Neidio i'r prif gynnwy

Diweddariad ar benodi Gweithredwyr ac Uwch Arweinwyr

Mae’n bleser gennym rannu’r newyddion bod Dr Clara Day wedi cael ei phenodi’n Gyfarwyddwr Meddygol Gweithredol.

Clara yw’r Prif Swyddog Meddygol yn NHS Birmingham a Solihull ar hyn o bryd a bydd yn ymuno â’r Bwrdd Iechyd ym mis Medi.

Cafodd Clara ei phenodi fel meddyg arennol ymgynghorol yn Ysbytai Prifysgol Birmingham (UHB) yn 2008, yn arbenigo yng ngofal cleifion dialysis. Mae ganddi ddiddordeb arbennig ers cryn amser yng ngofal cleifion sydd â chyflyrau iechyd hirdymor, gan gydnabod yr angen am ofal cydgysylltiedig ar draws gwasanaethau er mwyn sicrhau’r canlyniadau iechyd gorau posibl i gleifion a’r boblogaeth.

Fel Arweinydd Meddygol rhaglen frechu COVID-19 Birmingham a Solihull, arweiniodd y cydweithio clinigol yr oedd ei angen i’w chyflwyno’n llwyddiannus. Gwnaeth y profiadau hyn o waith system cydgysylltiedig ei hannog i rolau arweinyddiaeth glinigol ehangach a chafodd ei phenodi i rôl Prif Swyddog Meddygol ar gyfer Bwrdd Gofal Integredig Birmingham a Solihull ym mis Mai 2022. Fel Prif Swyddog Meddygol, mae Clara wedi canolbwyntio’n benodol ar ansawdd, arweinyddiaeth glinigol gydgysylltiedig a thrawsnewid llwybrau clinigol system cyfan o ran gofal wedi’i gynllunio a gofal heb ei gynllunio.

Mae gan Clara ddiddordeb mewn stiwardiaeth glinigol a sicrhau’r gwerth gorau posibl ar gyfer gwariant iechyd a gofal hefyd, ar ôl cyflawni swydd Cyfarwyddwr Meddygol Cynorthwyol Cyllid a Gwerth yn UHB. Mae hi hefyd wedi cyflawni rolau cenedlaethol ym maes gwasanaethau arennol yn GIG Lloegr, gan gynnwys arwain cymuned gwasanaethau arennol trwy don gyntaf COVID-19 a sefydlu Rhaglen Genedlaethol Trawsnewid Gwasanaethau Arennol. Mae hi’n gymrawd Generation Q y Sefydliad Iechyd ac mae ganddi Ddoethuriaeth mewn Imiwnoleg gan Brifysgol Birmingham.

Hoffem ddiolch hefyd i Dr Sreeman Andole, sydd wedi bod yn cyflawni rôl Cyfarwyddwr Meddygol Gweithredol ers Rhagfyr 2024 a bydd yn parhau yn y rôl honno hyd nes i Clara ymuno â ni’n ddiweddarach eleni.