Neidio i'r prif gynnwy

Arloesedd llawdriniaethau ar y pen-glin drwy gymorth robot yn Ysbyty Gwynedd yn denu sylw llawfeddygon o Ewrop

4 Mehefin 2025

Mae llawfeddygon o Ewrop wedi bod yn ymweld ag Ysbyty Gwynedd i arsylwi, a dysgu am osod pen-glin newydd drwy gymorth robot.

Mae'r llawfeddygon o Wlad Pwyl, Slofacia, Rwmania a'r Deyrnas Unedig wedi bod yn arsylwi llawdriniaethau Mr Muthu Ganapathi, Llawfeddyg Orthopedig Ymgynghorol.

Mae Ysbyty Gwynedd wedi bod yn arloesi drwy osod pengliniau newydd gyda chymorth robot ers 2022. Dyma'r unig ysbyty GIG yng Nghymru sy'n cynnig y math hwn o lawdriniaeth.

Bellach, mae Mr Ganapathi a'i gydweithwyr, Mr Agustin Soler, Mr Koldo Azura, Mr Amir Azam and Mr Ashok Goel wedi gosod mwy na 250 o bengliniau newydd gan ddefnyddio system robotig ROSA.

Dywedodd Mr Ganapathi: "Mae'r dull o osod pen-glin newydd wedi newid yn sylfaenol.

"Yn draddodiadol, gwnaed pob toriad yn yr asgwrn yn yr un ffordd, ond mae’n dod yn fwy amlwg bod dulliau personol, pwrpasol yn gallu bod yn well. Gyda'r dull hwn, mae'r toriadau yn yr asgwrn yn cyd-fynd â siâp pen-glin pob claf yn unigol. Mae manylder y robot yn ein galluogi i dorri esgyrn mewn modd sy'n unigryw i'r claf.”

“Mae’n ymddangos bod y claf yn gwella'n gyflymach gyda’r dull personol hwn a'i fod yn teimlo llai o boen o’i gymharu â gosod pen-glin newydd gan ddefnyddio dulliau mwy traddodiadol.”

Dywedodd Sion Quinn, Arweinydd Clinigol Trawma a Ffisiotherapi Orthopedig yn Ysbyty Gwynedd: " Ers dechrau'r llawdriniaethau robotig, rydym ni wedi gweld bod cleifion sy'n cael pen-glin newydd yn gwella'n gynt ac yn teimlo llai o boen. 

"Mae'r GIG bob amser yn chwilio am ffyrdd i wella profiadau cleifion, a thrwy gyflwyno'r dulliau drwy gymorth robot i osod pengliniau newydd, rydym wedi gweld cynnydd yn y canlyniadau i gleifion."  

Y llynedd, cafodd Ysbyty Gwynedd ei gydnabod gan Zimmer Biomet (ROSA robot) yn ganolfan hyfforddi swyddogol ar gyfer gosod pen-glin newydd i lawfeddygon o'r DU ac Ewrop, sydd wedi arwain at ragor o ddiddordeb o bob cwr o'r byd. 

Ar ôl ei ymweliad diweddar ag Ysbyty Gwynedd, roedd Dr Jozef Almási, Uwch Lawfeddyg Ymgynghorol o Slofacia yn llawn canmoliaeth i'r tîm. Dywedodd: "Roedd yn agoriad llygad cael dysgu o'u harbenigedd wrth osod pen-glin mewn dull a oedd yn bersonol i'r claf. Rydym ni'n gwerthfawrogi'r eich haelioni wrth rannu eich gwybodaeth â ni yn fawr.”

Mae defnyddio'r robot hefyd wedi creu manteision pellach drwy sefydlu rôl Cymrodoriaeth Roboteg Clun a Phen-glin wedi’i lleoli yn Ysbyty Gwynedd ac wedi’i hariannu gan ddiwydiant.. Mae hyn yn rhoi’r cyfle i uwch lawfeddygon ledled y DU weithio gyda’r tîm roboteg am chwe mis a chael hyfforddiant mewn roboteg cyn gwneud cais am eu swyddi yn Feddygon Ymgynghorol.

Mae'r Llawfeddyg Orthopedig, Mr Ashok Singh, sef y Cymrawd Roboteg presennol, eisoes wedi cwblhau ei hyfforddiant Orthopedig yn Llundain ac wedi dewis y gymrodoriaeth hon i ddatblygu ei sgiliau.

Dywedodd: “Cefais fy nenu at y Gymrodoriaeth hon gan fod y sgiliau yr oedd yn eu cynnig yn unigryw. Rwy'n cael cyfle i ddysgu'r dechneg robotig yn ogystal â thechnegau eraill fel y dull blaen uniongyrchol sef y dechneg leiaf ymwthiol ar gyfer arthroplasti llwyr i'r glun, a thechneg 'Oxford Uni Knees'.

“Rwy’n mwynhau’r Gymrodoriaeth hon yn fawr, mae’r dechneg i osod pen-glin newydd gyda roboteg wedi bod yn hynod fuddiol ac rwyf wedi gweld canlyniadau rhagorol. Mae’n rhywbeth y byddaf yn bendant yn ei defnyddio wrth i mi ddatblygu yn fy ngyrfa.”

Ychwanegodd Mr Ganapathi: “Rydym wrth ein bodd gyda’r adborth rydym yn ei dderbyn gan ein Cymrodyr ers ei sefydlu’r llynedd – mae wedi bod yn brofiad mor gadarnhaol iddyn nhw ac i ni fel Meddygon Ymgynghorol.

“Mae ROSA wedi ein helpu i roi Ysbyty Gwynedd a’r Bwrdd Iechyd ar y blaen o ran arloesoedd a’n hymdrechion i wella ein gwasanaeth yn barhaus a sicrhau’r canlyniadau gorau i’n cleifion bob amser.”