Mae cerflun newydd wedi cael ei ddadorchuddio y tu allan i brif fynedfa Ysbyty Maelor Wrecsam.
Gwaith yr artist arobryn Simon O’Rourke yw’r cerflun, a oedd yn awyddus i greu rhywbeth ar gyfer yr ysbyty a’r gymuned.
Mae'r darlun wedi'i gerfio o goed coch ac yn cyfleu cymuned, gofal a gwellhad, gyda'r sarff a'r ffon yn symbol o ofal iechyd drwy'r oesoedd.
Dywedodd Simon: “Roeddwn i'n awyddus i greu'r cerflun fel rhodd i’r gymuned ac mae lleoliad yr ysbyty yn un arwyddocaol gan fy mod i wedi cael triniaeth yno sawl gwaith dros y blynyddoedd. Mae celf gyhoeddus yn bwysig mewn unrhyw gymuned, rwy'n gobeithio y bydd yn golygu rhywbeth i bobl.
"Mae dwylo yn gysylltiad ymarferol a phersonol rhwng pobl. Roeddwn i eisiau cyfleu pwysigrwydd dwylo yn y maes meddygol, rhwng staff a chleifion.
“Mae'r crychau yng ngherflun y llaw yn dangos llaw sy’n gweithio, ac ar gledr y llaw mae'r symbol meddygol hynaf yn y byd, sy'n dyddio’n ôl filoedd o flynyddoedd. Mae symbol y sarff a'r ffon i'w weld ledled y byd yng nghyd-destun meddygaeth hyd heddiw, felly mae'n nodwedd sy'n cael ei deall yn fyd-eang.
“Mae’r cerflun wedi’i wneud o gochwydden a oedd wedi gorfod cael ei thorri i lawr ychydig o flynyddoedd yn ôl yn y Trallwng, ac mae bob amser yn anrhydedd gallu creu stori newydd i goeden trwy greu cerflun.”
Dywedodd Dr Stephen Stanaway, Cyfarwyddwr Meddygol Ysbyty Maelor Wrecsam: “Ar ran fy holl gydweithwyr yn Ysbyty Maelor Wrecsam, rydym wrth ein boddau o weld y cerflun hardd hwn gan Simon O’Rourke wedi’i ddadorchuddio ar ein safle. Mae'r ffaith mai rhodd gan yr artist i'w ysbyty lleol ei hun yw hon yn enghraifft o ba mor bwysig yw ein cyfleuster yng ngolwg y cyhoedd.
“Mae delweddaeth y cerflun yn cynrychioli sut mae gofal iechyd i raddau helaeth yn ymwneud â dwylo, â chyswllt rhwng bodau dynol ac ag un bod dynol yn rhyngweithio ag un arall ac yn ymateb i'w anghenion.
“Hoffwn ddiolch i Simon am ei haelioni a’i rodd i’r ysbyty. Bydd ei rodd yn cael ei thrysori am flynyddoedd lawer.”
Gallwch ddysgu mwy am Simon a'i waith yn https://treecarving.co.uk/