02.10.2024
Mae canolfan cymorth canser Maggie's yn Sir Ddinbych yn dechrau ar ei thaith diolch i £4 miliwn gan Sefydliad Steve Morgan
Torri tir ar safle canolfan cymorth canser newydd yng Ngogledd Cymru. Bydd canolfan Maggie’s yn cael ei chomisiynu, ei dylunio a’i hariannu’n llwyr gan Sefydliad Steve Morgan ac mae’n cael ei hadeiladu ar dir Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan, Sir Ddinbych.
Bydd y ganolfan yn cynnig cymorth ymarferol, seicolegol ac emosiynol am ddim i bobl â chanser, yn ogystal â'u teuluoedd a'u ffrindiau, o bob rhan o'r rhanbarth - gan gynnwys Bangor a Wrecsam. Mae 4800 o bobl yn cael diagnosis newydd o ganser bob blwyddyn yng Ngogledd Cymru. Disgwylir y bydd y ganolfan ar agor erbyn diwedd 2025.
Cafodd Samantha Price, 31, ddiagnosis o ganser y fron yn 2023. Mae hi’n dod o Sir y Fflint, Gogledd Cymru, ond yn cael ei chefnogi gan Maggie’s, Cilgwri. Dywedodd: “Clywais am Maggie’s gyntaf pan soniodd fy nyrs gofal y fron ar ôl fy mastectomi, oherwydd roeddwn i’n cael cryn drafferth dygymod â phopeth oedd yn digwydd i mi. Es i draw i Maggie’s, Cilgwri, gan mai dyna oedd y ganolfan agosaf ataf. Eisteddais gydag un o’r arbenigwyr cymorth canser ac roeddwn i’n teimlo’n gyfforddus yn syth a chefais fwrw fy mol. Teimlais ryddhad o gael trafod fy nheimladau a'm hemosiynau.
“Rwyf wedi bod yn mynd yn ôl ers hynny ac rwyf wedi cwrdd â phobl wych yno. Yn Maggie’s gallwch fod yn chi’ch hun heb neb yn eich barnu. Mae'n gwneud i rywun deimlo’n llai unig.
“Mae cael Maggie’s yng Ngogledd Cymru yn mynd i fod mor fuddiol i gymaint o bobl, yn enwedig i bobl nad oes ganddyn nhw’r modd i deithio i ganolfan Maggie’s arall.”
Canolfan Maggie's yng Ngogledd Cymru - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (gig.cymru)
Dywedodd y Fonesig Laura Lee, Prif Weithredwr Maggie’s: “Rydym wrth ein bodd ein bod wedi torri tir ar safle ein canolfan yng Ngogledd Cymru.
“Heb gefnogaeth hynod hael Sefydliad Steve Morgan i gomisiynu, dylunio, adeiladu ac ariannu'r prosiect, ni fyddem wedi gallu dod â Maggie’s i Ogledd Cymru. Rwy'n ddiolchgar dros ben.
“Mae Sefydliad Steve Morgan wedi ymrwymo i adeiladu tair canolfan Maggie’s newydd – gan gynnwys yr un yng Ngogledd Cymru – sy’n weithred ryfeddol o ddyngarwch.
“Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at barhau i weithio’n agos gyda Sefydliad Steve Morgan, a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i sicrhau bod pobl Gogledd Cymru yn cael y gefnogaeth sydd eisoes wedi bod yn gwneud cymaint o wahaniaeth i fywydau pobl o rannau eraill o Gymru am 13 mlynedd.”
Mae Sefydliad Steve Morgan wedi darparu £4 miliwn i adeiladu’r ganolfan yng Ngogledd Cymru ac eisoes wedi comisiynu, dylunio, adeiladu ac ariannu'r ganolfan Maggie’s yng Nghilgwri
a agorodd yn swyddogol ar dir Canolfan Ganser Clatterbridge, Cilgwri ym mis Medi 2021. Yn 2023 darparodd y ganolfan fwy na 17,500 o sesiynau cymorth i grwpiau neu unigolion sy'n byw gyda chanser.
Mae trydedd ganolfan Maggie’s yn Lerpwl (sydd i’w hadeiladu ar dir Ysbyty Brenhinol Newydd Lerpwl wrth ymyl Canolfan Ganser newydd Clatterbridge, Lerpwl) hefyd yn y camau datblygu, diolch i Sefydliad Steve Morgan.
Dywedodd Steve Morgan, Cadeirydd Sefydliad Steve Morgan, : “Rydym yn falch iawn o fod yn helpu Maggie’s i ddod â’i chefnogaeth canser hanfodol i bobl Gogledd Cymru, gan sicrhau y bydd ganddynt gefnogaeth arbenigol gynnes, groesawgar a rhad ac am ddim canolfan Maggie’s ar garreg eu drws.
“Mae ein cydweithrediad â Maggie’s yn un o’r enghreifftiau cryfaf o’n hathroniaeth ‘dyngarwch aflonyddgar’. Mae’n amlygu gallu’r Sefydliad i ‘roi’ yn dda, drwy ddefnyddio ein harbenigedd, cymorth ymarferol a phrofiad masnachol i wneud y mwyaf o effaith ein cymorth ariannol.”
Mae Ysbyty Glan Clwyd yn cael ei reoli gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ac mae'n gartref i Ganolfan Trin Canser Gogledd Cymru.
Dywedodd Carol Shillabeer, Prif Swyddog Gweithredol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: “Rwyf wrth fy modd bod Maggie’s, gyda chymorth hael Sefydliad Steve Morgan, wedi dewis Gogledd Cymru fel lleoliad nesaf ei rwydwaith o ganolfannau cymorth. Rydym i gyd yn ymwybodol o’r gwaith y mae’r elusen yn ei wneud i gefnogi’r rhai â chanser, y rhai sydd wedi cael canser, eu teuluoedd a’u ffrindiau.
“Dyma adnodd a fydd yn cael ei ddefnyddio'n aml ac yn cael ei werthfawrogi. Bydd yn ychwanegiad i'w groesawu at y gwaith elusennol arall sy’n digwydd, yn ogystal â gwaith Canolfan Ganser Gogledd Cymru yma yn Ysbyty Glan Clwyd. Bydd yn darparu haen arall o gymorth i bobl ar draws ein rhanbarth cyfan.
“Mae torri'r tir heddiw yn garreg filltir arwyddocaol. Edrychaf ymlaen at weld canlyniad yr holl waith caled i ddod, pan fydd y drysau’n agor y flwyddyn nesaf.”
Maggie’s, Gogledd Cymru, y disgwylir iddi agor ei drysau yn 2025, fydd y drydedd ganolfan Maggie’s yng Nghymru, gyda Maggie’s, Abertawe yn agor yn 2011 a'r ganolfan yng Nghaerdydd yn agor yn 2019. Cefnogodd y ddwy ganolfan hyn bobl â chanser, yn ogystal â'u teulu a'u ffrindiau, fwy na 19,000 o weithiau yn 2023.
Rydym yn obeithiol y bydd cefnogaeth hael Sefydliad Steve Morgan yn denu rhoddwyr eraill a chefnogaeth y gymuned leol i’n helpu i godi’r £1miliwn sydd ei angen arnom i agor y ganolfan newydd.
Gyda 28 mlynedd o brofiad, mae Maggie’s yn darparu gofal a chymorth canser mewn canolfannau cynnes a chroesawgar ledled y DU. Mae Maggie’s yn darparu gofal canser arbenigol a chefnogaeth i bawb sydd â chanser, a’u ffrindiau a’u teuluoedd.
Gallwch ddod i ymweld â Maggie's heb drefnu ymlaen llaw. Mae cymorth Maggie's yn rhad ac am ddim, a does dim angen apwyntiad na chael eich cyfeirio.
Dilynwch newyddion diweddaraf y Bwrdd Iechyd trwy gofrestru ar gyfer ein rhestr bostio Sign up (es-mail.co.uk)