Neidio i'r prif gynnwy

Diweddariad ar gau gwelyau Hosbis Dewi Sant yn Ysbyty Penrhos Stanley, Caergybi.

10/10/2025

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn sicrhau trigolion Ynys Môn a Gwynedd y bydd gofal lliniarol a gofal diwedd oes o ansawdd uchel yn dal i gael eu cynnig pan fydd gwelyau Hosbis Dewi Sant Ysbyty Penrhos Stanley yng Nghaergybi yn cau dros dro y mis hwn.

Ym mis Gorffennaf 2025, cyhoeddodd yr hosbis ei bod yn bwriadu cau ei huned cleifion mewnol 4 gwely ar yr ynys dros dro o fis Hydref 2025, gan nodi effaith cynnydd yn y costau rhedeg a gostyngiad yn ei hincwm.

Er bod y Bwrdd Iechyd wedi cynyddu’r cyllid y mae’n ei roi i’r sector hosbisau, mae wedi cydnabod yr heriau y mae’r sector hwn yn eu hwynebu.

Roedd gwelyau’r hosbis yn cynnig cyfraniad gwerthfawr iawn at y gwasanaethau gofal diwedd oes a gofal lliniarol i drigolion Ynys Môn a Gwynedd, ac yn cynorthwyo saith claf ar gyfartaledd, bob mis.

Mae'r Bwrdd Iechyd wedi sicrhau bod ei wasanaethau cymunedol ac ysbyty, sydd eisoes yn cynnig y rhan helaethaf o wasanaethau gofal lliniarol a gofal diwedd oes yn lleol, yn gallu parhau â’r gofal i'r nifer gymharol fechan o gleifion y rhagwelir y byddai cyfleuster Hosbis Dewi Sant wedi eu cynorthwyo.

Dywedodd Carol Shillabeer, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: "Ein blaenoriaeth yw cydweithio â Hosbis Dewi Sant i sicrhau bod unigolion a'u teuluoedd yn parhau i gael gofal o ansawdd uchel, sy’n cael ei gynnig mewn lleoliad a ffafrir ganddynt.

"Mae hyn yn cynnwys cynnig timau nyrsio ardal, sydd ar gael 24 awr y dydd; cymorth gan wasanaethau gofal lliniarol arbenigol, sydd ar gael saith diwrnod yr wythnos; a gwasanaeth nos Marie Curie.  

"Mae staff sy'n gweithio yn y timau hyn wedi’u hyfforddi’n briodol ac mae ganddynt y cymwyseddau a’r profiad i ddiwallu anghenion cleifion gofal lliniarol a'r sawl sydd yng nghyfnod olaf eu hoes, a bydd hyfforddiant ychwanegol a phwrpasol yn cael ei gynnig yn ôl yr angen. Rydym hefyd wedi bwrw ymlaen yn ddi-oed i brosesu ceisiadau gan staff sy'n gweithio i Hosbis Dewi Sant yng Nghaergybi ar hyn o bryd ac sy'n dymuno ymuno â'n banc nyrsys.

"Bydd cleifion yn dal i gael dewis ble y byddant yn cael gofal lliniarol neu ofal diwedd oes, boed hynny yn eu cartref, yn yr ysbyty, neu yn Hosbis Dewi Sant yn Llandudno."

"Mae Hosbis Dewi Sant wedi addo y bydd yn adolygu’r penderfyniad i gau’r uned dros dro ym mis Gorffennaf 2026 ac rydym wedi ymrwymo i barhau i gydweithio â nhw wrth i ni geisio cynnig y gofal gorau posibl i gleifion a'u teuluoedd."