Neidio i'r prif gynnwy

Cwblhau pryniant Caledfryn a chaniatáu cais newid defnydd ar gyfer Canolfan Iechyd a Lles

02.04.2025

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) wedi cwblhau'r gwaith o brynu cyn swyddfeydd y cyngor yn Ninbych.

Ym mis Chwefror eleni, cafodd y Bwrdd Iechyd ganiatâd i newid defnydd adeilad Caledfryn, ar Ffordd y Ffair yn y dref.

Mae hyn yn golygu y gellir cwblhau'r pryniant, gyda chynlluniau i drawsnewid y swyddfeydd yn Ganolfan Iechyd a Lles i drigolion Dinbych a'r ardaloedd cyfagos.

Mae cynlluniau arfaethedig ar gyfer y ganolfan newydd yn cynnwys cymysgedd o wasanaethau i blant ac oedolion, gyda’r Tîm Adnoddau Cymunedol, bydwreigiaeth, iechyd meddwl cymunedol ac anableddau dysgu ymhlith y gwasanaethau y disgwylir iddynt fod wedi eu lleoli ar y safle. Mae’r Tîm Adnoddau Cymunedol yn bartneriaeth sy’n bodoli eisoes rhwng timau nyrsio cymunedol y Bwrdd Iechyd a gweithwyr gofal cymdeithasol proffesiynol awdurdodau lleol, sy’n cydweithio mewn un lleoliad.

Mae’r gwaith rhwng Cyngor Sir Ddinbych a BIPBC eisoes ar y gweill er mwyn datblygu partneriaeth gref sy'n gwasanaethu'r boblogaeth leol orau. Hyd yn hyn, cefnogwyd y prosiect yn ariannol gan Gronfa Gyfalaf Integreiddio ac Ail-gydbwyso Llywodraeth Cymru.

Darllenwch fwy: Gosod carreg gopa' yng nghanolfan cymorth canser newydd Gogledd Cymru

Dywedodd Gareth Evans, Cyfarwyddwr Cymuned Iechyd Integredig Ardal y Canol, BIPBC: “Mae hwn yn ddatblygiad cyffrous iawn i bobl Dinbych. Mae’n dod â gwasanaethau hanfodol i un ganolfan. Rydym yn ddiolchgar am gyllid Cronfa Gyfalaf Integreiddio ac Ail-gydbwyso Llywodraeth Cymru, sydd wedi ein galluogi i symud ymlaen â’r prosiect.

“Bydd y cynllun hwn yn cryfhau cysylltiadau gyda phartneriaid pwysig fel Cyngor Sir Ddinbych yn ogystal â darparu gwasanaethau lleol o ansawdd uchel i bobl leol. Mae hyn yn rhywbeth y mae pobl yng Ngogledd Cymru yn dweud wrthym yn gyson eu bod eisiau mwy ohono.”

Dywedodd y Cynghorydd Elen Heaton, yr Aelod Arweiniol dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghyngor Sir Ddinbych: “Mae galwadau cynyddol, cyson ar dimau iechyd a gofal cymdeithasol ac mae’r gwaith y maen nhw’n ei wneud yn y gymuned yn amhrisiadwy. Bydd y ganolfan newydd hon o fudd gwirioneddol i Ddinbych.”

Rhagwelir y bydd gwasanaethau anghlinigol yn symud i Galedfryn yr hydref hwn. Yna, yn amodol ar gyllid pellach gan Lywodraeth Cymru, bydd cyfnod o adnewyddu cyn i'r gwasanaethau clinigol symud i'r adeilad yn gynnar yn 2026.

Darllenwch fwy: Gwaith yn mynd rhagddo ar yr Hwb Orthopedig newydd gwerth £29.4m yn Ysbyty Llandudno

Dywedodd y Cynghorydd Gwyneth Ellis, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol Cyngor Sir Ddinbych: “Gwnaed y penderfyniad i gau Caledfryn yn Rhagfyr 2023 fel rhan o waith y Cyngor i ganfod arbedion. Yn dilyn proses dendro anffurfiol, ac yn amodol ar gytuno ar delerau rhwng y ddwy ochr, gwnaed penderfyniad i fynd ar drywydd gwerthu adeilad Caledfryn i'r Bwrdd Iechyd.

“Rwy’n falch iawn o weld y gwerthiant hwn yn cael ei gwblhau, gan gadw’r adeilad mewn perchnogaeth gyhoeddus a’i ddefnyddio i ddod â gwasanaethau hanfodol i'r gymuned leol. Un o egwyddorion craidd ein Strategaeth Rheoli Asedau 2024-2029 yw ystyried pwy sydd orau i fod yn berchen ar bob ased a'i weithredu, a nodi cyfleoedd ar gyfer cydweithio. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weld cynlluniau BIPBC wrth i Galedfryn gael ei ddefnyddio fel canolfan i’r gymuned yn Ninbych a’r cyffiniau. Hoffwn fynegi fy niolch i staff y Cyngor am eu gwaith caled wrth gwblhau'r gwerthiant.”

Bydd mwy o wybodaeth i drigolion wrth i'r cynllun ddatblygu.

Dilynwch newyddion diweddaraf y Bwrdd Iechyd trwy gofrestru ar gyfer ein rhestr bostio Sign up (es-mail.co.uk)