Neidio i'r prif gynnwy

Wythnos Genedlaethol Atal Codymau: Sut ydych chi eisiau i'ch ymddeoliad edrych?

26/09/2024

Codymau yw un o brif achosion anafiadau a derbyniadau i'r ysbyty wrth i ni heneiddio, ond bydd cynnal eich cryfder corfforol pan fyddwch yn ieuengach yn eich helpu i aros yn actif yn ystod blynyddoedd eich ymddeoliad.

Mae Nicola Bone, Arweinydd Atal Codymau yn Ardal y Canol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, yn annog pobl yn eu 40au a’u 50au i feddwl am sut y maent eisiau i’w hymddeoliad edrych o ran eu hiechyd, eu symudedd a’u hannibyniaeth.

Dyma rai o bwyntiau allweddol Nicola er mwyn cynnal eich cyhyrau, eich cryfder a’ch cydbwysedd ar gyfer ymddeoliad actif.

  1. Wrth i ni heneiddio, mae’r corff yn ei chael hi’n anodd cynnal nifer y ffibrau yn y cyhyrau - Mae colli cyhyrau sy'n gysylltiedig ag oedran yn cael ei alw'n sarcopenia ac mae arbenigwyr yn meddwl bod gennym ni’r nifer mwyaf o ffibrau yn y cyhyrau pan rydym tua 35-40 oed, cyn i ni ddechrau eu colli ar gyfradd o tua 1 y cant y flwyddyn.
  2. Mae cyhyrau cryfach, yn enwedig yn rhan isaf y corff yn ein helpu i sefydlogi’r cymalau a’n cadw i gerdded, sefyll, arafu a newid cyfeiriad heb golli ein cydbwysedd.
  3. Mae cynnal ein hyblygrwydd a’n gallu i gydbwyso yn ein galluogi ni i gynnal osgo syth ac mae hyn yn hanfodol wrth atal codymau yn ystod gweithgareddau statig bywyd bob dydd.
  4. Mae canllawiau’r Llywodraeth yn datgan y dylem fod yn gwneud ymarfer corff cymedrol am 150 munud yr wythnos a 75 munud o ymarfer corff egnïol, fodd bynnag, mae unrhyw fath o ymarfer corff a symudiad yn ddechrau. (Ymgynghorwch â’ch darparwr gofal iechyd lleol os ydych yn newydd i ymarfer corff, a’ch Meddyg Teulu os oes gennych unrhyw gyflyrau meddygol.)

Dywedodd Nicola: “Os ydym yn ddigon lwcus i gyrraedd henaint, bydd ein cyrff yn newid ac yn heneiddio gyda ni. Gyda hyn, efallai y daw anawsterau wrth symud o gwmpas a chynnal ein hannibyniaeth. Felly, gofynnwch i’ch hun, ‘pa lefel o annibyniaeth yr wyf eisiau yn ystod fy 60au, fy 70au a’r tu hwnt? Sut yr wyf eisiau i fy ymddeoliad edrych? Faint o bwysigrwydd yr wyf yn ei roi ar ansawdd fy mywyd a fy annibyniaeth swyddogaethol?’

“Mae’n syml, po fwyaf y gallwn ei wneud i gynnal ein cryfder, ein cydbwysedd, ein hyblygrwydd a’n cydsymud tra’r ydym yn ifanc, y mwyaf gwydn y gallwn fod yn ein blynyddoedd hŷn, ond nid yw byth yn rhy hwyr i ddechrau gweithio i gael y corff yr ydych ei eisiau yn eich henaint, ac rydym yma i’ch cefnogi bob cam o’r ffordd.”

Gwyliwch Nicola yn trafod yr hyn y gallwch ei wneud i gynnal eich cryfder ar gyfer ymddeoliad iach yma: