Neidio i'r prif gynnwy

Dechrau ar ein taith: Gwella iechyd menywod yng Ngogledd Cymru

25/07/2025

Daeth cydweithwyr a gwasanaethau o bob cwr o'r Bwrdd Iechyd, partneriaid a rhanddeiliaid allweddol at ei gilydd mewn digwyddiad a gynlluniwyd i lunio gwasanaethau iechyd menywod yng Ngogledd Cymru.

Roedd y digwyddiad a drefnwyd ac a arweiniwyd gan Nia Boughton, Arweinydd Clinigol yn nodi dechrau taith y Bwrdd Iechyd i weithredu Cynllun Iechyd Menywod Llywodraeth Cymru, gweledigaeth 10 mlynedd a lansiwyd ym mis Rhagfyr 2024 i wella gwasanaethau gofal iechyd i fenywod ar bob cam o'u bywyd.

Datblygwyd y cynllun cenedlaethol hwn i ymateb i'r dystiolaeth amlwg bod bwlch iechyd rhwng y rhywiau. Er bod menywod yn tueddu i fyw'n hirach, maent yn dioddef iechyd gwael am gyfnodau hirach, yn aml yn wynebu oedi cyn cael diagnosis a thriniaeth, ac yn teimlo nad oes neb yn eu clywed pan fyddant yn gofyn am gymorth. Mae'r cynllun wedi clywed llais mwy na 4,000 o fenywod ar hyd a lled Cymru, ac mae’n cynnwys bron i 60 o gamau gweithredu ar draws wyth maes blaenoriaeth, gyda'r ffocws cychwynnol ar iechyd mislif, y menopos ac atal cenhedlu.

Wrth agor y digwyddiad lleol, croesawodd Angela Wood, Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio ac Uwch Swyddog Ymateb, y mynychwyr gan osod y naws â'i neges gref am nod gyffredin ac uchelgais:

“Nid cyfrifoldeb un gwasanaeth, un adran nac un sefydliad yn unig yw gwella iechyd menywod. Mae'n gofyn am gydweithio, rhannu perchnogaeth a chyd ymrwymo i wneud newidiadau ar draws y system iechyd a gofal cyfan. Wrth weithio gyda'n gilydd, gallwn greu newidiadau gwirioneddol a pharhaol i fenywod a'u teuluoedd yng Ngogledd Cymru. Mae gennym ni i gyd rôl i'w chwarae - o atal ac ymyrraeth gynnar i wasanaethau arbenigol a chymorth cymunedol - wrth lunio canlyniadau iechyd gwell i fenywod.”

Roedd stori bwerus gan Anna Cooper, cyd-sylfaenydd Prosiect Iechyd Mislif, yn amlygu pam fod y gwaith hwn yn bwysig a beth sydd yn y fantol os na fyddwn yn ei wneud yn iawn.

Clywodd y mynychwyr hefyd gan amrywiaeth o siaradwyr ysbrydoledig o'r Bwrdd Iechyd a oedd yn cynnig mewnwelediad a chyfeiriad ar ystod o bynciau - o ddata rhanbarthol a pholisi cenedlaethol i gyfleoedd i drawsnewid gofal menywod trwy lwybrau a gwasanaethau integredig. Siaradodd cynrychiolydd Triniaeth Deg i Fenywod Cymru (FTWW) am bwysigrwydd gwir gyd-gynhyrchu wrth lunio gwasanaethau iechyd menywod ac amlinellodd Emily Evans o'r Rhwydwaith Iechyd Menywod Cenedlaethol y weledigaeth genedlaethol ar gyfer Canolfannau Iechyd Menywod a'r hyn y gallai ei olygu i Ogledd Cymru.

Cynlluniwyd trafodaethau ar y diwrnod i feithrin momentwm a sicrhau dealltwriaeth gyffredin o'r camau nesaf. Mae'r rhain yn cynnwys sefydlu Hwb Braenaru yng Ngogledd Cymru a sicrhau bod y cynllun gweithredu lleol wedi'i ymgorffori'n llawn yn ein Cynlluniau Tymor Canolig Integredig (IMTP) fel blaenoriaeth Weinidogol ar gyfer 2025-26.

Daeth Carol Shillabeer â’r digwyddiad i ben gyda neges glir ac ysbrydoledig a oedd yn atgyfnerthu'r disgwyliadau allweddol wrth symud ymlaen:

“Rwy'n gwybod o brofiad pa mor bwysig yw hi fod menywod yn teimlo eu bod yn cael eu clywed a'u cefnogi o ran eu hiechyd, ar wahanol gamau yn ystod eu bywyd. Mae’r digwyddiad heddiw wedi bod yn gyfle i ddod â lleisiau at ei gilydd a gosod y naws ar gyfer cynnydd a newid go iawn. Dyna pam y mae'n rhaid i ni fabwysiadu dulliau cyson a chynhwysol wrth ymdrin ag iechyd menywod a sicrhau bod y lleisiau hynny'n parhau i arwain popeth a wnawn.”

Roedd y digwyddiad yn ddechrau ystyrlon i'r hyn a fydd yn rhaglen drawsnewid hirdymor a phellgyrhaeddol. Yn bwysicach, mae'n arwydd o’n hymrwymiad ni â’n partneriaid a’n cymunedau i roi llais ac anghenion menywod wrth wraidd sut rydym yn cynllunio, darparu a gwella eu gwasanaethau.

Dolenni ac adnoddau defnyddiol: