Neidio i'r prif gynnwy

Pobl ifanc yn helpu i greu dyluniadau stribedi comic i gael lleisio eu barn am wasanaethau iechyd

18/12/2024

Mae plant a phobl ifanc wedi helpu i ddylunio graffeg ar ffurf stribedi comic a fideo i helpu i rannu manylion am Siarter Plant Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC).

Cyfres o safonau y bydd sefydliadau yn cadw atynt i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael eu trin yn deg a bod ganddynt lais yw'r Siarter. Ei nod yw gwneud yn siŵr bod y Bwrdd Iechyd yn clywed barn plant a phobl ifanc am benderfyniadau sy'n effeithio ar eu bywydau.

Crëwyd y stribedi comic gan blant a phobl ifanc mewn gweithdai a sesiynau clybiau Ambiwlans Sant Ioan a chlybiau ieuenctid yng Nghonwy a gynhaliwyd i ddarganfod beth maen nhw’n ei feddwl neu’n ei weld, pan fyddan nhw'n clywed am y Siarter Plant.

Crëwyd fideos yn Gymraeg a Saesneg i helpu i greu adnodd gweledol a mwy hygyrch, gan droi jargon yn wybodaeth a delweddau hawdd eu deall i blant a phobl ifanc ddysgu am y Siarter Plant.

Dywedodd Jane Berry, Arweinydd Profiad Cleifion CAMHS: “Mae’n hyfryd cael gwybodaeth sy’n hygyrch ac ar gael i’n plant a’n pobl ifanc yng Ngogledd Cymru. Mae’n dweud wrthyn nhw beth y gallan nhw ei ddisgwyl ac yn dangos beth yw eu hawliau mewn gofal iechyd.

“Rydym ni’n falch o weld brwdfrydedd y bobl ifanc a gymerodd ran yn y prosiect hwn, a'u bod mor awyddus i sicrhau bod eu llais yn cael ei glywed a’u bod yn cael dweud eu dweud am eu gwasanaethau iechyd.”

Yn ddiweddar, bu Alexander Pengelly a Scarlett Williams, pobl ifanc sy’n cefnogi’r siarter, mewn cyfarfod o’r Bwrdd Iechyd. Cymeradwyodd aelodau’r Bwrdd y dylid rhoi’r Siarter ar waith a gwnaethant sylwadau ar bwysigrwydd cydnabod a gwrando ar lais plant.

Alexander a Scarlett yw’r bobl ifanc gyntaf i gyflwyno mewn Cyfarfod Bwrdd. Mae hwn yn gam enfawr ymlaen o ran cynnwys plant a phobl ifanc yn y Bwrdd Iechyd a chael y cyfle i ddylanwadu ar ddarparu gwasanaethau yn y dyfodol.

Dywedodd Alexander: "Mae'r gwaith hwn yn bwysig i mi. Rwy’n gwybod o brofiad personol, y bydd y Siarter Plant yn helpu gweithwyr proffesiynol i roi cyfle i blant a phobl ifanc i leisio barn mewn modd sy'n briodol i'w hoedran, am yr hyn sy'n digwydd iddyn nhw pan fyddan nhw dan ofal ysbytai a meddygon."

Wrth ddatblygu'r Siarter, cynhaliwyd nifer o ddigwyddiadau gyda'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol a fynychwyd gan ysgolion a sefydliadau. Datblygwyd Llyfr Ryseitiau, sef adnodd defnyddiol i sefydliadau ledled Gogledd Cymru, sy'n rhannu dysgu gwerthfawr a mewnwelediadau allweddol gan blant a phobl ifanc am yr hyn sy’n bwysig iddyn nhw a’r hyn maen nhw’n teimlo yw’r elfennau allweddol wrth greu amgylcheddau lle maen nhw’n teimlo bod eu lleisiau’n cael eu clywed, eu lles yn cael ei feithrin a’u hawliau’n cael eu diogelu.

Darllenwch fwy am y Llyfr Ryseitiau a'i adnoddau yma.

Darganfyddwch fwy am y Siarter Plant a'r fideos comic yma.