Neidio i'r prif gynnwy

Aelodau'r bwrdd a chydweithwyr undeb llafur yn addo cynnig mwy o gymorth i staff sy'n derfynol wael

Mae'r Bwrdd Iechyd wedi ymuno â chydweithwyr yn yr undebau llafur i gefnogi ymgyrch sy'n galw am sicrhau y caiff gweithwyr sy’n derfynol wael eu hamddiffyn yn well.

 

Gyda'i gilydd, mae aelodau'r Bwrdd a chynrychiolwyr undebau llafur wedi llofnodi Siarter Afiechyd Marwol (Dying to Work) y TUC. Diben y siarter yw cynnig cymorth i bobl a’u hamddiffyn, gan sicrhau bod gweithwyr sy’n derfynol wael yn gallu dewis parhau i weithio, aros yn eu swyddi, neu adael ag urddas.

 

Trwy lofnodi’r siarter, bydd cyflogwyr yn cytuno i sicrhau nifer o bethau i helpu ac amddiffyn staff sy'n cael diagnosis yn cadarnhau salwch terfynol, er enghraifft, diogelu eu swyddi, cynnig cymorth a chynnal urddas, gwarchod buddion gwasanaeth a chodi ymwybyddiaeth ymhlith staff.

 

Mae nifer o gyflogwyr ledled y DU, gan gynnwys gwasanaethau cyhoeddus mawr a chwmnïau preifat, wedi cefnogi’r ymgyrch. Mae llawer o undebau hefyd wedi llofnodi'r siarter.

 

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Dying to Work