Ysbyty iechyd meddwl arbenigol newydd yn agor ei ddrysau i famau, babanod a theuluoedd sy’n cael gofal gan wasanaethau amenedigol Sir Gaer, Glannau Mersi a Gogledd Cymru
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yw'r sefydliad diweddaraf yng Ngogledd Cymru i ymrwymo i archwilio teithio iachach a mwy cynaliadwy trwy lofnodi Siarter Teithio Iach y rhanbarth.
Rydym yn gofyn i gleifion, ymwelwyr a staff wisgo masgiau wyneb ym mhob lleoliad clinigol yn ein hysbytai
Mae pobl ledled Gogledd Cymru yn elwa ar fynediad haws at ofal i’r llygaid, diolch i wasanaethau newydd a ddatblygwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
Ddoe (4 Rhagfyr 2025), llofnododd Grŵp Llandrillo Menai (GLlM) a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Femorandwm Cyd-ddealltwriaeth newydd, gan atgyfnerthu'r cydweithio sy'n digwydd rhyngddynt i ddarparu gwell hyfforddiant, sgiliau, a llwybrau gyrfa i bobl yng ngogledd Cymru.
Mae timau gofal iechyd ledled Gogledd Cymru yn annog pobl i fanteisio i'r eithaf ar ein Hunedau Mân Anafiadau (UMA) lleol - gwasanaethau cyflym a chyfleus sydd wedi'u llunio i drin ystod eang o anafiadau nad ydynt yn bygwth bywyd heb orfod aros yn hir mewn Adran Achosion Brys.
Mae tîm radiotherapi ysbyty wedi cael ei gomisiynu i ddarparu triniaeth arloesol, wedi'i thargedu, ar gyfer canser yr ysgyfaint – un o ddim ond tair canolfan o'r fath ledled Cymru.
Yn ddiweddar, croesawodd staff yng Nghanolfan Trin Canser Gogledd Cymru (NWCTC) Ysbyty Glan Clwyd eu claf cyntaf i dderbyn Radiotherapi Abladol Stereotactig yr Ysgyfaint (SABR).
Rydym wedi cael ein cydnabod yng Ngwobrau Rheoli Risg CIR 2025. Cawsom ein henwebu mewn pum categori cenedlaethol ac fe enillon ni wobr Tîm Rheoli Risg y Flwyddyn.
Unwaith eto, roedd digon i'r Bwrdd Iechyd lawenhau yn ei gylch yng Ngwobrau Nyrs y Flwyddyn RNC Cymru eleni yng Nghaerdydd.
Enillodd tri o’n cydweithwyr wobrau am eu gwaith yn gofalu am gleifion yng Ngogledd Cymru.
Mae meddyg yn rhybuddio pobl ifanc a rhieni ynghylch risgiau a allai fod yn angheuol sy’n gysylltiedig â’r hyn a elwir yn "Tap Out Challenge" sy'n cylchredeg ar y cyfryngau cymdeithasol, ar ôl i fachgen 16 oed gael ei dderbyn i Ysbyty Gwynedd gydag anafiadau difrifol i'w ben.
Mae rhaglen ICON yn helpu mamau, tadau a gofalwyr eraill i ddeall patrymau crio arferol babanod sydd newydd gael eu geni, ac yn annog teuluoedd i ddefnyddio dulliau syml i'w cysuro.
Mae gwasanaeth cymorth iechyd meddwl ar-lein GIG Cymru wedi cyrraedd 41,000 o atgyfeiriadau ers ei dreialu chwe blynedd yn ôl.
Mae grŵp o glinigwyr arennol yn gobeithio am “feib” elusennol da, pan fyddan nhw’n mynd ar eu beiciau'r penwythnos hwn… a hynny heb iddyn nhw fynd i unman.
Mae Debbie Eyitayo wedi cael ei phenodi'n Gyfarwyddwr Gweithredol newydd y Gweithlu a Datblygiad Sefydliadol. Bydd hi'n dechrau yn ei rôl newydd ddechrau mis Chwefror.
Mae cleifion ledled Gogledd Cymru yn elwa o wasanaethau Colposgopi gwell, diolch i’r system ddigidol newydd ar gyfer cadw cofnodion cleifion a gyflwynwyd gan y Bwrdd Iechyd.
Mae gwraig 79 oed o Ynys Môn wedi rhannu ei stori ysbrydoledig i nodi Diwrnod Strôc y Byd, gan dalu teyrnged i'r timau gofal iechyd a fu’n gefn mawr iddi yn ystod ei hadferiad, ac yn gymorth mawr iddi adennill ei hannibyniaeth.
Bellach, mae gwasanaeth integredig newydd ar gael yng Ngogledd Cymru ar gyfer pobl sy’n byw â ME/CFS. Mae’r gwasanaeth yn dod â thîm o weithwyr proffesiynol iechyd ynghyd i ddarparu asesiadau a thriniaethau arbenigol a chymorth personol. Gall pobl hunangyfeirio ar-lein neu gallant ofyn i weithiwr proffesiynol iechyd eu cyfeirio.
Mae Tîm Diabetes Oedolion Ifanc Wrecsam wedi cael ei gydnabod gyda Gwobr Rhagoriaeth mewn Gofal yng Ngwobrau Gofal Cymru eleni. Mae hwn yn ddathlu eu dull arloesol sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn o gefnogi pobl ifanc sy'n byw gyda diabetes.
Mae menywod, rhieni ac aelodau o'r teulu yn cael eu hannog i rannu eu profiadau diweddar o wasanaethau mamolaeth a newyddenedigol fel rhan o asesiad cenedlaethol o'u diogelwch.
Wrth i'r misoedd oeraf ddod yn nes, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn atgoffa pawb sy'n ymweld ag ysbytai a lleoliadau gofal iechyd am bwysigrwydd syml ond hollbwysig hylendid y dwylo o ran helpu i atal rhag lledaenu heintiau.