Neidio i'r prif gynnwy

Gwobr i gydnabod dylanwad gwirfoddolwr ar yr Uned Gofal Arbennig i Fabanod

9/10/2025

Mae gwirfoddolwr sydd wedi trawsnewid bywydau teuluoedd ledled Gogledd Cymru trwy ei hymroddiad diflino wedi cael cydnabyddiaeth yn seremoni Gwobrau Cyrhaeddiad Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr eleni. 

Yn y seremoni, a gynhaliwyd yn Venue Cymru, Llandudno, cyflwynwyd Gwobr Gwirfoddolwr y Flwyddyn i Ruth Drake, sy'n ymroddi ers dros 16 mlynedd i gynorthwyo Uned Gofal Arbennig i Fabanod (SCBU) yn Ysbyty Maelor Wrecsam.  

Fe wnaeth Ruth gychwyn ymwneud â SCBU yn 2008 wedi genedigaeth ei merch, Elin. Yn fuan wedi hynny, ymunodd ag elusen Cherish, yr elusen sy'n cynorthwyo rhieni yn yr uned, ac yn fuan iawn, daeth yn rhan annatod o ymdrechion codi arian a chymorth yr elusen. Erbyn 2011, roedd Ruth wedi dod yn Gadeirydd yr elusen, ac fe wnaeth hi ymgymryd â'r rôl honno yn frwdfrydig ac yn ymroddgar am 13 mlynedd. 

Dan ei harweinyddiaeth, mae Cherish wedi mynd o nerth i nerth, gan godi arian hanfodol a helpu i gyflawni ystod eang o welliannau er lles teuluoedd SCBU. Maent yn cynnwys adnewyddu llety ar gyfer rhieni, blychau cofroddion, teganau cysuro Miniboo gan gwmni Cuski, a chyfraniadau at y ganolfan les newydd sydd wrthi'n cael ei datblygu. Mae'r elusen hefyd wedi ariannu gwaith i ailaddurno'r uned, gan sicrhau amgylchedd mwy gwresog a chroesawgar i fabanod a'u teuluoedd. 

Mae Ruth hefyd wedi ysgogi digwyddiadau arbennig i deuluoedd, er enghraifft, Parti Nadolig blynyddol poblogaidd SCBU, yn ogystal â'r picnics tedi bêrs blaenorol a ddaeth â theuluoedd ynghyd yn yr haf. Fe wnaeth hi hefyd hyfforddi i fod yn Hyrwyddwr Elusen Bliss, gan gynnig cymorth emosiynol amhrisiadwy i rieni yn ystod eu cyfnodau mwyaf heriol. 

Wrth siarad am wobr Ruth, dywedodd staff yr SCBU ei bod hi'n unigolyn “anhunanol, tosturiol ac ysbrydoledig,” gan ychwanegu bod ei chyfraniad wedi dylanwadu'n barhaol ar y gofal a’r cymorth y bydd teuluoedd yn eu cael. 

Mae tosturi ac ymrwymiad diysgog Ruth wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i deuluoedd dirifedi dros y blynyddoedd. Mae'r gydnabyddiaeth a gafodd trwy ennill gwobr Gwirfoddolwr y Flwyddyn yn adlewyrchu'r ffaith y gall gwirfoddolwyr ymroddgar ddylanwadu'n eithriadol ar fywydau pobl eraill. 

Dywedodd Claire Chapman, Rheolwr Rhanbarthol Rowlands Pharmacy, noddwr y wobr: “Rydym yn falch o gael bod yn y seremoni wobrwyo i gydnabod cyfraniad gwirfoddolwyr at ofal iechyd yng Ngogledd Cymru. 

“Roedd yn brofiad ysbrydolgar cael clywed am ymdrechion y rhai sydd ar y rhestr fer sydd wedi defnyddio eu profiadau i wneud gwahaniaeth gwirioneddol er gwell i bobl sy’n cael gofal yn ein hysbytai yng Ngogledd Cymru. Llongyfarchiadau mawr i’r enwebeion am eu hymdrechion anhygoel.”  

Centerprise International oedd prif noddwr y Gwobrau Cyrhaeddiad. Ers dros 40 mlynedd, mae Centerprise International yn ymrwymo i gynnig atebion TG arloesol, wedi'u teilwra yn unol â gofynion cwsmeriaid ledled y sectorau cyhoeddus a phreifat.  

Dywedodd Jez Nash, Prif Weithredwr Centerprise International, prif noddwr y gwobrau: “Roeddem wrth ein bodd unwaith eto yn cael cyfle i gefnogi’r gwobrau a helpu i gydnabod ymdrechion rhagorol staff y GIG ledled Gogledd Cymru. 

“Mae gan Centerprise International bartneriaeth hir a balch â’r GIG yng Nghymru, ac roedd yr enghreifftiau a gafwyd heno o staff yn troedio'r ail filltir i gynorthwyo cleifion a’u cydweithwyr yn ffordd wych o'n hatgoffa am y gwaith arbennig y byddant yn ei gyflawni. 

“Llongyfarchiadau eto i bawb a oedd ar y rhestr fer.”