25 Mehefin 2025
Mae cynlluniau cynnar wedi'u datgelu ar gyfer Canolfan Iechyd a Lles newydd ym Mhenygroes, fel rhan o ymrwymiad i ehangu a gwella mynediad at wasanaethau hollbwysig ar draws Dyffryn Nantlle.
Cynhaliwyd digwyddiad galw heibio i'r gymuned, y bu mwy na 80 o bobl yn bresennol ynddo, ym Mhenygroes yr wythnos hon er mwyn rhoi cyfle i rannu'r cynlluniau gyda'r gymuned a gofyn am eu barn.
Bydd y ganolfan newydd, sydd ag enw Canolfan Lleu am y tro, yn cynnwys ystod eang o wasanaethau gofal a chymorth o dan un to - gan leihau'r angen i deithio ac i'w gwneud yn haws i gleifion a theuluoedd fanteisio ar y cymorth sydd ei angen arnynt, yn agosach at y cartref. Mae'r rhain yn cynnwys:
Dywedodd Stuart Keen, Cyfarwyddwr yr Amgylchedd ac Ystadau ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: "Roeddem yn falch o wahodd trigolion lleol i weld a gwneud sylwadau ar ein cynigion amlinellol ar gyfer Canolfan Iechyd a Lles newydd ym Mhenygroes, gan gyflawni ymrwymiad a wnaed yn ystod cyfarfod cyhoeddus a gynhaliwyd ym mis Ebrill 2025, lle gwnaethom wrando'n ofalus ar bryderon ynghylch oedi wrth ddatblygu'r datblygiad angenrheidiol hwn.
"Y cynnig yw i Ganolfan Lleu ddarparu ystod eang o wasanaethau iechyd a lles hanfodol, gan ddarparu gofal cydgysylltiedig yn agosach at y cartref, mewn amgylchedd modern ac addas at ei ddiben. Bydd hyn yn cynnwys ffocws allweddol ar y gwasanaethau atal a lles sy'n cyflawni rôl hollbwysig o ran darparu'r cymorth cynnar sydd ei angen ar bobl i gadw'n iach a hynny'n barhaus.
"Dros y misoedd sydd i ddod, byddwn yn ystyried adborth gan gymuned Dyffryn Nantlle ac yn datblygu cynlluniau manylach. Yn amodol ar ganiatâd cynllunio a chymeradwyaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer ein hachos busnes llawn, rydym yn rhagweld y gallai'r adeiladu ddechrau yn hydref 2027."
Dywedodd Mel Evans, Prif Weithredwr Grŵp Cynefin: "Roedd y digwyddiad galw heibio'n wych a bu nifer fawr o bobl yno. Roedd yn gyfle i'r gymuned weld y cynlluniau arfaethedig ar gyfer y ganolfan iechyd ac i gyfarfod â swyddogion allweddol o BIPBC a Grŵp Cynefin. Rydym yn gwybod pa mor bwysig yw'r ganolfan hon i Ddyffryn Nantlle cyfan. Mae llawer o waith yn mynd ymlaen ac mae'r bartneriaeth yn gwneud cynnydd gwych."
I gyflwyno eich sylwadau a'ch pryderon ynghylch llunio'r ganolfan newydd, mae croeso i chi gysylltu trwy bcu.getinvolved@wales.nhs.uk