Gwahoddir merched i gyfranogi mewn sgwrs bwysig am ddyfodol gwasanaethau iechyd merched ledled Gogledd Cymru.
Cynhelir digwyddiad Dewch i Drafod Iechyd Merched ddydd Llun 9 Medi, rhwng 11am ac 1pm, yng Nghanolfan Merched Gogledd Cymru yn y Rhyl.
Bydd y sesiwn yn cynnig cyfle i ferched rannu eu barn a'u profiadau o wasanaethau iechyd, ac i ddwyn sylw at y materion sydd bwysicaf iddynt.
Bydd y cyfranogwyr hefyd yn cael clywed am rai o syniadau'r Bwrdd Iechyd ar gyfer y dyfodol, gan gynnwys Hwb Braenaru, dull newydd o gynnig mynediad cydweithredol i ferched at ofal, cymorth a chyngor. Mae'r digwyddiad yn rhan o raglen ehangach o waith ymgysylltu i sicrhau bod lleisiau merched yn cael lle blaenllaw mewn penderfyniadau am eu hiechyd a'u lles.
Dywedodd Angela Wood, Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio a Bydwreigiaeth ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr:
"Mae hwn yn gyfle go iawn i ferched ddylanwadu ar sut mae gwasanaethau iechyd yn cael eu cynllunio a'u darparu ledled Gogledd Cymru. Trwy ddod at ein gilydd a rhannu profiadau, gallwn sicrhau y caiff lleisiau merched eu clywed ac y gweithredir mewn ymateb iddynt. Bydd yr adborth a gawn yn cyfrannu'n uniongyrchol at ein Cynllun Iechyd Merched, gan sicrhau bod gwasanaethau yn adlewyrchu anghenion a blaenoriaethau merched yn ein cymunedau."
Mae'r sesiwn ddiweddaraf hon yn adeiladu ar lwyddiant digwyddiadau blaenorol ynghylch iechyd merched, pan siaradodd merched yn ddi-flewyn-ar-dafod am eu profiadau a'r newidiadau y maent yn awyddus i’w gweld. Mae eu hadborth eisoes wedi llywio datblygiad syniadau newydd megis yr Hwb Braenaru.
📅 Dydd Llun 9 Medi 2025
🕚 11am–1pm
📍 Canolfan Merched Gogledd Cymru, Y Rhyl
Croeso i bawb