Neidio i'r prif gynnwy

Anrhydedd brenhinol i Arweinydd Profiad Cleifion CAMHS sy'n hyrwyddo hawliau plant yng Ngogledd Cymru

20/05/2025

Cafodd Jane Berry, Arweinydd Profiad Cleifion ar gyfer Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc (CAMHS), ei chydnabod am y gwaith o hyrwyddo hawliau plant a phobl ifanc ar draws gwasanaethau iechyd yng Ngogledd Cymru gyda gwahoddiad i fynychu Garddwest Frenhinol y Brenin ym Mhalas Buckingham.

Yn ddiweddar, mynychodd Jane yr Arddwest gyda’i gŵr ar ôl cael ei henwebu gan un o’i chydweithwyr. Mae’r Garddwestau blynyddol yn ffordd bwysig i aelodau o’r Teulu Brenhinol siarad ag ystod eang o bobl sydd wedi cael effaith gadarnhaol yn eu cymuned leol.

Dywedodd Jane: “Roedd yn gymaint o syndod i gael fy enwebu i fynychu’r Arddwest eleni. Roedd yn anrhydedd gallu hyrwyddo’r gwaith yr ydym wedi’i gyflawni wrth flaenoriaethu hawliau plant yn ein sefydliad a chynrychioli byddin o arweinwyr ymroddedig ac angerddol sy’n gweithio yn y Gwasanaethau Iechyd Plant.

“I ddechrau, anfonais y gwahoddiad e-bost at ein tîm seiberddiogelwch rhag ofn nad oedd yn wir. Dim ond ar ôl i mi wneud ymchwil pellach a ffonio y sylweddolais ei fod yn wahoddiad gwirioneddol - roeddwn mewn anghrediniaeth llwyr.”

Cafodd Jane y cyfle i gwrdd a siarad â’r Dywesoges Anne, gan rannu cenhadaeth y Bwrdd Iechyd i roi hawliau plant ar waith mewn gwasanaethau iechyd.

Dywedodd: “Roeddwn wrth fy modd o gael y cyfle i siarad â’r Dywesoges Anne ac esbonio’r gwaith ynghylch y Siarter Hawliau Plant. Dros y tair blynedd ddiwethaf, mae Gwasanaethau Iechyd Plant wedi bod yn gweithio’n ddiflino gyda phartneriaid, plant a phobl ifanc i wrando ar ein cymunedau, a dysgu ohonynt, i ddeall yr hyn sy’n bwysig iddynt fel y gallwn ymgorffori dull sy’n seiliedig ar hawliau plant yn ein gwasanaethau iechyd.”

Mae Siarter Plant Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, sy’n seiliedig ar Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn, yn set o safonau a gymeradwywyd gan ei Aelodau Bwrdd ym mis Medi 2024. Mae wedi’i ddatblygu er mwyn sicrhau bod plant a phobl ifanc Gogledd Cymru yn cael eu trin yn deg a bod ganddynt lais ar faterion sy’n bwysig iddynt.

Arweiniodd CAMHS y gwaith o ddatblygu’r siarter a chynnal digwyddiadau ar raddfa fawr gan ymgysylltu â thua 2,400 o blant a phobl ifanc a helpodd i greu ‘llyfr ryseitiau’. Mae’r llyfr ryseitiau yn rhoi gwybodaeth a mewnwelediad i’r hyn sy’n bwysig i bobl ifanc ac yn cefnogi sefydliadau ar draws Gogledd Cymru wrth greu eu haddewidion eu hunain o safonau a gwerthoedd ar gyfer y plant a’r bobl ifanc sy’n defnyddio gwasanaethau gan gefnogi cenedlaethau’r dyfodol.

Dywedodd Angela Wood, Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio a Bydwreigiaeth: “Rydym yn hynod falch bod Jane wedi derbyn cydnabyddiaeth am ei gwaith arloesol ochr yn ochr â thîm CAMHS wrth ddatblygu’r Siarter Plant. Mae eu dull arloesol a blaengar wedi cael effaith barhaol, gan gryfhau hawliau plant a phobl ifanc yn y gwasanaethau iechyd ar draws Gogledd Cymru.”

Darllenwch fwy am y Siarter Hawliau Plant yma.