Neidio i'r prif gynnwy

Agor drysau theatrau Ysbyty Gwynedd i'r cyhoedd mewn diwrnod agored llwyddiannus

10 Hydref 2025

Croesawyd dros 70 o ymwelwyr i Ddiwrnod Agored Theatrau Ysbyty Gwynedd ar gyfer profiad addysgiadol a diddorol tu hwnt. Rhoddwyd cipolwg o’r hyn sy’n digwydd y tu ôl i’r llenni, i weld y gwaith hollbwysig mae timau llawfeddygol yr ysbyty yn ei wneud a’r dechnoleg ddiweddaraf sy'n rhan mor bwysig o ofal claf.

Cafwyd sgyrsiau ysbrydoledig gan Feddygon Ymgynghorol blaenllaw, gan gynnwys yr Anesthetydd Ymgynghorol Dr Ifan Rees, y Llawfeddyg Ymgynghorol Orthopedig Mr Muthu Ganapathi, y Llawfeddyg Ymgynghorol Cyffredinol Mr Chris Houlden, a Llawfeddyg Ymgynghorol y Fron Miss Mei-Ju Whang. Rhannodd pob un ohonyn nhw eu profiadau o fewn eu harbenigeddau clinigol eu hunain yn ogystal â straeon personol am eu llwybrau gyrfa, a oedd yn brawf pellach o'u hymroddiad a'u hangerdd dros eu gwaith.

Yn dilyn y sgyrsiau, gwahoddwyd gwesteion i'r theatrau llawdriniaethol i weld y datblygiadau diweddaraf o fewn llawfeddygaeth robotig a hefyd i weld efelychiad anesthetig byw. Dysgodd y mynychwyr am ofal ôl-lawfeddygol gan y tîm Adferiad ac am rôl hanfodol y Nyrsys Theatr er mwyn sicrhau diogelwch ac effeithlonrwydd llawfeddygol.

Trefnwyd y digwyddiad yn gyfan gwbl gan dîm y Theatr, gyda chydnabyddiaeth arbennig i'r Uwch Ymarferydd Theatr Shan Roberts ac Uwch Ymarferydd yr Adran Lawfeddygol Catrin Jones am eu harweiniad ac am gydlynu’r digwyddiad.

Wrth edrych yn ôl ar y diwrnod, dywedodd Shan Roberts: "Rwy'n hynod o falch o'n tîm am drefnu digwyddiad mor llwyddiannus ac ysbrydoledig. Roedd yn hyfryd gweld cymaint o bobl yn ymgysylltu â'n gwaith ac yn cymryd diddordeb yn nyfodol gofal llawfeddygol. Diolch i bawb a fynychodd ac i'n staff a wnaeth y diwrnod yn ddigwyddiad mor gofiadwy. Rydym yn gobeithio gwneud hwn yn ddigwyddiad blynyddol fel y gall hyd yn oed mwy o bobl weld y swyddi hanfodol o fewn gofal llawfeddygol."

"Rwy'n cytuno’n llwyr â Shan” meddai Catrin, “ac yn teimlo'n wirioneddol ffodus fy mod yn gweithio gyda thîm mor ddeinamig a chefnogol."

Cafwyd canmoliaeth i’r tîm a drefnodd y diwrnod gan Dr Karen Mottart, Cyfarwyddwr Meddygol Cymunedol Iechyd Integredig y Gorllewin: "Mae'r digwyddiad hwn yn dangos ymroddiad ac arloesedd ein timau yn Ysbyty Gwynedd” meddai.

“Mae'n wych gweld ein staff yn rhannu eu harbenigedd a'u hangerdd gyda'r gymuned, ac rwy'n canmol pawb a oedd yn rhan o’r digwyddiad am drefnu diwrnod mor bwysig."