15.07.24
Erbyn hyn mae’n swyddogol mai Ysbyty Gwynedd yw canolfan hyfforddi robotig gyntaf y GIG yng Nghymru i hyfforddi llawfeddygon eraill mewn llawdriniaethau robotig ar y pen-glin.
Yr ysbyty oedd y cyntaf yng Nghymru i gynnig llawdriniaethau robotig yn 2021 gan ddefnyddio system ROSA i osod pen-glin newydd.
Mae llawfeddygon yn gallu teilwra’r gwaith o osod pen-glin newydd i’r unigolyn, gan gynnig llawdriniaethau sy'n fwy manwl-gywir, arosiadau byrrach yn yr ysbyty o bosibl a gwellhad cyflymach.
Mae pum llawfeddyg Orthopedig yn yr ysbyty yn defnyddio'r dechnoleg erbyn hyn, a gall llawfeddygon sy'n ymweld o bob rhan o'r DU ac Ewrop weld y peiriant ar waith a derbyn hyfforddiant.
Dywedodd y Llawfeddyg Orthopedig Ymgynghorol, Mr Muthu Ganapathi, y prif hyfforddwr yn y dechnoleg robotig: “Mae’n newyddion gwych ein bod bellach yn ganolfan hyfforddi swyddogol ar gyfer roboteg sy’n defnyddio’r system ROSA.
“Mae hyn yn newyddion da iawn i’r ysbyty ac mae’n rhoi cyfle gwych i hyfforddi llawfeddygon eraill ar draws y DU ac Ewrop i ddefnyddio’r system ROSA.”
Y llawfeddyg cyntaf i ymweld oedd y Llawfeddyg Orthopedig Ymgynghorol Mr Gautam Reddy o Ymddiriedolaeth GIG Ysbyty Prifysgol Dwyrain Caint.
“Roedd hwn yn gyfle gwych i ddysgu mwy am y system ROSA ac i weld y llawdriniaethau”, meddai.
“Mae canlyniadau gweladwy i gleifion sydd yn derbyn y math yma o lawdriniaeth a byddaf yn mynd â’r profiad hyn yn ôl gyda mi i’w rannu â chydweithwyr yn fy ymddiriedolaeth sydd hefyd yn awyddus i ymweld er mwyn dysgu mwy.”
Mae’r Llawfeddyg Orthopedig Ymgynghorol, Michael James Grant o Ysbyty Maelor Wrecsam hefyd wedi ymweld er mwyn gweld y robot ar waith.
“Treuliais ddiwrnod gyda’r tîm theatr ac roedd yn ddefnyddiol iawn gweld sut maen nhw’n defnyddio’r robot hwn a’r canlyniadau a ddaw ohono” meddai.
“Treuliais chwe mis yn Seland Newydd yn gwneud rhywfaint o waith robotig a gobeithio bod hyn yn rhywbeth y byddwn yn gallu ei gynnig i fwy o gleifion yn y dyfodol.”
Mae'r bartneriaeth gyda Zimmer Biomet hefyd wedi rhoi'r cyfle i greu rôl Cymrodoriaeth Cluniau a Phen-gliniau Robotig, a sefydlwyd ym mis Chwefror 2024. Mae hyn yn rhoi cyfle i lawfeddygon uwch weithio gyda'r Bwrdd Iechyd am chwe mis a hyfforddi mewn roboteg cyn gwneud cais am rôl Ymgynghorol.