30.08.2024
Mae nyrs o Sir Ddinbych a welodd golledion Rhyfel y Falkland ac sydd wedi cysuro pobl a oedd yn sâl neu'n galaru, wedi ymddeol ar ôl 49 mlynedd o wasanaethu ei chymuned.
Dechreuodd y Brif Nyrs Beverley Edwards ei shifft gyntaf ym 1975, pan oedd modd prynu Ford Cortina newydd sbon am £1,765, litr o betrol am 16 ceiniog, a thŷ am ddim ond £11,000.
Yn ystod ei bywyd gwaith, pleidleisiodd y wlad o dan Harold Wilson a’r Blaid Lafur i ymuno â’r UE , gan bleidleisio i adael pan oedd Boris Johnson wrth y llyw. Mae Beverley wedi gweithio trwy amseroedd da a rhai nad oedd cystal, gan weld yr anafiadau a achoswyd i filwyr Prydain yn ystod Rhyfel y Falkland.
Yr wythnos diwethaf, cafodd ei chydweithwyr yn nhîm nyrsio ardal Rhuthun a Chorwen gyfle i dalu teyrnged a cholli ambell ddeigryn wrth ffarwelio â hi. Roedd Dyfed Edwards, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Chris Lynes, Dirprwy Gyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio yno hefyd i dalu teyrnged i'w gwasanaeth.
Roedd hi'n amlwg bod Beverley wedi bod yn bresenoldeb cyson ym mywydau pobl yn y cymunedau y bu'n eu gwasanaethu a'r cydweithwyr y bu'n gweithio gyda nhw. Datgelodd cymaint mae'r cyfan wedi'i olygu iddi hi.
Dywedodd: “Mae wedi bod yn fraint ac yn anrhydedd bod yn rhan o fywydau’r bobl hyn. Pan fyddaf yn meddwl am nifer y bywydau rydw i wedi helpu i'w hachub, nifer y bobl rydw i wedi'u gweld yn marw'n heddychlon, fyddwn i'n newid dim.
“Mae gen i atgofion hyfryd ac mae pobl mor ddiolchgar. Weithiau rydyn ni'n meddwl nad yw cleifion yn ddiolchgar, ond maen nhw.”
Ar ôl dod yn Nyrs Gofrestredig y Wladwriaeth dan hyfforddiant yn Wrecsam ym 1975, aeth Beverley ymlaen i weithio yn hen Ysbyty Coffa Rhyfel y ddinas ar Ffordd Grosvenor am flwyddyn. Ond, ym 1980, penderfynodd ddilyn ei breuddwyd ac ymunodd â'r lluoedd.
“Doeddwn i ddim eisiau mynd i’r Fyddin,” meddai cyn cellwair, “Roedd hi rhwng y Llynges a’r Awyrlu, ond doeddwn i ddim yn hoffi’r hetiau roedd nyrsys y Llynges yn eu gwisgo. Felly, fe es i'r Awyrlu.”
Yn ystod ei phedair blynedd a hanner yng Ngwasanaeth Nyrsio Awyrlu Brenhinol y Dywysoges Mary, bu’n gweithio yn RAF Halton, Swydd Buckingham. Yno fel nyrs ifanc gwelodd anafiadau a gafodd effaith ddofn arni, wrth i’r rhai a anafwyd yn Rhyfel y Falkland gael eu trosglwyddo yno o Fôr yr Iwerydd.
Dywedodd: “Roedd gennym ni gleifion o Ynysoedd y Falkland yn yr ysbyty yr oedden ni ynddo. Doeddwn i ddim ar eu ward nhw ond roedd gennym ni’r Gurkhas ac mae gen i atgofion ohonyn nhw, wyddoch chi… fe gawson nhw losgiadau erchyll. Wrth fynd i lawr i'r dderbynfa yn y bore, fe allech chi eu clywed yn sgrechian mewn poen tra roedden nhw'n cael cawod a newid eu gorchuddion. Wyddoch chi, mae'n atgof ... mae'n rhywbeth na allwch chi ei anghofio.”
Dychwelodd Beverley i weithio yn nhîm nyrsio ardal Llangollen a Chefn Mawr, lle enillodd ei Chymhwyster Ymarfer Arbenigol fel Nyrs Ardal. Yn 2010 cafodd lwyth achosion yn nhîm nyrsio ardal Corwen, cyn ymddeol ac yna dychwelyd yn 2018.
Ers 2019 mae Beverley wedi gweithio yn nhîm Rhuthun a Chorwen ond addawodd mai dyma oedd ei chyfnod olaf a’i bod bellach, yn amser iddi roi'r gorau iddi.
Ond, roedd ganddi amser o hyd i gynnig rhai geiriau o gyngor i'r nyrsys ifanc sy'n dilyn yn ôl ei thraed.
“Mae'n rhaid i chi edrych ar ofalu am yr unigolyn hwnnw fel braint,” meddai. “Rydych chi'n rhan o'r hyn sy'n digwydd yn eu bywyd. Mae'n rhaid i chi edrych ar y gwaith ag agwedd gadarnhaol, a dweud y gwir.
“Mae'n rhaid i chi fod yn ofalgar. Mae'n rhaid i chi fod yn angerddol am y swydd - a bod yn dosturiol - a gwrando arnyn nhw. Ar ddiwedd y dydd, mae cleifion yn bobl. Mae'n rhaid i chi wrando ar yr hyn maen nhw'n ei ddweud, beth maen nhw ei eisiau. Mae cyfathrebu yn rhan fawr iawn o fod yn nyrs dda.”
Dilynwch newyddion diweddaraf y Bwrdd Iechyd trwy gofrestru ar gyfer ein rhestr bostio Sign up (es-mail.co.uk)