Neidio i'r prif gynnwy

Tair nyrs o Ysbyty Gwynedd yn dathlu 148 mlynedd o wasanaeth ym maes nyrsio rhyngddynt

30 Awst, 2024

Mae tair nyrs o Ysbyty Gwynedd yn dathlu bron i 150 mlynedd o wasanaeth ym maes gofal iechyd rhyngddynt eleni.

Gwnaeth y Nyrs Theatr Ann Pugh gwblhau 55 mlynedd o wasanaeth - mae hyn yn garreg filltir ryfeddol ac mae'n nodweddu'r ymroddiad a'r ymrwymiad eithriadol y mae hi wedi'u dangos yn ystod eu gyrfa, yn enwedig ym maes theatrau yn y Bwrdd Iechyd.

Dros y blynyddoedd, mae Ann wedi bod yno i weld rhai o'i chydweithwyr yn cael eu geni ac mae hi wedi'u gwylio a'u cefnogi o ran datblygu yn eu rolau yn nhîm y Theatr.

Nid oes gan Ann unrhyw gynlluniau i ymddeol yn llwyr yn fuan ac mae hi'n parhau i weithio'n rhan-amser yn ei rôl fel nyrs theatr.

Dywedodd: "Dydw i ddim yn gwybod i ble mae'r blynyddoedd wedi mynd, mae'r cyfan wedi hedfan. Rydw i wastad wedi mwynhau fy ngwaith yn fawr ac rydym ni bob amser yn gweithio fel tîm ac rydw i'n hynod falch o fod yn rhan o'r cyfan."

Gwnaeth Prif Nyrs Mary Williams o Ward Dulas yn yr ysbyty ymddeol y mis yma ar ôl cwblhau 48 mlynedd o wasanaeth - dros bum degawd bron, mae hi wedi cynnig gofal eithriadol i'n cleifion ac mae hi wedi rhoi cymorth i'w chydweithwyr nyrsio, yn benodol rhoi hyfforddiant ac arweiniad o ran datblygu myfyrwyr nyrsio.

Dywedodd: "Roedd yn benderfyniad anodd iawn i mi adael y proffesiwn nyrsio, rydw i wedi cael gyrfa anhygoel ac rydw i wedi gweithio gyda chydweithwyr anhygoel sydd wedi dod yn ffrindiau gydol oes."

Hefyd yn ymddeol y mis yma, mae'r Nyrs Glinigol Arbenigol ym maes Gynae-oncoleg, Liz Hall, sydd wedi bod yn gwasanaethu yn y GIG am 48 mlynedd.

Liz oedd y Nyrs Golgosgopi Arbenigol gyntaf yng Nghymru a gwnaeth helpu i ddatblygu'r adran Gynaecoleg yn Ysbyty Gwynedd dros y blynyddoedd ochr yn ochr â'i chydweithwyr.

Dywedodd: "Mae nyrsio'n swydd arbennig iawn, yr hyn sydd wedi bod fwyaf gwerth chweil i mi yw'r amser rydw i wedi'i dreulio gyda chleifion, gan roi cymorth iddyn nhw ar yr adeg fwyaf anodd yn eu bywydau, yn ôl pob tebyg.

"Rydw i'n teimlo fy mod i wedi cael gyrfa wych, rydw i bob amser wedi bod yn angerddol dros nyrsio a datblygiad yn y proffesiwn."