Neidio i'r prif gynnwy

Dynes o Gonwy yn creu hanes trwy gael y driniaeth ddialysis uchaf erioed yn y DU - ar yr Wyddfa - i nodi Wythnos Rhoddi Organau

1 Hydref 2025

Mae dynes o Gonwy wedi creu hanes ar ôl cael triniaeth ddialysis ar gopa’r Wyddfa – gan godi ymwybyddiaeth o roddi organau a phwysigrwydd cymorth trwy drawsblaniadau.

Fe wnaeth Julie McGrath, 61, gyflawni gorchest newydd trwy gael triniaeth ddialysis ar y copa. Credir nad oes unrhyw glaf arall wedi cael triniaeth ddialysis mewn lle mor uchel â hynny yn y DU. Cafodd Julie ddiagnosis yn cadarnhau clefyd polysystig yr arennau pan oedd hi’n 45 mlwydd oed, a dywedwyd wrthi ychydig flynyddoedd yn ôl y byddai’n rhaid iddi ddechrau cael triniaeth ddialysis – triniaeth sy'n efelychu gwaith arennau iach trwy gael gwared â gwastraff, hylif gormodol a thocsinau o'r gwaed.

Diolch i becyn dialysis yn y cartref, mae hi'n gallu cynnal ei thriniaeth yn ei chartref cysurus ei hun, ac mae hynny’n sicrhau mwy o annibyniaeth iddi a hyd yn oed y gallu i deithio ar wyliau gyda'i phartner.

Fel rhan o Wythnos Rhoddi Organau, mentrodd gwblhau ei sesiwn ddialysis fwyaf uchelgeisiol hyd yn hyn – ar ben Yr Wyddfa yn ystod y Daith Gerdded Rhoddi Organau flynyddol, a drefnwyd gan nyrsys sy’n arbenigo ym maes rhoddi organau o bob cwr o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Ymunodd bron i 100 o gefnogwyr â'r digwyddiad eleni.

Dywedodd Julie: “Roeddwn yn dymuno gwneud hynny i roi rhywbeth yn ôl i Dîm Arennol Ysbyty Gwynedd i ddiolch iddynt am yr holl gymorth y maent wedi’i gynnig i mi. Roedd hefyd yn ymwneud â chodi ymwybyddiaeth o wasanaethau dialysis a thrawsblaniadau – a dangos y gallwch chi fyw eich bywyd i'r eithaf hyd yn oed pan fyddwch chi’n gorfod cael triniaeth,.”

Fe wnaeth Sarah Hirst-Williams, y Brif Nyrs Arennol, ganmol dyfalbarhad ei chydweithwyr a dyfalbarhad y claf.

Dywedodd hi: “Roedd hon yn gamp enfawr ac yn rhywbeth hollol newydd i’n tîm. Rwyf mor falch o'r staff arennol a wnaeth sicrhau bod hyn yn bosibl a dymunaf ddiolch i Julie am ei chymorth anhygoel i godi ymwybyddiaeth o glefyd yr arennau, dialysis, a phwysigrwydd rhoddi organau.”

Ychwanegodd Abi Roberts, Nyrs sy’n Arbenigo mewn Rhoddi Organau: “Roedd yn wych gweld bron i 100 o bobl yn mentro allan i gefnogi’r daith gerdded eleni. Mae digwyddiadau fel y rhain mor bwysig er mwyn cynnal y sgwrs am roddi organau – ac rydym yn dymuno annog pawb i gael y trafodaethau hanfodol hynny â'u hanwyliaid.”