12 Mai 2025
Heddiw (12 Mai) mae'r byd yn dathlu Diwrnod Rhyngwladol Nyrsys ac mae un claf diolchgar yn manteisio ar y cyfle i fynegi ei ddiolch twymgalon i grŵp arbennig o arwyr ym maes gofal iechyd sydd wedi dod yn fwy o deulu iddo na gweithwyr gofal yn unig.
Mae Robert Leslie Williams, 87, wedi bod o dan ofal Gwasanaeth Allgymorth Nyrsys Fasgwlaidd yn Ysbyty Gwynedd ers dros saith mlynedd, yn dilyn diagnosis cymhleth o wlserau aetiolegol cymysg y goes isaf. Dywed Bob ei fod wedi cael apwyntiadau, triniaethau, a chyfnodau adferiad di-ri, a bod y tîm ymroddedig o nyrsys wedi rhoi, nid yn unig gofal meddygol arbenigol iddo, ond hefyd y gefnogaeth emosiynol sydd wedi'i gynnal a’i godi trwy gydol ei daith iechyd.
“Maen nhw'n fwy na nyrsys i mi - maen nhw'n debycach i deulu,” meddai Bob. “Roedd yna ddyddiau pan oeddwn i’n ofnus, mewn poen, a ddim yn gwybod beth oedd ar y gorwel i mi. Ond roedd y nyrsys yma wastad yn fy nghynnal – gyda gwên gynnes, dwylo cadarn, ac anogaeth i gadw i fynd.”
Mae Bob yn siŵr bod y gwelliant yn ei symudedd ac ansawdd ei fywyd yn deillio o’r gofal cyson a thosturiol y mae wedi’i dderbyn gan y tair nyrs ymroddedig yn y Tîm Nyrsio Fasgwlaidd, Carys Park, Catrin Davies ac Ann Jones.
Er mai tîm bach ydyn nhw, maen nhw wedi gofalu am filoedd o gleifion ers i’r tîm gael ei sefydlu yn 2013. Maen nhw’n rheoli llawer iawn o gyflyrau fasgwlaidd, gan gynnig cymorth ac arweiniad drwy asesiadau o’r cylchrediad, cyngor ar ofal clwyfau a monitro parhaus.
Dywedodd Carys: “Rydym yn gofalu am gleifion sydd wedi cael diagnosis o glefyd rhydwelïol ymylol, wlserau cymysg aetiolegol a gwythiennol; clwyfau trawmatig, a hefyd yn cynnig cefnogaeth i’r rhai sydd wedi cael diagnosis o ymlediadau aortig yr abdomen.
“Ein rôl ni yw sicrhau bod cleifion yn byw bywydau mor iach ag y gallant gyda’u cyflwr ac yn cael ansawdd bywyd da, trwy gynnig cyngor ar y driniaeth feddygol orau a'r dewisiadau ffordd o fyw gorau.
Darperir cymorth i gleifion, eu teuluoedd yn ogystal â staff nyrsio a meddygol o fewn gofal eilaidd a gofal sylfaenol. Mae clinigau dan arweiniad nyrsys fasgwlaidd a gynhelir yn Ysbyty Gwynedd yn cynnig cefnogaeth barhaus ar ôl rhyddhau o'r ysbyty. Mae canfod problemau’n gynnar yn sicrhau ymyrraeth brydlon ac uwchgyfeirio unrhyw bryderon pan fydd angen ymyrraeth.
“Rydyn ni’n dod i adnabod ein cleifion a'u perthnasau’n dda iawn. Mae llawer o gleifion yn cael eu trin gennym ni trwy gydol eu hoes oherwydd, yn anffodus, mae’r cyflwr hwn yn aml yn un cynyddol sy’n gofyn am reolaeth barhaus.”
Dywedodd Catrin, a fu’n gweithio ar Ward Dulas yn Ysbyty Gwynedd gyda Carys cyn ymuno â’r gwasanaeth Nyrsio Arbenigol ddeuddeg mlynedd yn ôl: “Yr hyn rydw i’n ei garu fwyaf am y swydd hon yw’r cyswllt rydyn ni’n ei greu gyda’n cleifion a’u teuluoedd. Dydyn ni ddim yn trin cyflwr yn unig – rydyn ni’n dod i adnabod yr unigolyn ei hun.
“Mae gweld cleifion fel Bob yn canfod eu hyder unwaith eto ac yn teimlo’n well ynddyn nhw eu hunain yn rhoi boddhad mawr.”
Mae Carys yn hynod falch o’i thîm, eu hymdrechion a’u hymroddiad i ofalu am gleifion sydd dan ofal y gwasanaeth fasgwlaidd yng Ngogledd Orllewin Cymru.
“Rydym yn falch iawn i weithio o fewn y gwasanaeth hwn a gofalu am y cleifion sydd gennym,” meddai. Rydym hefyd yn gweithio’n agos gyda’r Timau Nyrsio Ardal yn y gymuned. Rydym mewn cysylltiad rheolaidd â nhw er mwyn monitro ein cleifion yn eu cartrefi. Mae’n swydd arbennig iawn ac mae ein cleifion yn arbennig iawn hefyd.”
Mae Diwrnod Rhyngwladol Nyrsys, sy’n digwydd bob blwyddyn ar ben-blwydd Florence Nightingale, yn dathlu cyfraniadau nyrsys ledled y byd. I Bob, dyma’r cyfle perffaith i dynnu sylw at dîm sydd wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau, a hynny’n dawel bach.
“Does gen i ddim digon o eiriau i ddiolch yn iawn iddyn nhw” meddai Bob “ond os yw rhannu fy stori ag eraill yn dangos iddyn nhw gymaint maen nhw’n cael eu gwerthfawrogi, yna rwy’n falch iawn i wneud hynny.”