Neidio i'r prif gynnwy

Ehangu gwasanaethau gofal llygaid i ddod â thriniaeth yn agosach at y cartref i gleifion Gogledd Cymru

12 Rhagfyr 2025

Mae pobl ledled Gogledd Cymru yn elwa ar fynediad haws at ofal i’r llygaid, diolch i wasanaethau newydd a ddatblygwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Mae'r Bwrdd Iechyd wedi bod yn gweithio'n agos gydag optometryddion lleol i ehangu'r ystod o ofal sydd ar gael yn y gymuned. Mae hyn yn golygu y gall optometryddion lleol asesu a thrin mwy o gleifion ar gyfer llawer o gyflyrau cyffredin heb iddynt orfod ymweld ag adran llygaid mewn ysbyty.

Fel rhan o'r gwelliannau hyn, mae nifer gynyddol o optometryddion ledled Gogledd Cymru bellach wedi cymhwyso i Bresgripsiynu’n Annibynnol gan eu galluogi i wneud diagnosis o broblemau llygaid eu rheoli a'u trin. Mae'r rhain yn cynnwys problemau fel llid yr amrannau, llygad sych, tynnu corffynnau estron, cymhlethdodau ar ôl cataract a chrafiadau ar y cornea.

Ers ei lansio yn gynharach eleni, mae'r gwasanaeth gofal brys i’r llygaid newydd hwn wedi helpu mwy na 2,000 o gleifion, gan leihau'r pwysau ar wasanaethau ysbytai, meddygon teulu, fferyllfeydd ac adrannau brys.

Dywedodd Kelly Gibson, Cynghorydd Optometreg ar gyfer y Bwrdd Iechyd: “Dros y flwyddyn ddiwethaf rydym wedi bod yn canolbwyntio ar feithrin gweithlu gofal sylfaenol cynaliadwy drwy gefnogi ac uwchsgilio optometryddion. Mae Presgripsiynu Annibynnol wedi dangos sut y gall optometryddion reoli cleifion yn ddiogel yn y gymuned a lleihau'r galw ar wasanaethau ysbyty.

“Ein nod hirdymor yw y bydd mwy o optometryddion yn ennill y cymhwyster hwn, fel y gall cleifion gael mynediad at ofal amserol o ansawdd uchel yn nes at eu cartref. Mae'r gwasanaethau newydd hyn yn ei gwneud hi'n haws i bobl gael y gofal cywir, yn y lle cywir, ar yr amser cywir.”

Wrth i'r gwasanaethau ehangu, gellir gwahodd cleifion i fynychu practisau optometreg lleol ar gyfer apwyntiadau sgrinio a monitro ar gyfer cyflyrau fel glawcoma, clefyd llygaid diabetig, dirywiad macwlaidd, neu archwiliadau llygaid sy'n gysylltiedig â rhai meddyginiaethau.

Dywedodd Dyfan Jones, Optometrydd yn Specsavers ym Mhorthmadog a Chaernarfon: “Rydym yn falch iawn o weld gwasanaethau optometreg yn parhau i ehangu yng Ngogledd Cymru, gan ddod â mwy o ofal yn agosach at gartref. Fel presgripsiynwyr annibynnol, gallwn ni helpu i leddfu'r pwysau ar feddygfeydd teulu ac Adrannau Brys drwy ddarparu gwasanaethau gofal llygaid yn uniongyrchol yn y gymuned. Rydym yn annog yn gryf y dylai pawb gael prawf llygaid arferol bob dwy flynedd. Mae gan lawer o gyflyrau llygaid, gan gynnwys glawcoma, ganlyniadau llawer gwell pan gânt eu canfod yn gynnar, ac mae archwiliadau rheolaidd yn un o'r ffyrdd mwyaf effeithiol o ddiogelu iechyd eich llygaid yn y tymor hir.”

Ychwanegodd Manon Haf, Cadeirydd Pwyllgor Optometreg Rhanbarthol Gogledd Cymru: “Rydym yn falch iawn â’r cynnydd a rôl gynyddol optometreg gofal sylfaenol wrth ddarparu gofal llygaid rheng flaen. Mae'r datblygiadau hyn o fudd uniongyrchol i'n cymunedau ac yn adlewyrchu partneriaeth gref rhwng optometryddion lleol a'r Bwrdd Iechyd.”

Mae'r gwasanaethau newydd hyn wedi'u datblygu yn unol â diwygiadau cenedlaethol Llywodraeth Cymru i ofal llygaid, gan sicrhau y gall pobl ledled Gogledd Cymru barhau i gael mynediad at ofal llygaid o ansawdd uchel, hygyrch ac effeithlon yn eu cymunedau lleol.

Dewch o hyd i'ch Optometrydd agosaf yma