedd a'i hagwedd at ei gwaith yn ymestyn ymhell y tu hwnt i'w chyfrifoldebau beunyddiol. Bydd Milly yn ymgysylltu'n weithredol ag ysgolion, gan siarad â myfyrwyr TGAU a Safon Uwch ac athrawon ysgolion cynradd am yrfaoedd ym maes gwyddorau gofal iechyd. Mae hi wedi cysylltu â phrifysgolion, trefnu ymweliadau, a chreu adnoddau addysgol i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o wyddonwyr gofal iechyd. Mae Milly wedi gwella proffil yr adran Radioleg, gan ymuno â'r Tîm Amlddisgyblaethol sy'n rheoli diabetes, hyfforddi ym maes gwaith yn ymwneud â rhoi'r gorau i ysmygu dan ofal Helpa Fi i Stopio Cymru, ac arsylwi clinigau rhoi'r gorau i ysmygu yn y gymuned. Mae hi hefyd wedi ysgwyddo cyfrifoldeb am gydlynu lleoliadau ar gyfer myfyrwyr STP Cardioleg yn Ysbyty Glan Clwyd, Ysbyty Gwynedd, ac Ysbyty Maelor Wrecsam, gan drafod amserlenni mewn meysydd clinigol niferus.
Mae gwaith Milly ar gyfer AaGIC yn cynnwys cyfrannu at gynllunio'r cwricwlwm gwyddorau fasgwlaidd newydd ac ymchwilio i rwystrau sy'n atal gwaith allgymorth ledled Cymru.
Yn anad dim, mae Milly yn adnabyddus am ei hagwedd drugarog a'i gofal at gleifion. Mewn un achos, llwyddodd i nodi claf a oedd mewn perygl o hunan-niweidio, ac ymyrrodd yn briodol, gan sicrhau cymorth dilynol ar frys - gan amlygu craffter clinigol ac empathi y tu hwnt i'w hoedran.
Dywedodd Trevor Frankel, y Prif Wyddonydd Fasgwlaidd Clinigol: "Mae Milly yn enghraifft wych o hanfod Gwobr Seren y Dyfodol. Mae ei hymroddiad, ei harloesedd a'i thosturi eisoes wedi gwneud gwahaniaeth pendant er gwell i gleifion, cydweithwyr a'r gymuned gofal iechyd ehangach. Rydym yn hynod falch o'i chyflawniadau ac yn edrych ymlaen yn arw at weld sut y bydd hi'n dylanwadu ar wasanaethau yn y dyfodol."
Mae gwobr Milly Trigg yn dwyn sylw at ei chyfraniadau personol rhagorol a hefyd at y dyfodol disglair y mae'n ei gynnig i'r gwyddorau gofal iechyd yng Nghymru.
Centerprise International oedd prif noddwr y Gwobrau Cyrhaeddiad. Ers dros 40 mlynedd, mae Centerprise International yn ymrwymo i gynnig atebion TG arloesol, wedi'u teilwra yn unol â gofynion cwsmeriaid ledled y sectorau cyhoeddus a phreifat.
Dywedodd Jez Nash, Prif Weithredwr Centerprise International, prif noddwr y gwobrau: “Roeddem wrth ein bodd unwaith eto yn cael cyfle i gefnogi’r gwobrau a helpu i gydnabod ymdrechion rhagorol staff y GIG ledled Gogledd Cymru.
“Mae gan Centerprise International bartneriaeth hir a balch â’r GIG yng Nghymru, ac roedd yr enghreifftiau a gafwyd heno o staff yn troedio'r ail filltir i gynorthwyo cleifion a’u cydweithwyr yn ffordd wych o'n hatgoffa am y gwaith arbennig y byddant yn ei gyflawni.
“Llongyfarchiadau eto i bawb a oedd ar y rhestr fer.”