30 Ebrill 2024
Mae'r profiad i gleifion mewnol yn Ysbyty Gwynedd sydd â gwythiennau sy’n anodd eu darganfod, yn well o ganlyniad i ddefnyddio offer o'r enw canfyddwr gwythiennau.
Bydd unrhyw un sydd wedi profi anhawster wrth ddod o hyd i wythïen, er enghraifft wrth dynnu gwaed, yn gwybod ei fod yn gallu fod yn brofiad anghysurus.
Ar ôl sylwi ar yr angen i wella profiad cleifion â gwythiennau anodd eu darganfod, sicrhaodd y Meddyg Iau, Lois Williams grant o £3000 gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru a £600 gan Fenter Môn, i brynu'r offer drwy fenter Hyfforddeion yn Trawsnewid Hyfforddiant.
Dywedodd Dr Williams: "Rydyn ni wedi bod yn ffodus iawn i gael grant i brynu'r canfyddwr gwythiennau. Rydyn ni'n gobeithio y bydd yn helpu nyrsys, fflebotomyddion, myfyrwyr meddygol a meddygon iau i dynnu gwaed a chanwleiddio cleifion sydd â gwythiennau sy'n anodd eu darganfod.
"Mae'n gweithio drwy ddefnyddio golau is-goch, sy'n dangos i ni lle mae'r wythïen, rhywbeth nad ydyn ni'n gallu ei weld â'r llygaid yn unig.
"Mae hefyd yn ein helpu i leihau'r amser sydd ei angen arnom ni i roi cynnig ar ganwleiddio cleifion, a pha mor aml y mae'n rhaid i ni wneud hynny oherwydd nad ydym ni wedi llwyddo ar y cynnig cyntaf, sy'n gallu achosi cryn bryder i rai cleifion.
"Rydyn ni'n gobeithio y byddwn ni'n gwella ansawdd y gofal i gleifion yn y dyfodol."
Cafodd Dr Williams gydnabyddiaeth am y prosiect hwn yng Nghynhadledd Amser Datblygiad Addysgol i Feddygon Iau yn ddiweddar, lle derbyniodd y wobr gyntaf am y cyflwyniad llafar gorau.
Dywedodd Dr Emyr Huws, Anesthetydd Ymgynghorol sydd wedi mentora Dr Williams yn ystod y prosiect: "Mae Lois wedi gweithio'n arbennig o galed ar y prosiect hwn ac mae'n llawn haeddu'r gydnabyddiaeth hon.
"Mae hi'n feddyg dan hyfforddiant eithriadol sydd wedi mynd ymhell y tu hwnt i'w rôl er mwyn gwella profiadau cleifion a staff yn Ysbyty Gwynedd."
Dywedodd Anton Saayman, Deon Meddygol AaGIC: "Mae AaGIC drwy'r fenter Hyfforddeion yn Trawsnewid Hyfforddiant wedi ymrwymo i ddatblygu a gwella addysg a hyfforddiant ledled Cymru. Mae'n cydnabod pwysigrwydd sylfaenol cynnwys meddygon dan hyfforddiant wrth nodi meysydd i'w gwella yn eu hyfforddiant eu hunain.
"Rydyn ni wrth ein bodd ein bod wedi gallu cefnogi'r prosiect hwn ac rydyn ni'n edrych ymlaen at ei weld yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i addysg a hyfforddiant ôl-raddedig, ac yn y pendraw, i ofal cleifion."