31 Hydref 2025
Mae cleifion ledled Gogledd Cymru yn elwa o wasanaethau Colposgopi gwell, diolch i’r system ddigidol newydd ar gyfer cadw cofnodion cleifion a gyflwynwyd gan y Bwrdd Iechyd.
Mae'r system newydd wedi gwella'r ffordd y mae gwybodaeth am gleifion yn cael ei chofnodi a'i chyrchu.
Mae'r System Rheoli Cleifion Colposgopi (CPMS) electronig newydd yn cwmpasu’r cofnodion electronig cleifion sy'n rhan o system Porth Clinigol Cymru ac yn disodli'r hen system Canisc. Mae'n cofnodi gwybodaeth glinigol fanwl ac yn cadw delweddau yng nghofnodion electronig cleifion yn awtomatig, sydd yn galluogi clinigwyr i gael mynediad at bopeth sydd ei angen arnynt mewn un lle.
Mae'r gwelliant hwn yn golygu y gall timau amlddisgyblaethol adolygu'r holl wybodaeth a delweddau clinigol perthnasol gyda'i gilydd, er mwyn gwneud penderfyniadau mwy gwybodus ac amserol. Mae'r system hefyd yn rhoi mynediad at ddata mwy cynhwysfawr i glinigwyr a’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau i sicrhau cynllunio a gofal cleifion gwell.
Mae tîm Colposgopi'r Bwrdd Iechyd wedi bod yn defnyddio'r system newydd ers sawl mis bellach ac eisoes wedi gweld manteision sylweddol.
Dywedodd Esther Clements, Nyrs Arweiniol Colposgopi ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, “Mae’r archwilio cryn dipyn yn gynt ac yn fwy effeithlon erbyn hyn. Roedd yn rhaid i ni agor sawl system wahanol cynt, ond erbyn hyn mae popeth ar gael trwy Borth Clinigol Cymru. Mae ein hyfforddeion hefyd yn gweld budd mawr o’r system newydd oherwydd ei fod yn sicrhau dull safonol o weithio – mae’n annog asesu systematig a chofnodi canfyddiadau'n gywir, sydd yn cyd-fynd â safonau cenedlaethol.
“Mae wedi bod yn brofiad cadarnhaol iawn i gael bod yn rhan o ddatblygu’r system newydd hon ynghyd â chydweithwyr Colposgopi ledled Cymru a’r tîm yn Iechyd a Gofal Digidol Cymru. Roedd y Bwrdd Iechyd yn allweddol wrth brofi’r system gyda defnyddwyr ar draws y Bwrdd Iechyd a ni oedd y Bwrdd Iechyd cyntaf i fabwysiadu profion cydamserol safon aur ym mhob clinig. Hoffwn ddiolch i’n Tîm Colposgopi i gyd a’n timau TG yma yn BIPBC am eu cefnogaeth — maen nhw wedi bod yn rhan allweddol o roi’r system newydd ar waith a sicrhau ein bod yn cael y budd mwyaf ohono. Mae’r cydweithrediad hwn wedi cryfhau’r berthynas rhwng timau clinigol ac anghlinigol ac wedi gwella’r ffordd rydym yn gweithio gyda’n gilydd.”
Mae’r system newydd bellach wedi’i chyflwyno ym mhob un o’r 18 clinig Colposgopi ledled Cymru, gan sicrhau gofal mwy cyson ac effeithlon i gleifion.