Gall Gogledd Cymru fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd drwy gydweithio i gryfhau'r sylfeini sy'n sicrhau llesiant i bawb, yn ôl adroddiad newydd
Defnyddiodd ein Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd Cyhoeddus, Dr Jane Moore, ei hadroddiad blynyddol i alw ar wasanaethau cyhoeddus, cymunedau ac unigolion i gymryd camau i alluogi mwy o bobl i ffynnu.
Mae'r adroddiad, sef Adeiladu Iechyd, yn amlinellu nad yw ein hiechyd yn rhywbeth sy’n digwydd ar wahân– a sut y gall mwy o bobl fyw bywydau hirach ac iachach pe bai modd iddyn nhw ddibynnu ar sylfeini cadarn.
Mae'r sylfeini hyn yn cynnwys gwaith teg, addysg, tai diogel, a chysylltiadau trafnidiaeth da, yn ogystal â gwasanaethau iechyd – ynghyd â phethau fel cyfleoedd gwell i fwyta'n iachach, cyfleoedd i ymuno â gweithgareddau cymunedol a hamdden, a symud ein cyrff yn amlach.
“Mae blociau adeiladu iechyd a llesiant yn siapio ein bywydau ymhell cyn i ni fynd yn agos at glinig neu ysbyty,” meddai Dr Moore.
“Mae ein hiechyd yn cael ei lunio gan y gymdeithas rydym yn ei hadeiladu, y cymunedau rydym yn eu meithrin, a sut rydym ni, fel unigolion, yn gallu llywio'r heriau a'r cyfleoedd rydym yn eu hwynebu.
“Mae’r adroddiad hwn yn galw – ar wasanaethau cyhoeddus, cymunedau ac unigolion – i weithredu er mwyn adeiladu iechyd gyda’n gilydd, fesul bloc, ar gyfer dyfodol tecach ac iachach.
O gefnogaeth blynyddoedd cynnar i deithio actif, o’r celfyddydau mewn iechyd i ragnodi cymdeithasol, mae'r adroddiad yn tynnu sylw at gamau gweithredu ymarferol a all sicrhau llesiant ar draws Gogledd Cymru.”
Mae Adroddiad y Cyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus yn adroddiad blynyddol annibynnol ar iechyd poblogaeth Gogledd Cymru ac fe’i cyhoeddir yn unol â gofynion cyfreithiol o dan Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2012.
Ystyriwyd a chymeradwywyd adroddiad Dr Moore ar gyfer 2025 gan aelodau’r bwrdd iechyd yn eu cyfarfod y mis diwethaf.
Cewch y newyddion diweddaraf gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr drwy gofrestru ar ein rhestr bostio neu dilynwch ni ar Whatsapp.