9/10/2025
Mae Cwadrant Achosion Brys Ysbyty Glan Clwyd wedi cael cydnabyddiaeth am waith amgylcheddol rhagorol, gan ennill Gwobr Cynaliadwyedd Amgylcheddol yn seremoni Gwobrau Cyrhaeddiad BIPBC eleni.
Dan arweinyddiaeth Natasha Hughes, mae'r Cwadrant Achosion Brys wedi cyflawni dyfarniad lefel efydd rhaglen GreenED Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys, sy'n dathlu llwyddiant prosiectau cynaliadwyedd arloesol mewn Adrannau Achosion Brys ledled y DU.
Mae'r cyflawniadau allweddol yn cynnwys:
Dywedodd Dr Nandita Parmar, Meddyg Ymgynghorol Meddygaeth Frys a Chyfarwyddwr Clinigol y Cwadrant Achosion Brys yn Ysbyty Glan Clwyd: "Mae Natasha a thîm y Cwadrant Achosion Brys wedi amlygu arweinyddiaeth eithriadol ym maes cynaliadwyedd amgylcheddol. Mae eu hymroddiad yn fuddiol i'r blaned ac mae hefyd yn gosod meincnod ar gyfer arfer cynaliadwy yn ein holl ysbytai."
Dywedodd Steve Teare, Cyfarwyddwr Gleeds, noddwr y wobr: “Mae cynaliadwyedd yn parhau i ysgogi gwaith i lunio dyfodol ein hamgylchedd adeiledig, ac mae'n ysbrydolgar gweld gwaith mor effeithiol yn cael ei gydnabod yng Ngogledd Cymru.
“Llongyfarchiadau i enillydd eleni, Natasha Hughes, a’r Cwadrant Achosion Brys yn Ysbyty Glan Clwyd am gyflawni prosiect sydd yn lleihau carbon a hefyd yn gosod meincnod ar gyfer arloesedd a chyfrifoldeb tuag at yr amgylchedd.”