Dyma wahoddiad i bobl ifanc sy'n ystyried eu hopsiynau gyrfa, a’r rhai sy'n chwilio am yrfa newydd, i gyfarfod agored yng Nghanolfan Trin Canser Gogledd Cymru i weld y cyfleoedd cyffrous sydd ar gael o fewn gofal canser.
Ar ddydd Sul 28 Medi, bydd Canolfan Trin Canser Gogledd Cymru yn Ysbyty Glan Clwyd, Bodelwyddan, yn croesawu’r cyhoedd rhwng 10am a 3pm fel rhan o'i dathliadau pen-blwydd yn 25 oed.
Bwriad y digwyddiad yw ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o weithwyr gofal iechyd proffesiynol a hefyd i gefnogi'r rhai sy'n chwilio am newid yn eu gyrfa i weld yr hyn sydd ar gael o fewn gwasanaethau canser, boed hynny o fewn meysydd gwyddoniaeth a thechnoleg arloesol neu ofal cleifion ymarferol a rolau cymorth hanfodol.
Dyma gyfle i:
- Ddysgu am y gwaith astudio a hyfforddi gyda chynrychiolwyr o Goleg Llandrillo, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Bangor, a Phrifysgol Wrecsam wrth law i drafod llwybrau at ofal iechyd
- Cwrdd â gweithwyr proffesiynol gofal iechyd sy'n gweithio o fewn gwasanaethau canser, gan gynnwys radiograffwyr, nyrsys arbenigol, oncolegwyr, fferyllwyr, gwyddonwyr a mwy
- Cyfle i weld yr amrywiaeth o lwybrau gyrfa - o swyddi sy'n ymwneud yn uniongyrchol â chleifion i yrfaoedd technegol, gwyddonol a gweinyddol sy'n cefnogi triniaeth canser
Yn ôl Emma Tracey, Radiograffydd yn y Ganolfan
“Rydym yn awyddus i gyrraedd Blynyddoedd 11, 12 a 13 yn ysgolion Gogledd Cymru, yn ogystal ag unrhyw un sy'n ystyried newid eu gyrfa. Mae Gwasanaethau Canser yn amgylchedd gwaith deinamig sy'n newid yn barhaus lle mae gwaith tîm ac arloesedd yn allweddol. Gobeithio bydd y digwyddiad hwn yn ysbrydoli pobl yn ein cymuned i ystyried dyfodol mewn gofal iechyd – ac efallai i ddod yn radiograffwyr, oncolegwyr neu nyrsys arbenigol yma yn NWCTC yn y dyfodol.”
Bydd y gyrfaoedd sy’n cael eu harddangos yn cynnwys:
- Swyddi gweinyddol – sicrhau bod y gwasanaethau'n rhedeg yn esmwyth y tu ôl i'r llenni
- Nyrsys cemotherapi arbenigol – arwain rhaglenni triniaeth
- Radiograffwyr therapiwtig – cyfuno gwyddoniaeth, technoleg a gofal i ddarparu triniaeth wedi ei thargedu
- Technolegwyr a gwyddonwyr clinigol ffiseg feddygol – sicrhau defnydd diogel a chywir o radiotherapi a thriniaethau ymbelydrol
- Oncolegwyr – yn rhoi diagnosis ac yn trin canser
- Staff fferyllfa canser – paratoi meddyginiaethau sy'n achub bywyd
- Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd – gan gynnwys ffisiotherapyddion, therapyddion galwedigaethol, deietegwyr, a therapyddion iaith a lleferydd sy'n cefnogi cleifion trwy driniaeth ac adferiad
Cofrestru
Manylion y digwyddiad:
- Dydd Sul 28 Medi 2025
- 10am – 3pm
- Canolfan Trin Canser Gogledd Cymru, Ysbyty Glan Clwyd, Bodelwyddan, LL18 5UJ
- Rhaid i unrhyw un o dan 16 oed sydd yn mynychu fod yng nghwmni oedolyn cyfrifol