Neidio i'r prif gynnwy

Cydnabod cyfraniad hanfodol ein cydweithwyr nyrsio a'u dathlu

Mae Anya Hughes yn Nyrs Feirysau a Gludir yn y Gwaed sy'n gweithio yng Ngharchar EF y Berwyn yn Wrecsam ac mae'n awyddus i daflu goleuni ar yr ystod eang o rolau nyrsio sy'n cefnogi'r GIG a chymunedau ledled Gogledd Cymru.

 

Mae Anya, a ymunodd â'r Bwrdd Iechyd yn 2021, wedi cael ei chydnabod â gwobr Seren y Dyfodol Gwobrau Cyrhaeddiad Staff BIPBC ac roedd hefyd yn rhan o'r tîm arobryn y tu ôl i brosiect micro-ddileu Hepatitis C yn y carchar.

 

Roedd y prosiect yn fenter ar y cyd rhwng y Bwrdd Iechyd, Iechyd Cyhoeddus Cymru a'r elusen 'Hepatitis C Trust'. Cynigiwyd prawf i 100% o garcharorion, ac o'r rhain profwyd 90% o ddynion a chafodd 90% o'r rhai a gafodd ddiagnosis o Hepatitis C driniaeth.

 

Gelwir hyn yn ficro-ddileu, sy'n golygu bod gofynion penodol ar gyfer profi a thrin Hepatitis C wedi'u bodloni o fewn amgylchedd penodol (CEF y Berwyn yn yr achos hwn). Cydnabuwyd llwyddiant y gwaith hwn yng ngharchar mwyaf y DU pan enillodd tîm y prosiect wobr Diwylliant Tîm GIG Cymru.

 

Dywedodd Anya: “Mae Diwrnod Rhyngwladol y Nyrsys yn gyfle da i daflu goleuni ar yr amrywiaeth eang o rolau nyrsio sy’n cefnogi ein gwasanaethau GIG a’n cymunedau ledled Gogledd Cymru.

 

“Roeddwn i’n gweithio’n wreiddiol fel Nyrs Cyffuriau ac Alcohol cyn i mi gael y cyfle i ymgymryd â rôl Nyrs Firysau a Gludir yn y Gwaed. Ar y pryd, roedd yn swydd nad oeddwn wedi dod ar ei thraws o'r blaen, ond yn gyflym, tyfais i werthfawrogi ei harwyddocâd ac rwy'n angerddol iawn dros y gwaith. Deuthum i ddeall pa mor hanfodol yw'r rôl hon o fewn carchardai, lle mae'n pontio arbenigedd clinigol, eiriolaeth iechyd y cyhoedd, a gofal cymdeithasol.

 

“Mae poblogaeth y carchar yn profi cyfraddau anghymesur o uchel o firysau a gludir yn y gwaed oherwydd gwahanol ffactorau ffordd o fyw, gan wneud yr amgylchedd hwn yn bwynt ymyrraeth allweddol. Mae'r rôl hon yn cynnig cyfle unigryw i addysgu, lleihau niwed, cefnogi a thrin grŵp sydd dan anfantais ac a gaiff ei wthio i'r ymylon yn aml.

 

“Nid yw gweithio yn y lleoliad hwn yn ddi-her. Nid oes llawer o unigolion erioed wedi ymgysylltu (neu maent wedi osgoi ymgysylltu'n weithredol) â gwasanaethau gofal iechyd oherwydd diffyg ymddiriedaeth neu amgylchiadau bywyd anhrefnus. Fel nyrs, rwy'n gweithio bob dydd i feithrin ymddiriedaeth a chwalu'r rhwystrau hyn. Rwy'n teilwra fy null i fod yn addas i bob unigolyn, gan gynnig gofal tosturiol sy'n canolbwyntio ar y claf a gweithredu fel eiriolwr ar gyfer eu hanghenion iechyd.

 

“Mae gan y rhan fwyaf o’r cleifion hyn broblemau iechyd a chymdeithasol cymhleth, sy’n gofyn am gydweithrediad amlddisgyblaethol agos. Mae'r gwaith tîm hwn yn hanfodol wrth annog ymgysylltiad, gan ysgogi cychwyn triniaeth a’i chwblhau. Yn y pen draw, mae'n cyfrannu at eu nodau adsefydlu ehangach. Drwy’r gwaith hwn, rydym yn helpu unigolion, ond hefyd yn lleihau niwed i’r gymuned ehangach.”

 

Dywedodd Angela Wood, Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio a Bydwreigiaeth: “Mae Anya wedi dangos ei hymrwymiad i nyrsio a gwella ansawdd gwasanaethau i’n cleifion. Dyma gydnabyddiaeth haeddiannol ac mae hi’n parhau i arddangos gwerthoedd PBC. Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Nyrsys, mae gennym gyfle i ddathlu nyrsys ledled y byd, mae Anya yn ein cynrychioli ni i gyd.”