Mae ein Hadrannau Achosion Brys yn Ysbyty Maelor Wrecsam ac Ysbyty Glan Clwyd wedi derbyn achrediad Efydd fel rhan o raglen ‘GreenED’ y Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys (RCEM).
Nod y rhaglen yw mesur a lleihau effaith amgylcheddol Adrannau Achosion Brys yn y DU ac i yrru arferion sy'n gynaliadwy ar lefel amgylcheddol o fewn arbenigedd meddygaeth frys.
Gwnaeth y ddwy adran ffurfio timau ‘GreenED’ er mwyn arwain rhaglen waith sydd hyd yn hyn wedi lleihau gwastraff a chynyddu ailgylchu, wedi gwaredu cwpanau a chyllyll a ffyrc plastig untro, wedi gwella ymwybyddiaeth staff o gynaliadwyedd, wedi symud at ddefnyddio papur wedi'i ailgylchu, ac wedi cynorthwyo gweithio o bell ar sifftiau anghlinigol a defnydd llai o ynni.
Mae'r ymdrechion hyn wedi cael eu cydnabod yn y rownd ddiweddaraf o ddyraniadau achredu a bydd y ddau ysbyty bellach yn canolbwyntio ar gyflawni statws Arian.
Dywedodd Stuart Keen, Cyfarwyddwr yr Amgylchedd ac Ystadau: "Mae'r dyfarniadau hyn yn adlewyrchu'r ymdrech a'r ymrwymiad y mae ein timau Adrannau Achosion Brys wedi'u gwneud i leihau'r effaith y mae'r gwasanaethau hyn yn ei chael ar yr amgylchedd.
"Mae'n bwysig ein bod yn gallu defnyddio ein hadnoddau mor effeithlon â phosibl a'n bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gyflwyno ffyrdd o weithio sy'n fwy ecogyfeillgar.”
Yn y cyfamser, mae'r tîm ‘GreenED’ yn Ysbyty Gwynedd hefyd wedi bod yn gweithio tuag at gael achrediad Efydd a byddant yn cyflwyno'r cynnydd maent wedi'i wneud pan fydd y rownd nesaf o gyflwyniadau'n barod ym mis Medi.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am raglen ‘GreenED’ RCEM ar eu gwefan yma.