06.05.2025
Mae gwasanaethau iechyd meddwl a ddarperir gan ddau fwrdd iechyd ar fin cymryd cam arwyddocaol ymlaen ar ôl i Lywodraeth Cymru ddyfarnu bron i £17m iddynt er mwyn gweddnewid eu systemau cofnodion cleifion.
Gwnaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (BIPCTM) gyflwyno achosion busnes llwyddiannus er mwyn ariannu'r newid tuag at systemau sydd wedi'u digideiddio'n llawn.
Bydd Betsi Cadwaladr yn derbyn mwy na £12m o gyllid gan Lywodraeth Cymru, a bydd Cwm Taf Morgannwg yn cael budd o ryw £5m gyfer ei gynllun. Mae'r pecynnau cyllid pum mlynedd yn rhannol amodol ar gyrraedd targedau prosiect.
Bydd datblygu systemau digidol yn gweddnewid sut caiff y broses o weinyddu cleifion a'u cofnodion yn cael ei rheoli, gan ei gwneud yn haws i staff clinigol roi gofal parhaus i gleifion. Dylai hefyd gyflymu cyfeiriadau ar gyfer defnyddwyr gwasanaeth, caniatáu mwy o amser ar gyfer arfer clinigol staff a helpu i ddileu gwallau sy'n gallu codi o fewn systemau cofnodi papur.
Darllenwch fwy: Clust i wrando, arweiniad a chymorth emosiynol: 30 mlynedd o'r Llinell Gymorth CALL - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Gwnaeth Prif Weithredwyr y ddau fwrdd iechyd groesawu'r gefnogaeth ar gyfer eu prosiectau perthnasol, y byddant yn rhannu dysgu'n seiliedig arnynt, wrth i'r ddau sefydliad geisio ehangu dulliau cadw cofnodion digidol.
Dywedodd Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Carol Shillabeer: "Mae ar y gwasanaeth iechyd angen systemau modern wedi'u digideiddio sy'n gyson â chyflymder y newid o ran y ffordd rydym yn gweithio.
"Bydd y system rheoli cofnodion a chleifion yn gam arwyddocaol ymlaen o ran sut rydym yn cadw ac yn adalw gwybodaeth cleifion. Bydd hefyd yn cael effaith bositif ar y cleifion yr ydym yn eu gwasanaethau, trwy alluogi staff yn y gwasanaeth Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu o bob Oed i gynnig y gofal gorau posibl yn brydlon.
"Rwy'n ddiolchgar iawn i Lywodraeth Cymru am eu cefnogaeth a'u cyllid ar gyfer y prosiect hwn, sy'n un o lawer o brosiectau digidol sy'n cael ei ddatblygu ar hyn o bryd ac sydd yn yr arfaeth ar gyfer y dyfodol ar draws Gogledd Cymru.
"Rwyf hefyd yn falch o gydweithio'n agos â Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg i ddatblygu hyn ar gyfer y dyfodol."
Dywedodd Paul Mears, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg: "Bydd y buddsoddiad hwn yn trawsnewid y ffordd yr ydym yn rheoli gwybodaeth cleifion yn ein gwasanaethau iechyd meddwl, gan gynnig buddion sylweddol i gleifion a staff.
Darllenwch fwy: A2A - Y straeon rhieni - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
"Mae'r datblygiad cydweithredol hwn wrth i'n sefydliad weithio mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn gyfle gwych i'n byrddau iechyd gydweithio, i ni rannu dysgu ac i wella ansawdd gofal ar gyfer ein cleifion yn y pen draw.
"Mae hon yn garreg filltir bwysig i BIPCTM ar ein taith i roi technoleg ddigidol ar waith er mwyn sicrhau bod gwasanaethau'n fwy effeithlon ac yn hygyrch, ac i alluogi ein staff i wella'r gofal yr ydym yn ei gynnig i'n cleifion."
Bydd gwaith prosiect yn caffael systemau addas yn arwain at ddethol darparwr, mewn egwyddor, erbyn diwedd y flwyddyn ariannol hon.
Gwybodaeth ychwanegol:
Dilynwch newyddion diweddaraf y Bwrdd Iechyd trwy gofrestru ar gyfer ein rhestr bostio Sign up (es-mail.co.uk)