07/10/2024
Mae’r prosiect wedi bod yn cael ei gynnal ers 2018, gyda chefnogaeth gan y tri sefydliad, gan gynnwys Home-Start Wrecsam, i greu a chynnal arhosiad gwersylla tri diwrnod a dwy noson ar gyfer teuluoedd yng Nghastell y Waun.
Mae’r gwersyll am ddim i deuluoedd ac mae’n cael ei ariannu drwy arian gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, yn ogystal ag arian a godwyd gan y timau, a rhoddion hael gan y cyhoedd a sefydliadau lleol.
Dywedodd un teulu a aeth i’r gwersyll: “Diolch yn fawr i bob un ohonoch am y cyfle, cafodd y plant yr amser gorau, ac roedd mor hyfryd cael ymlacio a mwynhau ein hunain i ffwrdd o fywyd bob dydd. Roedd yn brofiad mor anhygoel, rydym wedi gwneud atgofion hyfryd.”
Mae’r gwersyll wedi’i leoli yn Dôl Ofalgar yng Nghastell y Waun, sy’n darparu lleoliad hardd i deuluoedd fwynhau seibiant o’r drefn arferol. Gan ei fod yn haf o chwarae, roedd gweithgareddau hwyliog yn y castell ac yn y cae cesyg gwair, yn ogystal â thân gwersyll gyda'r hwyr, brwydrau dŵr yn y weirglodd, taith dywys o amgylch y castell a’r gerddi, ac amser hamddenol cyffredinol a gorffwys mawr ei angen.
Dywedodd Robin Ranson, Uwch Ymarferydd Gwella Iechyd ar gyfer Tîm Gwella Iechyd BIPBC: “Dyma fy hoff brosiect i fod yn rhan ohono fel tîm. Mae’r partneriaid yn anhygoel, ac mae’r staff a’r gwirfoddolwyr yn haeddu medalau am eu gwaith caled a’u hymdrechion wrth drefnu a chefnogi’r gwersyll.
“Rwy’n ddigon ffodus i fod wedi bod yn rhan o bob cyfarfod a bob Camp@Castle ers iddo ddechrau, ac rwy’n edrych ymlaen at yr haf nesaf yn barod. Mae’r gwaith caled sy’n mynd rhagddo y tu ôl i lenni’r gwersyll ei hun yn ganmoladwy, gan y sêr sy'n gweithio i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol a Home-Start Wrecsam.
“Roedd y teuluoedd yn hollol hyfryd, gan ddangos gwerthfawrogiad gyda gwên ar eu hwynebau yr holl amser yr oeddent yno. Mae bob amser yn anodd ffarwelio ar ddiwedd y gwersyll, ond mae pob un ohonom yn gyffrous i’w gweld eto yn fuan drwy’r Rhaglenni Gwella Iechyd gwahanol yr ydym yn eu cynnal yn y cymunedau, yr ysgolion a’r gweithleoedd.”
Dywedodd Sue Jones, Rheolwr Gwirfoddoli a Chynnwys y Gymuned, Gogledd Ddwyrain Cymru: “Sefydlwyd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol i sicrhau bod pawb yn cael manteisio ar natur a hanes. Am nifer o resymau, gall rhai ei chael hi’n anodd cael mynediad at ofodau hardd yn ein gofal, heb sôn am fwynhau seibiant teuluol gyda’i gilydd. Gwersylla yn y Castell yw uchafbwynt ein blwyddyn wrth i ni groesawu rhai teuluoedd haeddiannol iawn i dreulio amser yn rhywle mae pob un ohonom yn ei garu, gan fwynhau manteision y lleoliad yn ogystal â’r harddwch, yr heddwch a’r tawelwch sydd eu hangen ar bob un ohonom ar ryw adeg yn ein bywydau.”
Dywedodd Pam Holye, Cyfarwyddwr Home-Start Wrecsam: “Rydym yn hynod ddiolchgar i’r tîm cydweithredol sy’n gweithio’n anhunanol i greu’r hud a lledrith. Roedd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn rhywle yr oeddem eisiau mynd â’n teuluoedd â chymorth erioed. Mae’r profiad o syfrdandod a rhyfeddod yn rhywbeth y dylai pob plentyn ei gael yn eu bywydau.”