16.01.2025
Mae Prif Weithredwr y Bwrdd Iechyd wedi condemnio ymddygiad dyn gafodd ei garcharu am ymosod ar bedwar aelod o staff oedd yn ceisio ei helpu.
Cafodd Jamie McAdam (yn y llun) ei garcharu am 14 mis yr wythnos ddiwethaf, ar ôl i farnwr bwysleisio ei fwriad i “achosi niwed difrifol” i staff iechyd.
Bu’n rhaid galw’r heddlu ar Ragfyr 6, 2023, ar ôl i McAdam, o Fae Colwyn, gam-drin yn eiriol, poeri a dyrnu gweithwyr yn Ysbyty Glan Clwyd. Roedd wedi pledio’n euog i bedwar cyhuddiad o ymosod ar weithiwr brys yn flaenorol.
Dywedodd Prif Weithredwr y Bwrdd Iechyd Carol Shillabeer: “Rydym yn deall bod rhai pobl dan straen eithafol pan fydd angen ein gwasanaethau arnynt a bod anawsterau gyda rhai pobl pan fyddant yn dod atom.
“Fodd bynnag, nid oes unrhyw amgylchiadau lle dylai staff yn ein hadrannau achosion brys orfod dioddef yr ymddygiad yr ydym wedi’i weld yn yr achos hwn. Ni ddylai unrhyw gydweithiwr orfod profi ymddygiad ymosodol neu drais o'r fath yn ei weithle.
“Rwyf wedi bod yn glir, nid oes unrhyw esgus dros fygwth staff nac ymwelwyr yn unrhyw un o’n safleoedd. Byddwn yn erlyn cam-drin ac ymddygiad ymosodol yn erbyn ein cydweithwyr bob tro, lle bo hynny'n briodol. Rwy’n gwybod bod y gwasanaeth y maent yn ei ddarparu yn anhygoel, a hynny dan bwysau aruthrol ac, yn gwbl briodol, mae mwyafrif y cyhoedd yn eu cefnogi. Felly, diolch byth, mae’r digwyddiadau eithafol hyn yn brin.
Darllenwch fwy: Dyn wedi cael Gorchymyn Ymddygiad Troseddol am gam-drin staff a chleifion ar ddwsinau o achlysuron - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
“Hoffwn hefyd dalu teyrnged i’n partneriaid yn Heddlu Gogledd Cymru a Gwasanaeth Erlyn y Goron am ddod â’r unigolyn hwn o flaen ei well.”
Roedd McAdam yn feddw iawn ac wedi cymryd cetamin. Roedd yn ymosodol ac yn sarhaus tuag at staff a geisiodd ei drin, cyn poeri ar a brathu gweithwyr iechyd.
Bu iddo frathu drwy ganiwla a cheisio taenu gwaed ar nyrsys tra'n honni bod ganddo hepatitis. Ceisiodd nyrs osod rhwymyn ar ei fraich lle'r oedd wedi tynnu'r caniwla allan, ond fe'i brathodd, gan achosi poen mawr iddi yn ei braich. Daeth porthor i geisio helpu i atal McAdam ond ceisiodd brathu ei law ef hefyd.
Ar ôl cael tawelydd, aeth McAdam am sgan CT ond aeth yn dreisgar unwaith eto gan daro swyddog diogelwch.
Wedi iddo gael ei asesu’n gymwys i adael yr ysbyty gan feddyg, gwrthododd McAdam fynd a pharhaodd i greu aflonyddwch nes i swyddogion o Heddlu Gogledd Cymru gyrraedd.
Wrth osod dedfryd o garchar am 14 mis ar McAdam, sydd wedi derbyn 28 o euogfarnau am 53 o droseddau, dywedodd y Barnwr Nicola Jones: “Roedd pob un o’r bobl hyn yn gwneud eu gorau i’ch cynorthwyo. Eich bwriad chi oedd achosi niwed difrifol.”
Dilynwch newyddion diweddaraf y Bwrdd Iechyd trwy gofrestru ar gyfer ein rhestr bostio Sign up (es-mail.co.uk)