Bydd offer pelydr-x newydd, mwy dibynadwy, sy’n rhoi delweddau o safon uwch, yn cael eu cyflwyno i ysbytai ar draws y Gogledd.
Bydd yr offer newydd yn haws i staff y GIG ei ddefnyddio, gan gefnogi ystod o driniaethau a gofynion delweddu ar gyfer cleifion. Bydd hefyd yn golygu bod cleifion yn agored i ddosau is o belydr-x pan fydd delweddau'n cael eu tynnu.
Bydd Ysbyty Bae Colwyn, Ysbyty Glan Clwyd, Ysbyty Maelor Wrecsam ac Ysbyty Gwynedd i gyd yn elwa o'r offer newydd fel rhan o fuddsoddiad gwerth £4.4 miliwn gan Lywodraeth Cymru.
Bydd y buddsoddiad yn golygu bod systemau radioleg digidol newydd, wedi'u diweddaru, yn cael eu gosod yn lle’r peiriannau pelydr-x hŷn yn Ysbyty Bae Colwyn ac Ysbyty Glan Clwyd.
Bydd hyn yn sicrhau bod ansawdd y delweddau yn well ac y bydd llai o ymbelydredd. Bydd hefyd yn gwneud gwaith staff yn haws gan fod y peiriannau’n llawer mwy cyfforddus i'w defnyddio ac yn lleoli eu hunain yn gwbl awtomataidd.
Bydd systemau fflworosgopi newydd, sy'n ddefnyddiol ar gyfer adolygu'r gallu i lyncu, a thriniaethau radiolegol fel biopsïau neu ddraeniadau, yn cael eu darparu yn Ysbyty Maelor Wrecsam ac Ysbyty Gwynedd.
Bydd gan y systemau hyn well nodweddion, bydd ansawdd y delweddau’n well, a byddant yn systemau mwy dibynadwy, sy'n golygu y gellir sganio mwy o bobl yn yr adran radioleg.
Bydd offer delweddu ar gyfer mamogramau, sy'n cael eu defnyddio i archwilio'r fron ac sy'n hanfodol i helpu i ganfod canser a chlefydau eraill y fron, hefyd yn cael eu hamnewid yn Ysbyty Maelor Wrecsam ac Ysbyty Gwynedd.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Jeremy Miles:
"Mae hyn yn dangos ein hymrwymiad i sicrhau systemau newydd, gwell, sy'n haws eu defnyddio, yn fwy dibynadwy ac yn gwella cynhyrchiant ac effeithlonrwydd. Bydd y peiriannau newydd hyn yn haws i staff eu defnyddio ac yn rhoi’r gallu iddynt wneud diagnosis o ystod eang o gyflyrau, gan gynnwys canser. Rydym yn sicrhau bod gan ysbytai ledled Cymru yr offer sydd ei angen arnynt i weld mwy o bobl, rhoi diagnosis iddynt, a’u trin, wrth i ni gyflymu diagnosis a lleihau amseroedd aros."
Dywedodd dirprwy gyfarwyddwr meddygol gweithredol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Jim McGuigan:
"Rydym yn ddiolchgar am y buddsoddiad hwn mewn offer diagnostig newydd ar gyfer nifer o safleoedd y bwrdd iechyd. Bydd yn helpu ein staff i ddarparu gwasanaeth mwy cynhwysfawr ac effeithlon, trwy ddefnyddio technolegau gwell. Yr un yw nod pob un ohonom, sef lleihau'r amseroedd aros am ddiagnosis a thriniaeth. Bydd yr offer newydd hwn yn ein helpu ar y daith honno."