Neidio i'r prif gynnwy

Ward Plant Wrecsam i gynnal gwasanaeth arbennig ar gyfer teuluoedd sydd wedi cael eu heffeithio gan golled

12/11/2024

Mae teuluoedd sydd wedi profi colli plentyn yn cael eu gwahodd i Wasanaeth blynyddol Sêr Disglair Ysbyty Maelor Wrecsam.

Mae’r gwasanaeth blynyddol, a gynhaliwyd gyntaf yn 2006, yn gyfle i gofio ar y cyd a dathlu bywydau plant, ac i deuluoedd gwrdd ag eraill sydd wedi bod trwy brofiadau tebyg, yn ogystal â gweld staff ysbyty o’r ward.

Bydd y Gwasanaeth Sêr Disglair yn cael ei gynnal ddydd Sul, 17 Tachwedd, am 2pm yng Nghapel Ysbyty Maelor Wrecsam, ac mae ar agor i’r holl deuluoedd sydd wedi colli plentyn yn Ward Plant yr ysbyty, yr Adran Achosion Brys neu adref gyda chymorth y timau cymunedol.

Dywedodd Rebecca Morris, Rheolwr Ward Plant Ysbyty Maelor Wrecsam: “Yn y gorffennol, mae llawer o deuluoedd wedi ymuno â ni ar gyfer y gwasanaeth hwn a byddai’n hyfryd cael gweld yr wynebau cyfarwydd hynny eto yn ogystal â chael croesawu rhai wynebau newydd hefyd.

“Mae’r teuluoedd a’r staff yn cael cysur yn y ffaith bod eu plant yn cael eu cofio mor annwyl.”