Yr wythnos hon, bydd James Norton, un o sêr y gyfres Happy Valley, yn darllen stori awdur a seicolegydd o Wrecsam ar raglen CBeebies Bedtime Story i helpu plant ifanc ddeall mwy am ddiabetes a sut y gellir ei reoli.
I nodi Wythnos Diabetes 2024 (10 -16 Mehefin), bydd James Norton sydd ei hun â diabetes math 1, yn darllen 'How to Manage a Mammoth', stori a ysgrifennwyd gan Dr Rose Stewart, Seicolegydd Clinigol ym Mwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, ac a ddarluniwyd gan Richard Dwyer.
Ysgrifennwyd y llyfr, a grëwyd mewn cydweithrediad â GIG Cymru ac a gyhoeddwyd gan Wasg Prifysgol Caergrawnt, i helpu teuluoedd i archwilio sut y maen nhw'n teimlo am fyw gyda diabetes. Mae'n eu hannog i feddwl amdano fel anifail, rhywbeth na fydd yn diflannu ond rhywbeth y maen nhw'n gallu dysgu ei dderbyn a'i reoli.
Yn y stori ‘How to Manage a Mammoth’, mae Jake, 8 oed, yn dychmygu bod ei ddiabetes yn famoth o’r enw Mel, ac yn dysgu byw gydag ef. Mae Jake, ei fam a'i ffrindiau yn dod at ei gilydd i feddwl am ffyrdd i wneud Mel y mamoth diabetes yn llai ac yn haws i'w reoli.
Dywed James Norton, a gafodd ddiagnosis o'r cyflwr yn 22 oed: "Ci mawr blewog o'r enw Bruce yw fy anifail diabetes i. Roedd o'n gi bach pan ddaeth ataf i yn gyntaf. Roedd o'n anodd ei reoli oherwydd ei fod yn cyffroi cymaint. Erbyn hyn, mae'n hŷn ac yn dawelach.
Mae'n dal i deimlo'n ofnus pan fydd rhywun wrth y drws neu pan fydd o'n llwglyd. Bryd hynny, mae'n cyfarth yn uchel. Weithiau, pan fydd o'n cyffroi, mae'n rhedeg yn wyllt. Ond ar y cyfan, mae'n cerdded ling-di-long wrth fy ymyl. Bruce yw fy ffrind. Dw i'n falch iawn o ddweud bod Bruce erbyn hyn dan reolaeth ac yn dawel, sy'n fy ngwneud i deimlo'n hapus ac wedi ymlacio."
Er mwyn helpu teuluoedd â phlant sydd â diabetes, mae Pecyn Cymorth Rhieni BBC Bitesize wedi cyhoeddi erthygl yn cynnwys cyngor gan James ar sut i ddod i delerau â chael diagnosis, ac awgrymiadau ar sut i drin y cyflwr gan arbenigwyr o Diabetes UK a Dr Stewart, awdur 'How to Manage a Mammoth'.
Wrth siarad am ei llyfr dywedodd Dr Stewart: “Gall byw gyda diabetes fod yn straen gwirioneddol weithiau, a gall fod yn anodd cael cymorth ar gyfer hyn. Datblygwyd y gyfres o lyfrau hunangymorth Talking Type 1 i fynd i'r afael â pheth o'r bwlch sydd mewn adnoddau iechyd seicolegol ar gyfer pobl sy'n byw gyda diabetes. Fe wnaethon
ni ysgrifennu’r llyfr plant fel ffordd o helpu teuluoedd i archwilio sut maen nhw’n teimlo am fyw gyda diabetes gan ddefnyddio fformat llyfr lluniau hwyliog sy’n helpu pethau i deimlo’n ddiogel.
“Mae hefyd yn rhoi ffordd i deuluoedd siarad am ddiabetes a’u teimladau am ddiabetes mewn ffordd wahanol, a’i wneud yn llai brawychus neu ddiflas. Y peth pwysig yw nad yw Mel yn diflannu. Bydd bob amser yn rhan o Jake ac yn rhan o deulu Jake. Trwy ddeall sut i dderbyn Mel, wrth barhau i wneud yr holl bethau y mae'n eu mwynhau, mae Jake yn dysgu sut i'w reoli; a gobeithiwn y bydd y llyfr hwn yn helpu plant a’u teuluoedd i fynd beth o’r ffordd tuag at dderbyn eu diabetes nhw hefyd.
Ychwanegodd Dr Stewart: “Mae cael llwyfan enfawr fel CBeebies a darllenydd fel James Norton yn ddatblygiad cyffrous iawn i bawb sy’n ymwneud â’r llyfrau. Rydym yn gobeithio y bydd gallu cyfathrebu am straen byw gyda chyflwr hirdymor ar slot teledu prif ffrwd, yn helpu plant a theuluoedd ledled y DU i deimlo eu bod yn cael eu cefnogi a’u grymuso, ac yn anad dim, i wybod nad ydyn nhw ar eu pen eu hunain os ydyn nhw'n teimlo eu bod yn cael trafferth.”
Bydd y rhaglen CBeebies Bedtime Story gyda James Norton yn cael ei darlledu ar CBeebies am 6.50pm ddydd Gwener, 14 Mehefin.