Neidio i'r prif gynnwy

2025

14/11/25
Meddyg o Ysbyty Gwynedd yn rhybuddio ynghylch peryglon her ddadleuol 'Tap Out Challenge' ar ôl i unigolyn ifanc yn ei arddegau gael anafiadau difrifol

Mae meddyg yn rhybuddio pobl ifanc a rhieni ynghylch risgiau a allai fod yn angheuol sy’n gysylltiedig â’r hyn a elwir yn "Tap Out Challenge" sy'n cylchredeg ar y cyfryngau cymdeithasol, ar ôl i fachgen 16 oed gael ei dderbyn i Ysbyty Gwynedd gydag anafiadau difrifol i'w ben.

14/11/25
Mae rhaglen newydd yn cynnig mwy o gefnogaeth i rieni sy'n ymdopi â babi sy'n crio

Mae rhaglen ICON yn helpu mamau, tadau a gofalwyr eraill i ddeall patrymau crio arferol babanod sydd newydd gael eu geni, ac yn annog teuluoedd i ddefnyddio dulliau syml i'w cysuro.

12/11/25
Carreg filltir 41mil atgyfeiriad at wasanaeth iechyd meddwl digidol GIG Cymru

Mae gwasanaeth cymorth iechyd meddwl ar-lein GIG Cymru wedi cyrraedd 41,000 o atgyfeiriadau ers ei dreialu chwe blynedd yn ôl.

06/11/25
Clinigwyr arennol yn gobeithio am 'feib' da ar gyfer eu her seiclo elusennol

Mae grŵp o glinigwyr arennol yn gobeithio am “feib” elusennol da, pan fyddan nhw’n mynd ar eu beiciau'r penwythnos hwn… a hynny heb iddyn nhw fynd i unman.

06/11/25
Penodi Cyfarwyddwr Gweithredol newydd y Gweithlu a Datblygiad Sefydliadol

Mae Debbie Eyitayo wedi cael ei phenodi'n Gyfarwyddwr Gweithredol newydd y Gweithlu a Datblygiad Sefydliadol. Bydd hi'n dechrau yn ei rôl newydd ddechrau mis Chwefror.

31/10/25
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn arwain y ffordd gyda'i system Colposgopi newydd

Mae cleifion ledled Gogledd Cymru yn elwa o wasanaethau Colposgopi gwell, diolch i’r system ddigidol newydd ar gyfer cadw cofnodion cleifion a gyflwynwyd gan y Bwrdd Iechyd.

29/10/25
Goroeswr strôc yn canmol y timau ysbyty "rhagorol" ar ei thaith i wellhad

Mae gwraig 79 oed o Ynys Môn wedi rhannu ei stori ysbrydoledig i nodi Diwrnod Strôc y Byd, gan dalu teyrnged i'r timau gofal iechyd a fu’n gefn mawr iddi yn ystod ei hadferiad, ac yn gymorth mawr iddi adennill ei hannibyniaeth.

21/10/25
Gwasanaeth newydd yn cael ei lansio yng Ngogledd Cymru i gefnogi pobl sydd â ME/CFS

Bellach, mae gwasanaeth integredig newydd ar gael yng Ngogledd Cymru ar gyfer pobl sy’n byw â ME/CFS. Mae’r gwasanaeth yn dod â thîm o weithwyr proffesiynol iechyd ynghyd i ddarparu asesiadau a thriniaethau arbenigol a chymorth personol. Gall pobl hunangyfeirio ar-lein neu gallant ofyn i weithiwr proffesiynol iechyd eu cyfeirio.

28/10/25
Tîm Diabetes Oedolion Ifanc Wrecsam yn ennill gwobr genedlaethol am ragoriaeth mewn gofal

Mae Tîm Diabetes Oedolion Ifanc Wrecsam wedi cael ei gydnabod gyda Gwobr Rhagoriaeth mewn Gofal yng Ngwobrau Gofal Cymru eleni. Mae hwn yn ddathlu eu dull arloesol sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn o gefnogi pobl ifanc sy'n byw gyda diabetes.

28/10/25
Helpwch ni i sicrhau bod gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol yn eich ardal chi yn gwella

Mae menywod, rhieni ac aelodau o'r teulu yn cael eu hannog i rannu eu profiadau diweddar o wasanaethau mamolaeth a newyddenedigol fel rhan o asesiad cenedlaethol o'u diogelwch.

23/10/25
Feirysau'r gaeaf ar gynnydd - cadwch eich dwylo'n lân er mwyn amddiffyn cleifion

Wrth i'r misoedd oeraf ddod yn nes, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn atgoffa pawb sy'n ymweld ag ysbytai a lleoliadau gofal iechyd am bwysigrwydd syml ond hollbwysig hylendid y dwylo o ran helpu i atal rhag lledaenu heintiau.

14/10/25
"Roedd fy nghorff yn cau i lawr – dydych chi ddim yn deall pa mor ddifrifol y gall ffliw fod."

Bu Alan Watson, 55 oed, treuliodd bron i bythefnos mewn coma wedi’i ysgogi mewn uned gofal dwys ar ôl dal y ffliw.

13/10/25
Penodi Aelod Annibynnol Newydd dros Gyllid

Mae'n bleser gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr gyhoeddi bod Syr Paul Lambert wedi’i benodi yn Aelod Annibynnol dros Gyllid, gan ddechrau ar 13 Hydref 2025.

13/10/25
Claf awdioleg BIPBC yn un o'r cyntaf yn y DU i gael mewnblaniad 'clyfar' yn y cochlea

Un o gleifion awdioleg y Bwrdd Iechyd yw un o'r bobl gyntaf yn y DU i gael mewnblaniad  clyfar yn y cochlea, sy’n driniaeth arloesol.

10/10/25
Diweddariad ar gau gwelyau Hosbis Dewi Sant yn Ysbyty Penrhos Stanley, Caergybi.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn sicrhau trigolion Ynys Môn a Gwynedd y bydd gofal lliniarol a gofal diwedd oes o ansawdd uchel yn dal i gael eu cynnig pan fydd gwelyau Hosbis Dewi Sant Ysbyty Penrhos Stanley yng Nghaergybi yn cau dros dro y mis hwn.

10/10/25
Nyrsys oncoleg 'gwych' yn cael eu canmol am gefnogi merch mewn galar pan fo'i angen fwyaf

Mae bod yn nyrs oncoleg acíwt yn fwy na dim ond gofalu am gleifion sy'n sâl, ac weithiau fe anghofir am y gefnogaeth y mae’r nyrsys yn ei roi i aelodau'r teulu.

10/10/25
Agor drysau theatrau Ysbyty Gwynedd i'r cyhoedd mewn diwrnod agored llwyddiannus

Croesawyd dros 70 o ymwelwyr i Ddiwrnod Agored Theatrau Ysbyty Gwynedd ar gyfer profiad addysgiadol a diddorol tu hwnt. Rhoddwyd cipolwg o’r hyn sy’n digwydd y tu ôl i’r llenni, i weld y gwaith hollbwysig mae timau llawfeddygol yr ysbyty yn ei wneud a’r dechnoleg ddiweddaraf sy'n rhan mor bwysig o ofal claf.

09/10/25
Enillwyr: Gwobrau Cyrhaeddiad GIG Gogledd Cymru 2025

Dyma enillwyr Gwobrau Cyrhaeddiad 2025.

08/10/25
'Fe wnaeth y cemotherapi fy helpu i ailafael yn fy mywyd – cefais y gofal gorau posibl'

I ddathlu Wythnos Ymwybyddiaeth o Oncoleg Acíwt, rydym yn cynnig cipolwg ar y gwaith y bydd ein cydweithwyr yn ei wneud i wella bywydau ein cleifion.

Mae Dr Max Gibb, yr oncolegydd meddygol ymgynghorol ac Aisling Rogers-Pangrazio, y nyrs oncoleg acíwt, yn enghreifftiau o’r ddynoliaeth , yn ôl Suzanne Cocking, claf canser.

02/10/25
Y Dyngarwr Steve Morgan CBE yn agor canolfan newydd i gynorthwyo cleifion canser yng Ngogledd Cymru

Mae canolfan newydd i gynnig gofal i gleifion canser yng Ngogledd Cymru wedi’i hagor gan y dyngarwr Steve Morgan CBE.