31.07.2025
Mae Canolfan Trin Canser Gogledd Cymru wedi’i hailddynodi’n Ganolfan Ragoriaeth am yr ymchwil, y driniaeth a’r gofal a ddarperir i gleifion sydd â thiwmor yr ymennydd.
Fel rhan o Rwydwaith Niwro-Oncoleg Lerpwl a Gogledd Cymru, roedd Canolfan Trin Canser Gogledd Cymru (NWCTC) yn un o ddim ond 14 o ganolfannau ledled y DU i dderbyn yr anrhydedd gan elusen Tessa Jowell Brain Cancer Mission (TJBCM). Mae hefyd yn golygu bod pob canolfan canser niwro-oncoleg yng Nghymru bellach yn dal y teitl ar ôl iddo gael ei ddyfarnu hefyd i Rwydwaith Niwro-oncoleg De Cymru.
Dyfarnwyd y dynodiad i NWCTC am y tro cyntaf ym mis Rhagfyr 2021, fel rhan o Rwydwaith Lerpwl a Gogledd Cymru, ac mae’r dyfarniad diweddaraf yn arddangos yr ansawdd uchel a chyson o ofal, ymchwil a thriniaeth a gaiff cleifion ledled y rhanbarth.
Dywedodd Oncolegydd Clinigol Ymgynghorol, Dr Win Soe: “Mae’r dyfarniad hwn yn cydnabod ac yn gwobrwyo canolfannau niwro-oncoleg i oedolion sy’n darparu rhagoriaeth mewn triniaeth, gofal ac ymchwil i oedolion sy’n dioddef o ganserau cynradd yr ymennydd.
Darllenwch fwy: Canser - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
“Mae’r tîm niwro-oncoleg yng Nghanolfan Trin Canser Gogledd Cymru yn hynod falch o fod yn un o ddim ond 14 o ganolfannau yn y DU a enillodd ddyfarniad mawreddog Canolfan Ragoriaeth Tessa Jowell eleni.
“Roedd yn arbennig o deimladwy gan fod ein cydweithiwr annwyl, Dr Brian Haylock, wedi ymddeol yn dilyn ei yrfa hir a disglair yn y maes niwro-oncoleg. Yn ogystal, roedd yn bleser cael llongyfarch y tîm o Dde Cymru sydd hefyd wedi ennill y dyfarniad hwn.
“Mae’r gwasanaeth niwro-oncoleg yn dibynnu ar lawer o dimau gofal iechyd a gweithwyr proffesiynol o fewn y Bwrdd Iechyd, a hoffem ddiolch i bob aelod o’r tîm amlddisgyblaethol a’n helpodd i ofalu am ein cleifion, eu teuluoedd a’u hanwyliaid, a hynny mewn lleoliad ysbyty acíwt a hefyd yn y gymuned. Mae hwn yn sicr yn gyflawniad i fod yn falch ohono.”
Dywedodd Sian Hughes-Jones, Pennaeth Nyrsio ar gyfer Gwasanaethau Canser: “Rydym yn hynod falch o’n tîm niwro-oncoleg unwaith eto am gyflawni’r safonau rhagorol sy’n ofynnol i ennill y dyfarniad hwn. Mae’n adlewyrchiad gwirioneddol o ofal, tosturi ac ymrwymiad ein tîm i barhau i ddarparu gwasanaeth o ragoriaeth i’n pobl yng Ngogledd Cymru.”
Darllenwch fwy: Triniaeth gyflymach i gleifion sydd angen radiotherapi - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Dywedodd Lord Darzi, a arweiniodd adolygiad GIG Lloegr yn 2024: “Mae dyfarnu pedair ar ddeg o Ganolfannau Rhagoriaeth newydd yn deyrnged addas i’r Fonesig Tessa Jowell a’i hymroddiad i wella triniaeth a gofal i gleifion sydd â thiwmor yr ymennydd. Mae’r rhaglen hon yn dangos y GIG ar ei orau, gan dynnu sylw at dimau ledled y wlad sy’n gweithio’n ddiflino i wella eu gwasanaethau a darparu gofal rhagorol.
Cafodd yr adolygiad tair blynedd o ganolfannau Niwro-Oncoleg ledled y DU ei ariannu a’i gefnogi gan Lywodraeth y DU ac elusennau partner TJBCM. Roedd pob un o’r rhai a gafodd statws Canolfan Ragoriaeth “wedi bodloni neu’n rhagori ar safonau mewn triniaeth, gofal ac ymchwil uwchlaw’r rhai a ddisgwylir gan y GIG”, yn ôl y panel arbenigol. Roedd y broses werthuso drylwyr yn asesu meysydd a oedd yn cynnwys gofal clinigol, ansawdd bywyd a mynediad at dreialon ac ymchwil clinigol.
Mae Rhwydwaith Niwro-Oncoleg Lerpwl a Gogledd Cymru yn cynnwys Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG Canolfan Walton, Canolfan Ganser Clatterbridge a Chanolfan Trin Canser Gogledd Cymru.
Cyflwynwyd y dyfarniadau gan ferch Tessa Jowell, Jess Mills, yn Athrofa Frances Crick yn Llundain, sef un o labordai biofeddygol mwyaf Ewrop. Mae’n lleoliad i fwy na 1,500 o wyddonwyr sy’n gweithio i ddeall iechyd, clefydau a sut mae bywyd yn gweithio.
Teithiodd Jan Edwards ac Annie Ingram, sef ein nyrsys niwro-oncoleg, gyda chydweithwyr o Ganolfan Walton a Chanolfan Canser Clatterbridge i dderbyn y dyfarniad.
Dywedodd Jess Mills: “Mae etifeddiaeth Mam i drawsnewid canlyniadau ar gyfer cleifion sy’n dioddef o ganser ar draws y DU wedi cyrraedd carreg filltir arall. Mae wedi bod mor gyffrous gweld pa mor ymroddedig yw'r timau sy'n gofalu am gleifion i ddod ar y daith hon gyda ni.”
Cafodd y Fonesig Tessa Jowell, cyn AS Llafur ac Ysgrifennydd Diwylliant, ddiagnosis o glioblastoma gradd 4 ym mis Mai 2017. Dyma’r math o ganser mwyaf ymosodol a mwyaf cyffredin sy’n dechrau yn yr ymennydd.
O ganlyniad i’w haraith emosiynol i Dŷ’r Arglwyddi ar driniaeth canser yr ymennydd ym mis Ionawr, sefydlwyd ‘Tessa Jowell Brain Cancer Mission’ y mis canlynol. Bu farw Tessa Jowel ym mis Mai 2018 yn ei chartref yn Swydd Warwick.
Dilynwch ni ar WhatsApp - Rydym wedi lansio ein sianel WhatsApp swyddogol i rannu manylion, newyddion, digwyddiadau a gwybodaeth bwysig am y Bwrdd Iechyd yn eich ardal leol.