Neidio i'r prif gynnwy

Cynllun Cymunedau sy'n Deall Dementia Gogledd Cymru

3 Mawrth 2025

Mae’r daith i greu cymunedau sy’n deall dementia ledled Gogledd Cymru wedi dechrau ers tro.

Rydym yn cydweithio â chwe chyngor lleol, Cynghorau Gwirfoddol Sirol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, busnesau lleol, ac elusennau.

Mae'r Mae Cynllun Cymunedau sy’n Deall Dementia yn ymwneud â helpu i ddatblygu cymunedau sy’n dosturiol, yn gynhwysol ac yn gydnerth i bobl sy’n byw gyda dementia, a hefyd i gynorthwyo eu ffrindiau, eu teuluoedd a’u gofalwyr di-dâl i gynnal cysylltiadau, a byw yn dda yn eu hardaloedd lleol.

Lansiodd Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru (BPRh) Gogledd Cymru Gynllun Cymunedau sy’n Deall Dementia Gogledd Cymru ar 1 Ionawr 2024. Mae’r fenter hon yn adeiladu ar waith gwerthfawr Cymdeithas Alzheimer, y mae ei chynllun bellach wedi dod i ben.

Mae Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych (DVSC) wedi gwneud cyfraniad allweddol at ddatblygiad y cynllun, gan rannu arbenigedd o'u prosiect Sir Ddinbych Ymwybodol o Ddementia i gynorthwyo cynghorau eraill a hyrwyddo'r fenter ar draws y rhanbarth.

Ym mlwyddyn gyntaf y cynllun:

  • Cynorthwywyd dros 1,000 o bobl sy'n byw gyda dementia a'u gofalwyr di-dâl trwy grwpiau dementia.
  • Mynychodd mwy na 150 o bobl sesiynau hyfforddiant ynghylch dementia.
  • Dywedodd dros 1,400 o bobl fod ganddynt wybodaeth well am wasanaethau dementia yn eu cymuned.

Ar hyn o bryd, mae 12 cymuned yng Ngogledd Cymru yn cael eu cydnabod am eu cynnydd tuag at ddod yn gymunedau sy’n deall dementia, o Ynys Môn i Wrecsam. Rhagwelir y bydd 12 cymuned arall yn ystyried cyflwyno cais am achrediad statws cymuned sy’n deall dementia yn ystod 2025.

Dywedodd Rebecca Bowcot, Sir Ddinbych Ymwybodol o Ddementia, DVSC:

“Mae codi ymwybyddiaeth o ddementia ledled Sir Ddinbych wedi bod yn ffordd wych o rymuso unigolion a chymunedau i weithredu er mwyn helpu pobl y mae dementia yn effeithio arnynt yn eu cymunedau lleol. Mae’n hynod werth chweil gweld pobl yn dod at ei gilydd i gyflawni eu nodau unigol yn ymwneud â dymuno cynorthwyo pobl fel y gall pawb barhau i gael eu cynnwys a chyfrannu’n weithredol at fywyd eu cymuned. Rydym yn cynnal cyfarfodydd Rhwydwaith Sir Ddinbych Ymwybodol o Ddementia bob yn ail fis ac mae hynny’n galluogi cymunedau sy’n deall dementia i ddod at ei gilydd i rannu syniadau a

chynorthwyo ei gilydd i alluogi eu cymunedau sy’n deall dementia i ddatblygu a ffynnu.”

Dywedodd un unigolyn sy’n byw gyda dementia:

“Mae bod yn rhan o gymuned sy’n deall dementia yn helpu i sicrhau y caiff eich llais ei glywed. Mae hynny hefyd wedi helpu i hyrwyddo’r grŵp Precious Memories yn y Rhyl sy’n cynnal cyfarfodydd wythnosol ac sy’n ffynhonnell werthfawr o gymorth gan gymheiriaid i bobl”.

Dywedodd Dilwyn Jones, Cadeirydd Dinbych sy’n Deall Dementia:

“Roedd yn anrhydedd i mi ddod yn Gadeirydd Dinbych sy’n Deall Dementia a bod yn rhan o’r broses o godi ymwybyddiaeth yn lleol, trwy sesiwn wybodaeth. Rydym wedi gallu rhoddi eitemau megis teclynnau Alexa a chathod a chŵn robotig i helpu'r sawl sy'n byw gyda dementia a'u gofalwyr."

Gall cymunedau sy’n cyfranogi yn y cynllun gael cydnabyddiaeth am eu hymdrechion, a gallai hynny gynnwys:

  • Hyfforddiant ar gyfer staff mewn busnesau lleol
  • Arwyddion eglur a hawdd eu deall o amgylch y dref
  • Gweithgareddau deall dementia

Newyddion cysylltiedig: Mae Cyngor Sir Ynys Môn wedi'i gydnabod fel y Cyngor sy’n Deall Dementia cyntaf yng Ngogledd Cymru

Gwybodaeth ychwanegol: