20 Mai 2024
Mae adeilad model newydd yn helpu i baratoi cleifion ifanc yn yr ysbyty ar gyfer eu sganiau yn Ysbyty Gwynedd.
Mae sganwyr CT yn fawr, yn drwm ac yn swnllyd – felly nid yw’n syndod bod gan lawer o blant ofn cael sgan.
Bellach, i’w helpu i ddod i arfer â’r sgan go iawn, gall pobl ifanc yn Ysbyty Gwynedd chwarae a dysgu gan fodel LEGO hwyliog fel y gallant wybod mwy am beth i’w ddisgwyl wrth gael sgan.
Mae gan y model ddarnau sy’n gweithio, gan gynnwys y sganiwr sy’n agor a bwrdd sy’n symud fel gall y staff ddefnyddio’r cymeriadau LEGO bach i helpu plant i ddeall yr hyn a fydd yn digwydd yn ystod eu hapwyntiad.
Gary Griffiths, sy’n saith mlwydd oed, oedd y plentyn cyntaf i brofi’r model newydd cyn ei sgan CT.
Dywedodd ei fam, Charlana Davies: “Roedd Gary ychydig yn nerfus cyn ei sgan ond helpodd y model yn fawr gan ei fod yn gallu gweld yr hyn a oedd yn mynd i ddigwydd.
“Mae’n anhygoel oherwydd gall plant weld yn union sut mae’r ystafell wedi’i gosod cyn iddynt fynd i mewn, rhywbeth sydd yn sicr o leddfu unrhyw orbryder.”
Rhoddwyd y model yn hael i’r ysbyty gan LEGO, a drefnwyd gan y seicolegydd clinigol pediatrig, Dr Liz Whitehead.
Dywedodd: “Mae llawer o blant sy’n cael sgan yn gallu bod yn hynod nerfus; mae gallu eu paratoi ymlaen llaw o ran beth i'w ddisgwyl a gallu siarad am yr hyn fydd yn digwydd, ac ateb eu cwestiynau yn gwneud pethau'n llawer llai pryderus i'r plentyn.
“Mae hwn yn fodel hynod ddefnyddiol gan ei fod wedi profi i fod o fudd wrth roi tawelwch meddwl i blant a gwneud y broses gyfan yn un haws.
“Rydym yn hynod ddiolchgar i LEGO am y rhodd hwn ac rwy’n sicr y bydd yn gwneud gwahaniaeth mawr i’n cleifion ieuengach sydd angen sgan.”