Ebrill 7, 2025
Heddiw, mae llinell gymorth iechyd meddwl sydd wedi cefnogi degau o filoedd o bobl ledled Cymru yn nodi 30 mlynedd o helpu'r rhai mewn angen
Sefydlwyd Llinell Gymorth CALL ar 7 Ebrill 1995 fel 'Llinell Gyngor a Gwrando Clwyd' a chynhaliwyd y gwasanaeth gan wirfoddolwyr - ond yn ddiweddarach ehangodd i gwmpasu pob ardal yng Nghymru, gan gyflwyno gwasanaeth 24 awr yn 2008.
Mae'r llinell gymorth rhad ac am ddim a chyfrinachol yn cynnig clust i wrando, arweiniad a chymorth emosiynol i bobl sy'n wynebu heriau iechyd meddwl. Gall galwyr hefyd gael eu cyfeirio at wasanaethau cymorth perthnasol eraill a gofyn am adnoddau gwybodaeth i'w darllen gartref.
Mae'r gwasanaeth wedi derbyn bron i 200,000 o alwadau neu gysylltiadau eraill yn ystod y pum mlynedd diwethaf yn unig, gan gynnwys mwy na 29,000 yn 2024. Ar gyfartaledd, mae'r gweithwyr a gwirfoddolwyr galwadau hyfforddedig iawn yn treulio tua 20 munud yn cefnogi pob galwr gyda'u lles meddyliol ddydd a nos.
Mae'r gwirfoddolwr ymroddedig, Karl Bailey, wedi bod yn rhoi o'i amser i gefnogi Llinell Gymorth CALL ers y dechrau, 30 mlynedd yn ôl, ac mae'n cofio ei ddyddiau cynharaf mewn swyddfa fach iawn i fyny'r grisiau uwchben cartref nyrsio.
“Mae'n rhoi boddhad mawr i mi os gallaf helpu ein galwyr,” meddai. “Yn aml, mae'n ymwneud â gwrando ar eu pryderon a'r hyn sydd ganddyn nhw i'w ddweud.
“Rwy'n mwynhau'r gwaith yn fawr. Mae pawb rwy'n gweithio gyda nhw mor gyfeillgar ac rydyn ni'n dod ymlaen mor dda - mae'n debycach i deulu mawr."
Mae Sian Jones wedi bod yn rhan o'r gwasanaeth llinell gymorth ers 21 mlynedd, i ddechrau fel gwirfoddolwr ac yn awr fel gweithiwr galwadau.
Dywedodd: “Rwy’n hoffi gwybod fy mod wedi gwneud gwahaniaeth i bobl ac i'w diwrnod - ac efallai fy mod wedi gwneud gwahaniaeth i'w bywydau.
“Mae’n rhoi boddhad i mi allu gwrando ar bobl, eu cefnogi a'u cynorthwyo i ddod o hyd i'r ffordd gywir ymlaen pan fyddant yn ffonio i drafod eu problemau neu bryderon.”
Mae Llinell Gymorth CALL yn cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru ac yn cael ei chynnal gan y Bwrdd Iechyd, ochr yn ochr â Llinell Gymorth Cyffuriau ac Alcohol Cymru DAN 24/7 a Llinell Gymorth Dementia Cymru. Mae'n ategu'r gwasanaeth GIG 111 Cymru Pwyso 2 Cenedlaethol ar gyfer cymorth iechyd meddwl brys a lansiwyd ar draws Cymru yn 2023.
Bydd y llinell gymorth yn lansio brand, deunyddiau a gwefan newydd gan gynnwys cyfres o offer hunanasesu hawdd eu defnyddio a llyfrynnau gwybodaeth wedi'u hadnewyddu yn ddiweddarach y mis hwn.
Dywedodd ein Rheolwr Gwasanaethau Llinell Gymorth, Luke Ogden, fod y tîm yn falch o fod wedi cyrraedd y pen-blwydd nodedig, ac o barhau i gynnig cefnogaeth genedlaethol hanfodol o'u canolfan yn Wrecsam.
“Mae galwyr yn dweud wrthym o hyd faint maen nhw'n gwerthfawrogi'r gefnogaeth y mae ein staff a'n gwirfoddolwyr yn ei rhoi,” meddai. “Mae'r gefnogaeth honno bob amser ar gael i helpu unrhyw un sydd angen clust i wrando ar eu pryderon iechyd meddwl, neu bryderon sydd ganddyn nhw am un o'u hanwyliaid.”
🔵 Cewch y newyddion diweddaraf gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr drwy gofrestru ar ein rhestr bostio.